Gweddi i Ffoaduriaid

Posted on

Arglwydd Dduw, wrth i stori drasig y 39 ffoadur barhau i ddatgelu ei erchyllterau, cyflwynwn yn syml y bobl sydd mewn cyfyng gyngor llwyr, sy’n mentro eu bywydau i’r eithaf wrth deithio i geisio lloches a diogelwch.

Pobl sy’n dianc rhag erlid a gwrthdaro. 

Pobl sy’n ffoi rhag poenydio, trais a gormes. 

Pobl sy’n chwilio am hawl noddfa a bod yn rhydd o ragfarn a chasineb.

Pobl sy’n dymuno torri’n rhydd o afael tlodi ac ymelwad.

Pobl sy’n ceisio aduniad teuluol ac yn dyheu am fywyd gwell.

Cymaint ohonynt ar drugaredd masnachwyr pobl wrth iddynt frwydro yn erbyn sustemau a pholisïau caeth a gelyniaethus gwledydd y Gorllewin.

Arswydwn at y drysau sydd wedi eu cau, y diffyg llwybrau diogel a chyfreithlon i mewn i’n gwlad ac ymateb caled ac anhael yr awdurdodau i bobl sy’n curo ar ein drws.

Gweddïwn dros wladweinwyr a gwleidyddion, diplomyddion a llunwyr polisïau. Llanw hwy a’th dosturi am dynged ffoaduriaid a thynera’u calonnau i sefyllfaoedd enbyd y rhai sy’n chwilio am loches. Rho iddynt weledigaeth glir o ffordd ymlaen fydd yn dangos trugaredd a thosturi ac yn gweithio i sicrhau cyfiawnder i rai sydd wedi dioddef cymaint o anghyfiawnder.

Cyflwynwn i ti’r rhai sydd ar eu taith yn awr. Y rhai fydd yn mynd i gysgu heno heb fwyd na chroeso. Y rhai sy’n ddieithriaid mewn gwledydd estron ac ymhell o adref. Cadw hwy’n ddiogel ac yn rhydd o ofn.

Meddyliwn am y rhai sy’n methu gadael eu gwledydd, ac sy’n wynebu trais ac anghyfiawnder yn ddyddiol. Diolchwn am y rhai sy’n gweithio yn y gwledydd lle mae terfysg a gwrthdaro’n teyrnasu. Nertha hwy wrth iddynt ymdrechu i roi bywyd, urddas a gobaith i’r rhai sy’n dal yno.

Cofiwn yn arbennig am deuluoedd y 39. Rhai heb wybod eto am dynged eu hanwyliaid, boed i Ti fod yn agos atynt drwy’r cyfan a’u cynnal yn eu hangen a’u gwendid. Eraill eisoes yn galaru, caniatâ iddynt wybod am y cysur dwyfol ac am obaith yr iachawdwriaeth sydd yn Iesu Grist.

Gweddïwn am ddiwedd ar yr amgylchiadau yn ein byd sy’n achosi cymaint o anghyfiawnder, dioddefaint a phoen, ac sy’n gyrru pobl anobeithiol i ffoi. Gyda dy fab Iesu, a anwyd i fywyd cythryblus y ffoadur ei hun, gweddïwn,

ar i ti ddod i deyrnasu, 

ac i’r cwbl sy’n dda yn dy olwg di

ddigwydd yma ar y ddaear fel mae’n digwydd yn y nefoedd.

Amen


ADREF (Addasiad rhydd i’r Gymraeg o’r gerdd ‘Home’ gan Warsan Shire)

Does neb yn gadael adref oni bai bod adref fel safn siarc.

Dwyt ti ddim yn croesi ffin i wlad arall am byth, oni bai bod llond tre o bobl yn rhedeg gyda thi hefyd.

A phan fyddi di’n rhedeg fel gwnes i, mae dy gymdogion yn rhedeg yn gynt na ti, ac anadl yn waed yn eu gyddfau.

Pam? Achos rwyt ti’n gweld mai’r bachgen roddodd gusan iti tu ôl i’r hen ffatri dun pan oeddet ti’n blentyn, yw’r un sy’n dal baril y gwn i dy ben, a ti’n gorfod gadael adref.

Ti’n gadael oherwydd bod adref yn gwrthod gadael iti aros adref.

Mae adref yn dy hysio, yn dy ymlid i ffwrdd

am fod tân yn y llofftydd,

a gwaed ar lawr y gegin

a’r ffenestri’n fwledi teilchion.

Mae’n rhaid i ti ddeall

nad oes neb yn rhoi eu plant mewn cwch,

os nad ydi’r dŵr yn saffach na’r ddaear dan draed.

Does neb yn llosgi cledrau’u dwylo o dan drenau,

nac yn chwydu am nosweithiau mewn stumog tryciau,

na dringo i mewn i offer glanio awyren,

nac yn straffaglu drwy dyllau ffensys,

nac yn goddef cael eu curo a’u pitïo,

a hynny er mwyn cyrraedd y ‘nunlle saff’,

am ddim rheswm.

Does neb yn dewis byw mewn gwersyll ffoaduriaid

na’n gwirfoddoli cael eu dadwisgo’n noeth rhag ofn bod cyllell wedi cuddio ar eu cyrff.

Does neb yn dewis lloches ffoadur na sach gysgu dyllog ar lwybr caregog.

Na, does dim dewis – tydi adref ddim yn ddiogel bellach.

Does neb yn dewis dioddef enllib, ‘Dos adref ffoadur! Ti’n drewi! Ti’n sbynjar! Ti’n straen ar ein gwlad!’

Ond mae hynny’n llawer haws na gweld dy blant yn cael eu treisio 

a dy fam-gu yn cael ei llabyddio.

Mae geiriau maleisus yn haws na gorfod llyncu galar ac artaith.

Cofiwch fod adref nawr fel safn y siarc.

Adref yw blas y fwled,

ac adref sydd wedi fy ymlid at draeth y môr

ac sydd wedi mynnu fy mod yn gadael fy nillad budr ar eich glannau. 

Adref sydd wedi fy ngorfodi i nofio drwy gefnfor,

boddi, achub, llwgu, begera,

a cholli fy malchder er mwyn goroesi.

Does neb yn gadael adref heb fod adref yn sibrwd yn dy glust di yn dweud

‘Dos, cer, ffo oddi wrtha i …

Ffwrdd â thi, achos dydi adref ddim yn adref ddim mwy.

Mae dy adref di fel safn y siarc.

Dianc oddi wrtha i, oherwydd rwy’n gwybod bod rhywle yn fyw diogel o lawer iti na’r adref alla i roi iti yma.’