Dydd Sadwrn,18 Ebrill: Lansio Rhwydwaith Merched Undeb yr Annibynwyr Cymraeg yn Seion, Stryd y Popty, Aberystwyth 11.00-3.30.
Pwyslais y mudiad newydd fydd Addysgu, Ymgyrch a Gwasanaethu, gan obeithio y bydd yn ymledu i’r eglwysi ymhob rhan o’r wlad.
Mae gwahoddiad i bob Cyfundeb i anfon pedair cynrychiolydd i’r lansiad – sef llond car o bobl.
Byddai hynny’n sicrhau fod o leiaf 60 yn bresennol, er mwyn cael lansiad teilwng ac urddasol.
Bydd te, coffi a diodydd oer yn cael eu darparu yn festri Seion, ond dylai’r cynrychiolwyr ddod â chinio gyda hwy. Bydd yn bosibl bwyta wrth y byrddau yn y festri.
Os bydd mwy na phedair yn dymuno dod o’ch Cyfundeb chi, yna mae croeso cynnes iddynt! Ond byddai’n dda sicrhau cwmni o leiaf bedair o bob Cyfundeb.