Mae Llywydd Undeb yr Annibynwyr Cymraeg wedi anfon llythyr at lysgennad yr Unol Daleithiau ym Mhrydain yn mynegi sioc ynglyn â beth sy’n digwydd yn y wlad honno ac arswyd o weld ymateb yr Arlywydd Trump. Dywedodd y Parchg Jill-Hailey Harries fod ymddygiad heriol yr Arlywydd yn chwifio Beibl y tu allan i eglwys wedi gwaethygu sefyllfa oedd eisoes yn ymfflamychol. Mynegodd ei thristwch bod rhai cyfarfodydd wedi troi’n derfysgoedd, ond bod hi’n gwerthfawrogi’r ofn a’r rhwystredigaeth sy’n gyrru pobl i’r fath eithafion.
Llywydd Undeb yr Annibynwyr a’r Parchg Jeffrey Williams.
Cadeirydd Adran Dinasyddiaeth Gristnogol Undeb yr Annibwynyr Cymraeg
Annwyl Lysgennad UDA
Rydym yn ysgrifennu atoch yn rhinwedd ein swyddi fel Llywydd ac fel Cadeirydd Adran Dinasyddiaeth Gristnogol Undeb yr Annibynwyr Cymraeg, sy’n cynrychioli dros 400 o eglwys Cristnogol ledled Cymru.
Cawn ein gorfodi i amlygu ein syfrdandod a’n sioc oherwydd llofruddiaeth George Floyd drwy law Heddlu Gwladol, y gwrthdystiadau a’r ralïau ddaeth yn ei sgil, ac amgyffred yr Arlywydd Donald Trump o’r argyfwng a’i ymateb ymosodol.
Rydym yn casáu hiliaeth â chas perffaith, ac yn credu yn yr hawl i wrthdystio, ac wedi’n tristáu o weld fel mae rhai cyfarfodydd wedi tyfu’n derfysgoedd. Fodd bynnag, gwerthfawrogwn yr ofn a’r rhwystredigaeth sy’n gyrru pobl i’r fath eithafion, ac rydym wedi’n brawychu gan elyniaeth yr Arlywydd Trump tuag at ei bobl ei hun.
Daeth hyn i’w benllanw yn y digwyddiad anfaddeuol y tu allan i Eglwys Sant Ioan, pan wrthiwyd gwrthdystwyr ac arweinwyr ac aelodau eglwysig o’r neilltu yn dreisgar er mwyn
paratoi lle i’r Arlywydd Trump gael annerch newyddiadurwyr y byd mewn modd ymladdgar tra roedd yn chwifio Beibl, a thrwy hynny, waethygu sefyllfa oedd eisoes yn ymfflamychol.
Cydymdeimlwn yn llwyr â lleiafrifoedd ethnig America sy’n byw mewn ofn parhaus o gael eu harestio a’u gwaradwyddo, poenwn am sefydlogrwydd eich cenedl, a gwerthfawrogwn rwystredigaeth Americaniaid da a chyfrifol sydd am wneud America’n ddiogel unwaith eto.
Yr eiddoch yn gywir,
Parchg Jill-Hailey Harries.
Llywydd Undeb yr Annibynwyr
Parchg Jeffrey Williams.
Cadeirydd Adran Dinasyddiaeth Gristnogol Undeb yr Annibwynyr Cymraeg