
Mae’r 25ain o Dachwedd yn ddiwrnod cenedlaethol Rhuban Gwyn sef diwrnod cenedlaethol atal trais domestig.
Yn ystod Diwrnod Rhuban Gwyn bydd dynion a merched ledled y wlad yn addo peidio â chyflawni, cydoddef na chadw’n ddistaw am drais, a symbol o hyn fydd gwisgo’r rhuban gwyn. Dyma weddi bwrpasol gan yr elusen.
Gweddïwn
Dros y rhai hynny y mae eu cartrefi wedi troi’n garchar iddynt,
gweddïwn am ryddhad, ein Duw.
Dros bawb sydd wedi cael eu cam-drin ac sydd wedi dysgu i feio neb ond nhw eu hunain,
gweddïwn am ryddhad, ein Duw.
Dros bawb y gadawyd eu bywydau’n ddideimlad oherwydd ymddygiad sy’n gorfodi ac sy’n rheoli,
gweddïwn am ryddhad, ein Duw.
Rho fan diogel iddyn nhw ble gallant siarad yn rhydd a rho’r cryfder iddyn nhw i roi llais i’w stori.
Gweddïwn y bydd y rhai sy’n cam-drin eu safleoedd o bŵer mewn cymdeithas yn cymryd cyfrifoldeb dros eu gweithredoedd, yn chwilio am faddeuant ac yn dod o hyd i’r cryfder i newid.
Tyrd â dy heddwch, ein Duw.
Gweddïwn drosom ni ein hunain pan fyddwn ni wedi bod yn fud, pan fethon ni â gofyn, pan fethon ni wrando, pan fethon ni weithredu.
Tyrd â dy heddwch, ein Duw.
Boed i ni dorri’r mudandod gyda’n gilydd,
gyda lleisiau’n llawn dicter a thosturi,
gyda chalonnau’n llawn tynerwch a heddwch.
Amen