Myfyrdod ar gyfer Diwrnod Rhyngwladol Heddwch

Posted on

gan y Parchg Andrew Lenny

Parchg Andrew Lenny

Wrth baratoi pregeth ar y geiriau, “A maddau inni ein troseddau, fel yr ŷm ni wedi maddau i’r rhai a droseddodd yn ein herbyn” (Mathew 6:12), cefais fy nghyffwrdd yn fawr gan yr hanesyn hwn:

Yn dilyn yr Ail Ryfel Byd ymwelodd gŵr a gwraig yn dwyn yr enw Grossmeyer â Gwlad Pwyl gan ofyn i Gristnogion y wlad, “A fyddech chi’n barod i gyfarfod â rhai Cristnogion o Orllewin yr Almaen? Maent yn dymuno gofyn am faddeuant am yr hyn a wnaeth yr Almaen yn ystod y rhyfel a sefydlu perthynas newydd. A wnewch chi gyfarfod â hwy?” Cafwyd tawelwch llethol am amser hir. Yna dywedodd un o’r Cristnogion ymhlith y Pwyliaid, “Mae’r hyn yr ydych yn ei ofyn yn amhosibl. Mae pob carreg yn Warsaw yn diferu gan waed Pwyliaid a laddwyd gan yr Almaenwyr. Ni allwn faddau.” Roedd y Grossmeyers yn deall sut yr oeddent yn teimlo ond cyn iddynt ymadael gofynasant am gael gweddïo Gweddi’r Arglwydd gyda hwy. Maent i gyd yn penlinio gan weddïo fel mae Cristnogion wedi gwneud ers ugain canrif,

“Ein Tad yn y nefoedd, sancteiddier dy enw; deled dy deyrnas; gwneler dy ewyllys, ar y ddaear fel yn y nef. Dyro inni heddiw ein bara beunyddiol; a…”

Ni allasent weddïo mwy. Cafwyd tawelwch hir a dirdynnol, ac yn y diwedd dywedodd yr un a ddywedodd na allasent faddau, “Rhaid i fi fodloni i’ch cais oherwydd os na wnaf fi faddau ni allaf eto weddïo’r weddi hon. Ni allaf eto alw fy hun yn blentyn i Dduw os na wnaf fi faddau. A siarad yn ddynol, ni allaf. Ond bydd Duw yn rhoi nerth i mi.” Maen nhw’n cwblhau’r weddi a deunaw mis yn ddiweddarach cyfarfu Cristnogion o Wlad Pwyl a Christnogion o Orllewin yr Almaen yn Vienna a sefydlu cyfeillgarwch sydd wedi parhau hyd y dydd heddiw.

Rhaid i ni hefyd gymryd saib fel y Pwyliaid wrth weddïo Gweddi’r Arglwydd a gofyn i’r Ysbryd Glân ein goleuo a’n harwain, a rhoi i ni’r gras i ofyn am faddeuant ac i faddau.

Andrew Lenny