Hybu’r iaith yn ein capeli

Posted on

meri-huws-2_edited-1Yng Nghyngor yr Undeb yng Ngregynog, fe wnaeth Dr Geraint Tudur apêl ar i’r Undeb ail-gydio mewn ymgyrch a gychwynwyd gan yr Annibynwyr yn sgil cyhoeddi canlyniadau siomedig Cyfrifiad 2011. Bryd hynny, cytunwyd i annog ac helpu’r eglwys leol i wneud defnydd o aelodaeth ac adeiladau i hybu’r iaith a’r diwylliant Cymraeg yn ei hardal. Cytunwyd y byddai’n brosiect cenhadol o ran ein hiaith a’n ffydd, yn ffordd o adfywio bywyd yr eglwys, a hefyd yn fodd i gau’r bwlch rhwng cymunedau ieithyddol sy’n byw bywydau cyfochrog mewn sawl ardal.

Cafodd awydd Undeb yr Annibynwyr i gyfrannu tuag at nod Llywodraeth Cymru o sicrhau bod miliwn o bobl yn siarad Cymraeg erbyn 2050 ei groesawi’n frwd gan Meri Huws, Comisiynydd y Gymraeg. Mewn sawl cymuned, lle mae’r siop a’r swyddfa bost, y dafarn a’r ysgol wedi cau, y capel Cymraeg lleol yw’r unig adeilad cyhoeddus sy’n dal i fod ar agor. Mae’r Undeb yn awyddus i weld defnydd yn cael ei wneud o aelodaeth ac adeiladau i hybu’r iaith a’r diwylliant Cymraeg yn eu hardal.

“Dyma ymateb aruthrol o bositif,” meddai Meri Huws. “Meddyliwch beth sydd ‘da ni o ran y capeli, yn adeiladau, yn gynulleidfaoedd ac yn gymunedau. Efallai bo ni wedi anghofio’r rôl sydd gyda nhw i helpu sicrhau bod y Gymraeg yn parhau’n fyw yn ein cymunedau ar draws Cymru.” Gan gyfeirio at y capeli Annibynnol, meddai Ms Huws: “Chi ym mhobman! Mae ‘na gyfle bendigedig fan hyn. Mae’n bosib ein bod ni, wrth feddwl am y capeli yn dirywio, wedi mynd i feddwl nad oes cyfraniad pwysig gyda nhw. Dyma’r adeg i ddweud wrth y capeli – Camwch Ymlaen!”        

Heriau’r Dyfodol

Fe wnaeth Meri Huws ei sylwadau ar ddiwedd cyfarfod yn Y Pierhead ym Mae Caerdydd, lle cafwyd dadansoddiad cryno o brif ganfyddiadau adroddiad pum-mlynedd ar sefyllfa’r Gymraeg, a’r heriau a chyfleoedd sydd o’i blaen.

Roedd yna elfennau digalon yn yr adroddiad. Nodwyd mai addysg yw’r prif ddull o greu siaradwyr Cymraeg, ond ni fu cynnydd yn ystod y blynyddoedd diweddar yn niferoedd y plant sy’n derbyn eu haddysg a gofal blynyddoedd cynnar trwy gyfrwng yr iaith. Dim ond mewn 9% o gartrefi Cymru y mae’r Gymraeg yn iaith pawb yn y tŷ.

Yn y fath sefyllfa, bydd angen ymdrech aruthrol i rwystro dirywiad pellach, heb sôn am ddyblu nifer y siaradwyr Cymraeg erbyn canol y ganrif. Wrth dorchi llawes i gymryd rhan yn yr ymgyrch arwrol hon, mae cyfle i adfywio ein heglwysi hefyd. Ar hyd y canrifoedd, bu Cristnogaeth a’r Gymraeg yn cerdded law yn llaw yn ein gwlad.