Gwarchod Cymorth Dramor

Posted on

LLYTHYR O GREGYNOG AT BRIF WEINIDOG PRYDAIN

Gyda’r wasgfa ariannol fawr ar y Gwasanaeth Iechyd a gwasanaethau cyhoeddus eraill, ac adroddiadau am ymddygiad rhai unigolion fu’n gweithio i elusennau, mae gwleidyddion a phapurau newydd asgell dde yn pwyso’n drwm ar y Deyrnas Unedig i gwtogi’r hyn sy’n cael ei wario ar Gymorth Dramor.

Ar hyn o bryd, mae £13.4b yn cael ei gyfrannu bob blwyddyn tuag at Gymorth Dramor, er mwyn creu “byd mwy diogel, iach a ffyniannus i bobl mewn gwledydd sy’n datblygu,” – sef 0.7% o Incwm Cenedlaethol Prydain (70c mewn pob £100). Er i’r Cenhedloedd Unedig osod y ganran yma ar gyfer gwledydd datblygedig nôl ym 1970, dim ond ers pum mlynedd y bu Prydain yn cyfrannu ar y lefel ddisgwyliedig. 

Mae Cymorth Dramor nid yn unig yn help dyngarol ond hefyd yn fuddsoddiad pwysig i greu sefydlogrwydd ac osgoi rhyfeloedd. Mae Prif Weinidog Prydain wedi datgan cefnogaeth gref i Gymorth Dramor: “Mae cymorth y Deyrnas Unedig yn fathodyn o obaith i gymaint o gwmpas y byd. Mae’n fathodyn sy’n ymddangos ar ochr adeiladau, llyfrau ysgol, cyflenwadau meddygol a pharseli bwyd mewn amgylcheddau anodd iawn ac mewn gwledydd sy’n anodd eu cyrraedd.”

Ond mae ymgyrch i gwtogi ar Gymorth Dramor yn cael ei harwain gan wleidyddion a phapurau asgell dde fel Jacob Rees-Mogg a’r Daily Express. Cafodd yr ymgyrch ei ysgogi gan y newyddion am ymddygiad rhai unigolion a fu’n gweithio i elusennau rhai blynyddoedd yn ôl.

Pryder y Cyngor

Yng Nghyngor Undeb yr Annibynwyr yng Ngregynog mynegwyd pryder mawr y gallai plygu i’r fath bwysau arwain at farwolaeth nifer fawr o bobl mwyaf anghenus y byd. Cytunodd y Cyngor i anfon llythyr agored at Theresa May, Prif Weinidog y DU a Penny Mordaunt, yr Ysgrifennydd Adran Datblygu Rhyngwladol, yn cefnogi’r gwariant o 0.7% ar Gymorth Dramor ac yn annog Llywodraeth Prydain i barhau i ymwrthod yn gadarn â phob ymdrech i’w berswadio i dorri ar y gyllideb hon. Anfonwyd llythyr hefyd at Carwyn Jones, Prif Weinidog Cymru, yn hyderu bod Llywodraeth Cymru yn cefnogi.

Mae’r llythyron hefyd yn cydnabod y gwaith aruthrol o werthfawr sy’n cael ei wneud gan nifer o elusennau mewn gwledydd tramor, ac yn annog y cyhoedd i beidio â defnyddio ymddygiad rhai unigolion fel esgus i roi’r gorau i gyfrannu tuag at elusennau sy’n cynnal bywydau pobl sy’n dioddef o dlodi, newin neu effeithiau rhyfel mewn sawl gwlad.

 Lle mae’r arian yn mynd?  

Mae 36% yn cael ei rannu trwy’r Cenhedloedd Unedig yn bennaf, tra bod y gweddill yn mynd yn uniongyrchol i wledydd sy’n datblygu. Y bum gwlad sy’n cael y cymorth mwyaf gan y Deyrnas Unedig yw Pacistan, Ethiopia, Afghanistan, Nigeria a Syria. Mae Cymorth yn helpu miliynau o blant ledled ac yn chynorthwyo’r teuluoedd tlotaf i fwydo eu hunain. Nid achub bywydau yn unig wna ymroddiad Prydain i gymorth rhyngwladol, mae’n helpu gwledydd tlotaf y byd i sefyll ar eu traed trwy gryfhau eu systemau iechyd, addysg a threth.

Enghreifftiau o’r cymorth 

Yn ystod y pum mlynedd ddiwethaf, mae’r DU wedi:

  • talu am frechu 67 miliwn o blant yn erbyn clefydau y gellir eu hatal
  • cefnogi meddygon a nyrsys sydd wedi helpu geni pum miliwn o fabanod
  • dosbarthu 50 miliwn o rwydi arbennig i arbed 800,000 o bobl rhag marw o falaria
  • helpu 11 miliwn o blant i gael addysg, trwy hyfforddi 177,000 o athrawon, codi ysgolion a darparu gwerslyfrau