Mae pob meddwl wedi ei hoelio ar Israel: y Wlad Sanctaidd. The Holy Land. Os sanctaidd y wlad honno, sydd ers wythnosau wedi taflu taflegrau’n drwch i Gaza, beth yw ffynhonnell y sancteiddrwydd hwnnw?
Pam mae’r ansoddair ‘sanctaidd’ wedi glynu mor dynn wrthi? Yn ôl ysgrythurau’r Cristion, yr Iddew a’r Mwslim mae’r wlad hon yn sanctaidd nid ohoni ei hun. Nid oes sancteiddrwydd yn ei mynyddoedd a dyffrynnoedd. Fe dardd ei sancteiddrwydd o’r Hwn sydd piau hi.
Beth felly yw pwysigrwydd syniad hwn? Yn syml, stiwardiaid yw cenedl Israel, ac nid perchennog. Duw sydd piau’r Wlad Sanctaidd. Gwelir hyn yn amlwg ddigon yn y Beibl. Gan gyfeirio at y Flwyddyn Sabothol, mae Duw yn rhybuddio’i bobl:
eiddof fi yw’r tir, ac nid ydych chwi ond estroniaid a thenantiaid i mi (Lefiticus 25:23)
Nid Israel sydd piau’r tir, ac felly, nid Israel sydd piau’r hawl i wneud a’r tir fel y gwêl yn dda. Nid oes ganddi’r hawl i berchenogi, i ddifrodi, i hawlio, ac ymgartrefu lle y myn. Yn hytrach disgwylir iddi greu o’r tir, gan weithio gyda’i chymdogion, wlad sydd yn adlewyrchu trugaredd a thosturi’r Hwn sydd berchen y tir: ‘eiddof fi yw’r tri, ac nid ydych chwi ond estroniaid a thenantiaid i mi.’ Dim ond pan mae’r tir a’i phobl – hen a newydd – yn cael eu parchu fel eiddo Duw, fel plant iddo, y daw’r tir yn eiddo i’r bobl.
Yn unol â dysgeidiaeth y proffwydi, ac Iesu hefyd, mae gwrthod ymgorffori’r syniad mai ... ‘eiddof fi yw’r tir, ac nid ydych chwi ond estroniaid a thenantiaid i mi ...’ yn arwain at golli’r hawl i fyw ar y tir. Dyma un o hanfodion y ddealltwriaeth broffwydol o alltudiaeth.
Ai teg sôn am Israel fel y Wlad Sanctaidd tybed?
Fe ellid dadlau ein bod ni’n disgwyl mwy gan Israel nag y disgwyliwn gan ein hunain fel cenedl. Pam rhaid i Israel fod yn genedl sanctaidd a neb arall? Pam rhaid i Israel ymatal rhag trais a ninnau ac ôl ein traed yn waedlyd yn Irac ac Afghanistan? Buaswn am droi’r ddadl honno ar ei phen, gan mi gredaf fod yr egwyddor a welir yn y geiriau hyn o Lefiticus: ‘eiddof fi yw’r tir, ac nid ydych chwi ond estroniaid a thenantiaid i mi’ yn llawer mwy pellgyrhaeddol hyd yn oed na gwewyr Gaza. Egwyddor ydyw i bawb, i bob cymdeithas a chenedl. Egwyddor i’r byd ydyw. I newid ychydig ar eiriau awdur Lefiticus, heb wneud cam ag ef o gwbl:
eiddof fi yw’r byd, ac nid ydych chwi ond estroniaid a thenantiaid i mi ...
Mae’r cyfan oll yn eiddo i Dduw, ac i Dduw yn unig a ninnau’n denantiaid. Pa genedl bynnag a berthynwn iddi, eiddo Duw ydyw, ac fe ddylai ei bywyd, ei hymwneud â gelyn a chyfaill fel ei gilydd fod yn glod i Dduw ac yn fendith i bobl. Ac yn hynny o beth ni all yr un wlad sefyll mewn barn ar Israel. Pa hawl, o ddifri sydd gan bobl yr Unol Daleithiau a Phrydain i fynnu fod Israel yn peidio gwneud yr hyn a fuom ni’n gwneud ers blynyddoedd yn Irac ac Afghanistan?
Gwlad Sanctaidd yw Israel, mewn byd sanctaidd. Nid yr Israeliaid, na’r Palestiniaid sydd piau’r tir. Duw yw’r perchennog ac mae’r syniad hwnnw’n hawlio ganddynt barodrwydd i rannu’r tir, rhannu a fydd yn bodloni neb wrth gwrs, ond rhannu a fydd yn rhoi taw ar y gynnau, yn rhoi terfyn ar y derfysgaeth a’r ymgyrchoedd milwrol fel ei gilydd. Dim ond o dderbyn ‘eiddof fi yw’r tir, ac nid ydych chwi ond estroniaid a thenantiaid i mi’ bydd pobl y llain fechan fach honno o dir rhwng yr anialwch a’r môr yn gallu creu o’r tir cenhedloedd a fydd wrth fodd perchennog eu tir.
Neges syml syber
Un dyfyniad bach o’r Qur’an i orffen, adnod ac ynddi neges syml syber i Gristnogion, Iddewon a Mwslemiaid y byd o’r cyfieithiad Saesneg o’r Qur’an: Muhammad sy’n siarad, ‘O! People of the Book! ye have no ground to stand upon unless ye stand fast by the Law, the Gospel, and all the revelation that has come to you from your Lord.’ (5:68)