Gwaith mawr Iesu Grist oedd ‘pontio’ – pontio rhwng Duw a’r byd, rhwng y dwyfol a’r dynol.
Yn naturiol felly, ein gwaith mawr ninnau sy’n arddel yr enw o fod yn ddilynwyr iddo, yw pontio o hyd – pontio rhwng ein gilydd fel Cristnogion, a phontio rhwng credinwyr a’r rhai di-gred.
Un o brif swyddogaethau’r eglwys ar y ddaear, os nad y mwyaf, yw cysylltu pobl a Duw. Serch hynny, er ein hymdrechion didwyll, ymddengys i raddau helaeth ein bod yn methu a phontio’n aml. Nid yw didwylledd yn golygu bod y gwaith yn cael ei gyflawni, yn enwedig os ydym ar y trywydd anghywir!
Pwrpas pontio
Rhaid deall ein pwrpas os ydym am gyflawni bwriad Duw ar ein cyfer fel unigolion, ac ar gyfer ei eglwys. Dangosit hyn yn glir yn hanes yr Eglwys Fore yn Llyfr yr Actau. Prif flaenoriaeth yr eglwys ymhob oes yw gwireddu’r hyn a ddywedodd Iesu pan adawodd y byd: rhannu’r Efengyl, adlewyrchu ei gariad yn ei byw bob dydd, braenaru’r tir ymhob cenhedlaeth.
Gall pethau eraill ddatblygu’n brif bwrpas i ni’n aml. Mae traddodiad yn gyrru ambell eglwys leol, nid bod traddodiad yn ddrwg ynddo ei hun, ond mae cynifer o eglwysi’n rhygnu ‘mlaen yn yr un ffordd oherwydd ‘dyna fel y gwnaethom hyn erioed’. Beth sydd gan Dduw i ddweud am hyn?
Yr unig beth sydd i fod yn yriant eglwys yw ‘pontio’ a chyflwyno Cris i fyd sydd mewn angen dirfawr am hynny’n union.
Pwysigrwydd pontio
Hyd y gwela i, mae dau fath o eglwys yn bodoli. Un lle disgwylir i’r gweinidog neu’r arweinydd wneud popeth, gyda’r gynulleidfa yn troi allan ar y Sul, gwrando ar y neges, cyfrannu yn ôl ei harfer, a dyna’r cyfan! A’r llall, lle mae’r arweinydd neu’r gweinidog a’r gynulleidfa fel y’i gilydd yn ‘ddarparwyr’ neu’n alluogwyr.
Mae doniau gwahanol gan bawb, ac ni fydd neb yn gwasanaethu Duw’r un un modd wrth gwrs. Ond mae’r eglwys lle mae’r gweinidog/arweinydd yn darparu ar gyfer anghenion y gymdeithas ehangach, yn ein cynorthwyo ni gyd i fod yr hyn y dylem ac y gallem fod yn ôl bwriad Duw ar ein cyfer , yn eglwys, sydd o ddifri yn ‘pontio’.
Pŵer pontio
I ddychwelyd at brofiad yr Eglwys Fore, darllenwn yn yr wythfed adnod o bennod agoriadol Actau’r Apostolion: ‘Ond fe dderbyniwch nerth wedi i’r Ysbryd Glan ddod arnoch, a byddwch yn dystion i mi yn Jerwsalem, ac yn holl Jwdea a Samaria, hyd eithaf y ddaear.’
Pan lenwyd y Cristnogion cynnar â’r Ysbryd Glân, nid aros yn yr unfan a wnaethant, ond yn hytrach mynd allan gan rannu o’u tystiolaeth, a cheisio ennill eraill at Grist. Mae’r adnod yn crisialu’r weithred o bontio, gan sôn am ddechreuadau, dulliau a dibenion cenhadaeth a chomisiwn mawr Iesu, a hynny’n lleol, yn genedlaethol, ac yn fyd eang.
Pontio’n gagendor sy’n bodoli rhyngom a Duw – dyna’r gwaith mawr o hyd:
‘... y pellter oedd rhyngddynt oedd fawr, fe’i llanwodd a’i haeddiant ei Hun’