Newyddion o’r stiwdio

Posted on

Mae Rhodri Darcy wedi bod yn hynod brysur dros y misoedd diwethaf yn ffilmio a chasglu deunydd fydd o ddefnydd i eglwysi ac unigolion ym mhob cwr o Gymru. Cyn bo hir bydd modd i chi wylio ffilmiau byr ar amrywiaeth o bynciau. 

‘Rydw i wedi cael cyfnod difyr iawn o deithio a chwrdd â phobl ym mhob cwr o Gymru er mwyn cynnal cyfweliadau a chlywed hanesion a phrofiadau fydd yn cyfoethogi’n bywydau ni o fewn ein heglwysi.’ Cyn bo hir bydd modd i ni gyd wylio ffrwyth ei lafur. 

‘Rydw i wrthi yn cwblhau pennod olaf trydedd flwyddyn Y Ffordd, sef cyfres o raglenni ar ein hanes, ar ein gwaith a phob agwedd o’n bywyd ni fel Annibynwyr sy’n adnodd gwerthfawr ar gyfer eglwysi, cymdeithasau ac unigolion fel ei gilydd. Mae’r bennod nesaf yn trafod Madagascar, ein cysylltiadau hanesyddol ni â’r wlad a’r berthynas i’r dyfodol rhwng Cymru a Madagascar. 

Eleri Edwards wrth ymyl Llyn Tegid

Bydd y bennod yn cynnwys cyfraniadau hynod ddiddorol a gwybodus gan Elenid Jones, sydd wedi ymweld â’r wlad; Eifion Griffiths, un o ddisgynyddion David Griffiths, un o’r cenhadon cyntaf a aeth allan i’r wlad a hefyd Miara Rabearisoa, cafodd ei eni a’i fagu ym Madagascar ac yna daeth draw i weithio yng Nghymru , ym Mhen-rhys yn y Rhondda i ddechrau, bellach mae’n gweithio, gyda’i wraig Rebecca, i’r Eglwys Bresbyteraidd yn Nhrefaldwyn. Dwi wedi mwynhau gweithio ar y bennod hon yn fawr.’

Ysgrifennydd Cyffredinol FJKM, Madgascar, Pastor Ammi yn Aberaeron gyda’r Parchg. Ddr Geraint Tudur

Cyfrannydd pwysig arall i’r bennod hon o’r Ffordd ar Fadagascar yw Pastor Ammi, Llywydd FJKM sef yr eglwys ym Madagascar. Fe gafodd Ammi sgwrs â Geraint Tudur, y cyn Ysgrifennydd Cyffredinol, ar gamera ar ddiwedd y cyfarfodydd blynyddol yn Aberaeron yn 2018 gan esbonio beth sydd wrth wraidd llwyddiant yr eglwys allan ym Madagascar heddiw, efallai y medr Cymru ddysgu rhai gwersi o’u profiadau hwy. Hefyd mae Eleri Edwards, yn wreiddiol o Riwabon, a fu’n genhades allan ym Madagascar yn sôn am y profiadau grymus gafodd hi yn gweithio allan yn y wlad, mae hefyd yn sôn am ddulliau ymarferol ac uniongyrchol i gadw cyswllt â’r wlad drwy ddefnydd technoleg heddiw, mae’r byd wedi mynd yn llai o faint erbyn hyn yn sicr. 

Dywedodd Rhodri, ‘Cefais gymaint o flas ar y sgwrs gydag Eleri, nes i mi benderfynu gwneud pennod fideo o Dyma fy stori gyda hi. Mae ei phrofiadau bywyd a’i ffydd gref hi’n sicr o’n hysbrydoli a’n grymuso ni. Y mae Eleri’n fenyw hynod ac arbennig iawn.’

Parchg. Robin Samuel yn holi’r Parchg Owain Llyr Evans

Yn ogystal â hyn mae Rhodri’n gweithio ar gyfres o ddefosiynau gan Owain Llyr Evans, gweinidog Minny Street, Caerdydd, byddant ar gael ar ein gwefan cyn bo hir gan gynnwys cyfres ar y Grawys. Hefyd bydd fideo estynedig o gyfweliad rhwng Robin Samuel ac Owain Llyr Evans ar gael – bu’r ddau allan yn yr Iseldiroedd mewn cynadleddau a drefnwyd gan CWM yn edrych ar y pwnc cynhyrfus o arloesi a sut y medrwn ni yng Nghymru ddefnyddio llwyddiannau eglwysi’r Iseldiroedd er mwyn gweld twf yng Nghymru –mae’r ddau wedi’i hymegnïo’n llwyr gan yr hyn a welson nhw yno.

Yn sicr mae 2020 am fod yn flwyddyn gynhyrchiol o ran adnoddau fideo. Ewch i wefan annibynwyr.cymru i chwilio am y diweddaraf o ran cynnwys digidol neu rhowch ganiad i Dŷ John Penri i holi am yr adnoddau 01792 795888. Mae’r cyfan yma i chi eu defnyddio nhw.