
Pan luniodd Duw y byd mawr crwn
roedd popeth un ai’n ddu neu’n wyn,
ac meddai’n drist, wrth rwbio’i farf,
“mae rhywbeth mawr ar goll fan hyn.
Bydd raid im rannu’r golau clir
yn lliwiau fil dros fôr a thir.”
Fe beintiodd ddail y coed yn wyrdd
a’r titw’n las ar frig y pren,
rhoes fron lliw coch i’r robin swil,
i’r gwningen sionc ei chynffon wen;
a blodau o bob lliw a llun
fu’n harddu’r gwanwyn cyntaf un.
Ac wedi’r haul groesawu’r haf
a’i wenau yn melynu’r ŷd,
trodd tonnau llwyd y môr yn las
a’r tywod mân yn aur i gyd;
a haid o bili-pala hardd
fu’n fflachio’u lliwiau dros yr ardd.
Ar ddechrau’r hydref gweithiodd Duw
i drefnu gwledd o liwiau hardd,
a gwelwyd oren, brown ac aur
ar ddail y coed ym mhob rhyw ardd;
ac aeron coch a mwyar du
ar lwyni’r maes yn sypiau lu.
Pan ddaeth y gaeaf yn ei dro
a’r wlad i gyd yn oer a llwm,
roedd angen cwrlid cynnes, clyd
o eira gwyn ar lawr y cwm
i gadw’n fyw yr egin ir
nes dyfod gwanwyn ‘nôl i’r tir.
Rôl peintio’r byd mawr crwn â lliw,
a phob anifail mawr a mân,
medd Duw yn llon, gan rwbio’i farf,
“mae’r cyfan oll yn gain a glân.
Fe rannaf mwy y golau clir
yn lliwiau fil dros fôr a thir. ″
Eirian Dafydd