Ymwelydd o Haiti yng Nghymru

Posted on

Mae Apêl Undeb yr Annibynwyr tuag at waith Cymorth Cristnogol yn Haiti wedi codi tua £180,000. Mae bron pedair blynedd cyn y ddaeargryn fawr – 12 Ionawr, 2010. Lladdwyd tua 150,000 o bobl a dinistriwyd chwarter miliwn o adeiladau – a hyn yn y wlad dlotaf yn y byd gorllewinol. Roedd Prospery Raymond, Rheolwr Cymorth Prospery RaymondCristnogol yn Haiti, ar fin gadael ei swyddfa pan syrthiodd yr adeilad o’i gwmpas. Cafodd ei anafu’n ddrwg, a bu’n ffodus na chafodd ei ladd.  Tra’n ymweld â Chymru fis diwethaf, cafodd ei gyfweld gan Alun Lenny.

AL. Pa wahaniaeth mae gwaith Cymorth Cristnogol wedi ei wneud yn Haiti ers y daeargryn?

PR. Mae wedi gwella amodau byw nifer fawr o bobl. Mae miloedd yn byw mewn tai newydd diolch i brosiectau sy’n cael cefnogaeth Cymorth Cristnogol. Mae miloedd hefyd wedi cael dŵr glân. Meddyliwch am ferch ifanc oedd gynt yn gorfod cerdded 3-4 awr bob dydd jyst i gael dŵr, nawr yn medru cael dŵr 10medr o’i chartref. Golyga hyn bod amser ganddi nawr i fynd i’r ysgol, ac i gael gwell bywyd.

 Roedd daeargryn 2010 yn ddigwyddiad erchyll ac yn brofiad cas iawn i chi yn bersonol.

Oedd. Roeddwn yn adeilad Cymorth Cristnogol, a ddymchwelodd arnaf. Cefais fy nal mewn cornel a bron i mi farw. Roedd yn foment tywyll ac anodd iawn. Ond rwyn medru dangos fy niolchgarwch am ddod trwyddi wrth helpu eraill trwy waith Cymorth Cristnogol. Hoffwn ddiolch i bawb yng Nghymru sydd wedi cyfrannu tuag at yr apêl, a thrwy hynny rhoi cyfle i mi helpu fy mrodyr a’m chwiorydd yn Haiti.

Beth am yr ymateb rhyngwladol i’r sefyllfa yn Haiti? Oes perygl bod trafferthion mawr y wlad yn sgil y ddaeargryn bellach yn anghof?

Rydym yn ddiolchgar am y gefnogaeth ond mae llawer mwy i wneud. Mae bywyd yn galed iawn i tua miliwn o bobl o hyd. Bydd hi’n cymryd tua deng mlynedd i ni atgyweirio’r difrod gafodd ei wneud gan y ddaeargryn. Mae angen buddsoddi mewn addysg, iechyd, ffyrdd ac yn y blaen – yn enwedig yn yr ardaloedd mwyaf tlawd. Rydym yn gorfod herio cwmniau mawr, fel y banciau rhyngwladol, i fuddsoddi yn y llefydd iawn.

Tom, Prospery ac Arwel_edited-1

Beth am eich profiadau yng Nghymru?

Rwyf wedi mwynhau fy hun yn fawr. Rwy’n caru clywed yr iaith Gymraeg yn cael ei siarad. Mae’n fy atgoffa o’r frwydr dros yr iaith Creol yn Haiti. Pan oeddwn yn yr ysgol, roeddent yn ceisio fy rhwystro rhag siarad Creol ac i siarad Ffrangeg yn unig. Ond nawr, mae gennyf ddwy ferch, a ma’ nhw yn siarad Creol yn dda. Rwy wedi dysgu rhai geiriau Cymraeg – Bore Da! Rwy wedi bod yn Hendy-Gwyn a chlywed am Hywel Dda a’r cyfreithiau Cymreig oedd yn rhoi pwyslais ar gyfiawnder yn hytrach na chosb. Ydw, rwyf wedi mwynhau.

Mae’n amlwg fod Prospery yn ddyn dewr ac ymroddedig. Mae e hefyd yn ysgrifennu blog i bapur newydd y Guardian. Ewch i: http://www.theguardian.com/profile/prospery-raymond

Llun: Prospery yn cael ei groesawi i Gaerfyrddin gan y Maer, y Cyng.Arwel Lloyd (sy’n aelod yn eglwys Annibynnol Brynrhiwgaled). Hefyd yn y llun mae’r Parchg Tom Defis, Cymorth Cristnogol.