Cyn i broblem fach fynd yn broblem fawr!
Mae Ymddiriedolaeth Genedlaethol yr Eglwysi am helpu â gwaith cynnal a chadw brys trwy gynnig grantiau o £1,000-£2,500 tuag at waith cymharol fach sy’n costio rhwng £2,000 a £10,000.
Gall unrhyw enwad Cristnogol ymgeisio – ond rhaid i’r adeilad fod yn un sydd wedi ei restru gan Cadw. Hefyd, rhaid i’r adeilad fod yn un a godwyd fel addoldy yn wreiddiol a bod 50% o’r arian sy’n ofynnol eisoes ar gael.
Bydd angen ‘quote’ gan ddau gontractwr. Mae rhagor o fanylion, a sut i ymgeisio am gymorth ariannol, ar wefan yr Ymddiriedolaeth.
Mae tri dyddiad cau yn 2017:
Ionawr 4, Mai 10 a Medi 6.
http://www.nationalchurchestrust.org/our-grants/maintenance-grants