Neges Nadolig yr Undeb

Posted on

Cafodd Neges Nadolig y Parchg Dyfrig Rees, Ysgrifennydd Cyffredinol yr Undeb, gryn sylw gan y wasg a’r cyfryngau. Bu yn Y Tyst, wrth gwrs, cyn cael sylw gan y BBC a’r Daily Post, ymhlith eraill. Yn rhyfedd iawn, yr un oedd thema’r Frenhines eleni. Efallai bod hi’n darllen Y Tyst!

Dyma’r neges fel yr aeth allan i’r wasg:

GALW AM ODDEFGARWCH AC EWYLLYS DA – Neges Nadolig y Parchg Dyfrig Rees, Ysgrifennydd Cyffredinol Undeb yr Annibynwyr Cymraeg

Fersiwn fer

Mae’r Nadolig i fod yn dymor ewyllys da, ond mae chwerwder am Brexit wedi suro’r awyrgylch eleni, yn ôl un arweinydd Cristnogol Cymreig. “Mae angen goddefgarwch i ostwng y tensiwn gwleidyddol a chyhoeddus presennol,” meddai’r Parchedig Dyfrig Rees, Ysgrifennydd Cyffredinol Undeb yr Annibynwyr Cymraeg – sy’n cynrychioli Cristnogion sy’n cwrdd mewn 400 o gapeli ledled Cymru. “Rhaid i ni beidio â chaniatáu i’r ddadl am adael yr UE achosi dicter cyhoeddus parhaol neu achosi niwed difrifol i’n perthynas â’n cymdogion Ewropeaidd. Beth bynnag fydd statws y berthynas honno erbyn diwedd y broses gyfredol, mae’n rhaid iddi barhau i fod yn un gyfeillgar,” meddai’r Parchg Rees. “Rhaid i ni gofio mai gadael yr Undeb Ewropeaidd y byddwn, nid gadael Ewrop.”

 Fersiwn hirach

“Cafodd Iesu ei eni mewn lle ag amser peryglus iawn, fel y tystia hanes lladd plant bach Bethlehem. Dwy fil o flynyddoedd yn ddiweddarach, mae tensiynau gwleidyddol yn parhau’n fygythiad i wahanol raddau. Mae’n ffaith drawiadol mai’r babanod a enir y Nadolig hwn fydd, mwy na thebyg, y Dinasyddion Ewropeaidd olaf i gael eu geni dros yr ŵyl ym Mhrydain ers 1973. Dros yr wythnosau diwethaf, mae’r tensiwn ynglŷn â’r broses o adael y Gymuned Ewropeaidd wedi cynyddu’n aruthrol, gyda rhwygiadau dwfn yn y senedd yn San Steffan ac mewn trafod ar lawr gwlad. D’oes dim byd yn unedig ynglŷn â barn pobl yn y Deyrnas Unedig y dyddiau hyn.

“A ninnau yn nhymor ewyllys da, mae galw arnom i ymarfer goddefgarwch rhag ofn i’r sefyllfa droi’n fwy chwerw fyth. Nac anghofiwn beth ddigwyddodd i’r aelod seneddol Joe Cox druan a lofruddiwyd yn ystod y refferendwm yn 2016. Nac anghofiwn, ychwaith, y miloedd a fu fawr yn yr helyntion yn Iwerddon. Trwy gymod a maddeuant anhygoel y llwyddwyd i ddod â’r gwrthdaro yno i ben. Byddai’n bechod aruthrol petai’r heddwch a brynwyd mor ddrud yn cael ei chwalu nawr.

“Mae gan bron bawb farn am ein perthynas ag Ewrop. Ond beth bynnag fydd statws y berthynas honno erbyn diwedd y broses bresennol, rhaid iddi barhau i fod yn un gyfeillgar. Rhaid i ni gofio mai gadael y Gymuned Ewropeaidd y byddwn, nid gadael Ewrop.” 

www.dailypost.co.uk/news/north-wales-news/church-leaders-issue-christmas-messages-15580454

http://www.bbc.co.uk/cymrufyw/46593250