Llythyr y Llywydd at y Canghellor
Cafodd y cynnydd aruthrol ym mhris olew, nwy a thrydan ei godi yng nghyfarfod Adran Dinasyddiaeth yr Undeb wythnos ddiwethaf. Fe glywodd y cynrychiolwyr rai ffeithiau digon diflas am y sefyllfa, sy’n ganlyniad y rhyfel yn Wcráin yn bennaf, er nid yn gyfan gwbl. Bydd yr effaith ar deuluoedd sydd ar incwm isel, yn enwedig, yn ddifrifol.
Mae cost gwresogi ein cartrefi am godi’n sylweddol. Ac fe fydd pris bwyd yn codi yn y siop neu archfarchnad, yn bennaf oherwydd y cynnydd mewn costau cludiant, am fod pris disel yn codi’n ddiddiwedd. Bydd hyn i gyd yn ychwanegu’n sylweddol at gostau byw pobl, gan achosi caledi gwirioneddol i lawer. Ar ben hynny daw’r cynnydd o 1.25% mewn Yswiriant Cenedlaethol a fydd yn effeithio ar bawb sydd yn ennill mwy na £9,500 y flwyddyn.
Ergyd arall i amaeth
Disel sy’n rhedeg economi’r byd. Dyna, yn bennaf, yw tanwydd llongau, trenau, lorïau a thractorau. Nid cost cludo bwyd yn unig sy’n codi, ond y gost o’i gynhyrchu gan fod ffermwyr yn defnyddio disel. Er eu bod nhw’n cael disel lliw coch yn rhatach na’r disel arferol, mae pris hwnnw wedi codi o 75c i 120c y litr. Mae’r Deyrnas Unedig yn cael 18% o’i ddisel o Rwsia. Fe glywodd Pwyllgor Dethol y Trysorlys y gallai pris disel godi i £3 y litr, ac efallai bydd yn rhaid ystyried ei ddogni. Ar yr un pryd, fe wnaeth cwmni olew BP elw o $12miliwn y llynedd.
Cost gwresogi’r cartref
Olew (Kerosene) yw’r tanwydd sy’n gwresogi 18% o gartrefi Cymru, yn bennaf mewn ardaloedd gwledig, sydd â thanc olew eu hunain y tu fas i’r tŷ. Mae pris olew o’r fath wedi codi o 68c y litr fis diwethaf i tua £1 y litr erbyn hyn.
Roedd pris nwy yn codi’n sylweddol cyn y rhyfel yn Wcráin oherwydd nad oedd digon i gwrdd â’r galw yn fyd-eang. Mae cwsmeriaid yn wynebu cynnydd o £700 y flwyddyn ar gyfartaledd, gyda TAW ar ben hynny.
Mae pris uned trydan wedi codi o 20c i 28c – sy’n gymharol gymedrol o ystyried y sefyllfa. Ond bydd y Tâl Sefydlog (Standing Charge) wedi dyblu ers 2019, gan godi o 24c y dydd i 43c. Rhaid talu hwnnw – waeth faint bynnag o drydan rydych yn ei ddefnyddio.
O ganlyniad i hyn i gyd, disgwylir i fil ynni pob teulu, ar gyfartaledd, i fod dros £3,000 yn fuan.
Llythyr gan y Llywydd
Derbyniwyd penderfyniad gan yr Adran, ac yna gan y Cyngor, i ysgrifennu ar frys at y Canghellor, Rishi Sunak, a fydd yn gwneud Datganiad y Gwanwyn ar y sefyllfa gyllidol ar 23 Mawrth.
Llythyr gan y Llywydd
Derbyniwyd penderfyniad gan yr Adran, ac yna gan y Cyngor, i ysgrifennu ar frys at y Canghellor, Rishi Sunak, a fydd yn gwneud Datganiad y Gwanwyn ar y sefyllfa gyllidol heddiw (Mawrth 23).
Mawrth 17eg 2022 At sylw’r Gwir Anrhydeddus Rishi Sunak AS
Annwyl Rishi Sunak,
Ysgrifennaf atoch yn rhinwedd fy swydd fel Llywydd Undeb yr Annibynwyr Cymraeg sy’n cynrychioli Cristnogion Anghydffurfiol sy’n cyfarfod mewn 350 o gapeli yng Nghymru.
Mewn cyfarfod o gyngor yr Undeb yr wythnos hon, mynegwyd pryder difrifol am yr effaith y bydd y codiad aruthrol mewn pris tanwydd yn ei gael ar gost gwresogi cartrefi a phris bwyd, a’r cynnydd mewn chwyddiant a fydd yn siŵr o ddilyn gyda’r darogan y bydd y Mynegai Prisiau Defnyddwyr yn cyrraedd uchafbwynt o 7% y gwanwyn hwn.
Mae amaethyddiaeth yn ddiwydiant hynod bwysig yng Nghymru, a bydd cost gynyddol disel, er gwaetha’r cymhorthdal, yn cynyddu cost cynhyrchu bwyd, gyda hwnnw’n cael ei drosglwyddo i gwsmeriaid. Oni bai am hynny, fe allai ffermwyr fynd allan o fusnes.
Gan fod y Trysorlys wedi casglu £2.9b yn ychwanegol mewn treth tanwydd a TAW wrth i bris petrol a disel godi, awgrymwn yn barchus eich bod yn ystyried ei ddefnyddio i ariannu toriad dros dro yn y gyfradd TAW ar ddisel. Byddem hefyd yn eich annog i ystyried o ddifri codi treth anarferol (windfall tax) ar gwmnïau olew mawr sy’n gwneud biliynau o bunnau o elw’r dyddiau hyn.
O ran gwresogi cartrefi, rydym yn gwerthfawrogi eich bod eisoes wedi cyflwyno mesurau lliniaru megis y cynllun benthyciadau o £200, yr ad-daliad treth gyngor o £150 a’r Gostyngiad Cartrefi Cynnes o £140 i’r rhai sy’n gymwys. Rydym hefyd yn cydnabod cost ddigynsail y pandemig Covid.
Ond wrth i filiynau o deuluoedd sy’n gweithio wynebu cynnydd yr un mor ddigynsail mewn costau tanwydd, rydym yn eich annog yn barchus i gymryd camau lliniaru pellach – hyd yn oed os ydynt dros dro.
Yn olaf, byddem yn croesawu’n gynnes fuddsoddi cyflymach gan y Deyrnas Unedig mewn ynni glân, er mwyn mynd i’r afael â newid hinsawdd a lleihau’r ddibyniaeth ar fewnforion tanwydd ffosil sydd ar drugaredd gwrthdaro rhyngwladol.
Yn gywir
Y Parch Beti-Wyn James,
Llywydd Undeb yr Annibynwyr Cymraeg
(Cafwyd llythyr personol o ymateb gan Rishi Sunak ar fater arall a godwyd gan Gyfundeb Gorllewin Caerfyrddin ddechrau’r flwyddyn hon. Erbyn i chi darllen hwn, mae’n debyg y byddwn yn gwybod beth fu’r ymateb i apêl y Llywydd a sawl mudiad a chymdeithas arall fu’n ei lobïo ar y testun yma.)