Galw ar yr Arglwyddi i Achub Cam Cymru

Posted on

Y bygythiad pennaf i ddatganoli ers 20 mlynedd – dyna’r honniad am Fil Marchnad Fewnol y Deyrnas Unedig. Cafodd ei basio yn Nhŷ’r Cyffredin fis diwethaf, er gwaethaf gwrthwynebiad chwyrn gan Aelodau Seneddol o bob plaid, gan gynnwys y cyn–brif weinidogion John Major a Thersea May. Yn sgil trafododaeth yn rhith-gyfarfod Cyngor yr Undeb a’i Adrannau, cytunwyd i anfon llythyr yn enw’r Llywydd at nifer o aelodau Tŷ’r Arglwyddi, a fu’n trafod y Bil ddydd Llun diwethaf.

pastedGraphic.png

(Llun:Wikimedia)

Annwyl Arglwydd / Fonesig … 

Ysgrifennaf atoch fel Llywydd Undeb yr Annibynwyr Cymraeg, ar ran Cyngor Undeb sy’n cynrychioli Cristnogion sy’n cwrdd mewn 400 o gapeli ledled Cymru, i fynegi pryder mawr am Fil Marchnad Fewnol y Deyrnas Unedig.

Credwn fod cynnwys y Bil, a’r modd y cafodd ei gyflwyno, yn dirmygu ac yn diystyru hawliau democrataidd ein cenedl – hawliau a enillwyd trwy ymgyrchu hir a phleidlais y mwyafrif mewn dau refferendwm. Cytunwn â’r farn a fynegwyd mai’r cam hwn i ganoli pŵer yn San Steffan yw’r ymosodiad mwyaf ar ddatganoli ers ei sefydlu dros ugain mlynedd yn ôl.

Ystyriwn fod trosglwyddo pwerau gwario ar seilwaith, datblygu economaidd, diwylliant, chwaraeon, a chefnogaeth ar gyfer cyfleoedd addysgol a hyfforddiant, i ddwylo Gweinidogion llywodraeth y DU yn gam annemocrataidd. Dylid cadw’r grym dros y fath wariant, y dewisiadau a’r penderfyniadau, yma yng Nghymru.

Ofnwn y gallai’r Bil gael effaith andwyol ar les a ffyniant ein pobl, safonau bwyd a lles anifeiliaid, a dyfodol yr amgylchedd. Er enghraifft, fe allai llywodraeth y DU gytuno i ostwng safonau cynhyrchu bwyd yn Lloegr er mwyn cynhyrchu bwyd yn rhatach. Gallai hynny arwain at foddi’r farchnad yng Nghymru, lle byddai’r safonau’n dal yn uwch, gyda chanlyniadau dinistriol i amaethwyr Cymru. Byddai caniatáu mewnforio bwyd rhatach o wledydd eraill sydd â safonau’n is, a ninnau yng Nghymru heb unrhyw lais yn y mater, hefyd yn cael yr un effaith ddifrodol.

Fel y gwyddoch, fe fydd Ail Ddarlleniad y Bil yn Nhŷ’r Arglwyddi ar Hydref 19. Fe wyddoch hefyd, mae’n siŵr, bod anniddigrwydd mawr ynglŷn â’r modd y cafodd y Bil yma ei ruthro drwy Tŷ’r Cyffredin, heb ymgynghoriad gyda’r llywodraethau datganoledig.

Erfyniwn arnoch, gyda’r parch pennaf, ar yr awr hwyr hon, i roi llais yn Nhŷ’r Arglwyddi i’r cam mawr sy’n cael ei wneud â’n cenedl. 

Yr eiddoch yn gywir,

Parchg Jill-Hailey Harries (Llywydd)