Her y Cofebau Hiliol

Posted on

Pan fu farw George Floyd tra yr oedd yn cael ei arestio ar gyhuddiad o geisio gwario papur $20 ffug, prin y byddai neb wedi rhag-weld y canlyniadau. Fflachiodd y llun o’r plisman gwyn, ei ddwylo yn ei boced a’i ben-lin yn pwyso ar wddf y dyn du ar lawr oedd yn pledio: ‘I can’t breathe!’ o gwmpas y byd. Fe daniodd hynny brotestiadau yn yr Unol Daleithiau a sawl gwlad arall. Fe waethygwyd y sefyllfa gan sylwadau negyddol ac ymddygiad gwarthus yr Arlywydd Trump, sydd yn ei dro, wedi arwain at ostyngiad dramatig yn ei boblogrwydd yntau yn ôl y poliau piniwn ychydig fisoedd cyn yr etholiad arlywyddol.

Targedau cyfleus

Fel y gwyddom, bu protestio chwyrn yma ym Mhrydain hefyd, a hynny’n groes i’r gyfraith frys bresennol o gadw pellter, gan godi pryder am gynnydd bosib yn yr haint Covid-19. Yn ystod y protestio a’r ymgyrch gan fudiad Black Lives Matter (BLM) canfuwyd targedau cyhoeddus amlwg i’w dinistrio, fel y  tollbyrth yn achos Merched Beca ac arwyddion ffyrdd i Gymdeithas yr Iaith. Cerfluniau a delwau o bobl hanesyddol fu’n ymwneud â chaethwasaeth yw targedau dicter a rhwystredigaeth ymgyrchwyr BLM. Awgrymwyd bod dymchwel cerflun Edward Colston a’i daflu i’r harbwr yn ystod y brotest ym Mryste yn achlysur hanesyddol i’w gymharu â dymchwel mur Berlin. 

Hanes delwddryllio

Mae’r hanes hir o ddelwddryllio crefyddol a gwleidyddol. Mae’r Ail Orchymyn yn gwahardd gwneud ‘ddelw gerfiedig ar ffurf dim sydd yn y nefoedd uchod ni’r ddaear isod …’ (Exodus 20:4) Fe wnaeth Moses ddinistrio’r llo aur, a phan wnaeth yr Iddewon oresgyn gwlad Cannan fe’u gorchmynwyd i yrru allan holl drigolion y wlad, ‘a dinistrio eu holl gerrig nadd a’u delwau tawdd.’ (Exodus 33:52). Bwriad gwneud hynny oedd dileu holl hanes pobl Cannan trwy ddinistrio’r pethau oedd yn tystio i’w gorffennol. Ym Mhrydain, fe chwalwyd cerfluniau mewn eglwysi gan Biwritaniaid yn ystod y Rhyfel Cartref. Ac yn fwy diweddar mewn gwledydd eraill, dymchwelwyd cerfluniau o Stalin, Hitler, Saddam Hussein a sawl unben arall. 

Picton dan y lach

Mae’r ymgyrch BLM nawr am ddileu pob tystiolaeth weladwy i bobl wnaeth elwa o gaethwasaeth, sydd ar ffurf cerfluniau, delweddau ac enwau strydoedd. Yng Nghymru, y prif darged yw cofebau i’r Cadfridog Thomas Picton. Cafodd yr obelisg tal 80 troedfedd yng Nghaerfyrddin a’r cerflun yn neuadd dinas Caerdydd a saif ymhlith arwyr fel Dewi Sant a Williams Pantycelyn, eu codi i gofio arwr milwrol a laddwyd ym mrwydr enwog Waterloo yn 1815. Ond yn gynharach yn ei yrfa bu’n llywodraethwr milwrol Trinidad, ble roedd tua hanner y bobl yn gaethweision. Fe’i cafwyd yn euog mewn llys barn o ganiatáu arteithio merch ifanc, ond yna fe’i cafwyd yn ddieuog ar apêl. Y rhan honno o fywyd Picton sy’n cael sylw nawr, er y byddai llawer hefyd yn gresynu’r filwriaeth rheibus oedd yn ganolog i gyfnod yr Ymerodraeth Brydeinig. 

Cyfoeth anferth ar gefn caethweision

Yn y gogledd, mae cofeb o fath gwahanol i Arglwydd Penrhyn, yr hwn oedd yn berchen ar bedair ystâd tyfu siwgr a mil o gaethweision yn Jamaica. Fe gasglodd yntau ddigon o gyfoeth allan o chwys y trueiniad hynny (ac ar gefn chwarelwyr tlawd gogledd Cymru) i godi ffug-gastell anferth ger Bangor. Ymhith y degau o filoedd o bobl eraill ym Mhrydain oedd yn cadw caethweision, roedd mawrion fel y frenhines Fictoria ac Arglwydd Nelson. Bu John Newton, awdur yr emyn ‘Amazing Grace’ yn gapten sawl llong oedd yn cludo caethweision, hyd yn oed ar ôl ei droedigaeth – er iddo droi’n ymgyrchydd brwd yn erbyn y fasnach ffiaidd honno yn hwyrach. Roedd esgobion yr eglwys Anglicaidd hefyd yn ‘berchen’ ar gaethweision. Ble mae tynnu’r llinell?

Ailystyried hanes

Gwir y dywedodd y nofelydd William Faulker, enillydd Gwobr Nobel, ‘the past is not dead, it is not even past’ gan fod craith caethwasaeth yn dal i frifo pobl dduon drwy gyfrwng hiliaeth a rhagfarn o hyd. Felly, beth sydd i’w wneud â’r cofebau hyn? Eu dinistrio fel delwau Cannan er mwyn dileu’r dystiolaeth amlwg i gyfnod cywilyddus yn ein hanes? Awgrymodd y Prif Weinidog, Mark Drakeford, y dylid eu symud i amgueddfeydd. Ond ai cuddio’r cywilydd fyddai hynny? O’u cadw mewn mannau cyhoeddus, mae’n amlwg y byddai angen ailystyried ac ailesbonio neu ailddehongli eu harwyddocâd a’u pwrpas i’n hoes ni. Byddai hynny’n golygu addysgu’r cyhoedd trwy gyfrwng paneli gwybodaeth amlwg a chynhwysfawr ger y cofebau, gan roi iddynt rôl newydd a gwerthfawr yn y gymdeithas gyfoes. O’i dinistrio, byddem yn dileu’r dystiolaeth weladwy am anghyfiawnder a chreulondeb y gorffennol, yn ogystal â phwrpas codi’r gofeb yn y lle cyntaf. Yn sicr, mae’n sefyllfa gymhleth a heriol ac mae angen trafodaeth fanwl, dwys a chytbwys.

Alun Lenny