Mae’r Llyfrgell Genedlaethol wedi prynu ‘Salem Revisited’ gan yr arlunydd Hywel Harries (1921–90) am £9,000 mewn arwerthiant gan y cwmni Cymreig Rogers Jones.

Dyma fersiwn mwy diweddar mewn arddull gwahanol o lun eiconig Curnow Vosper o Sian Owen, Ty’n y Fawnog a ffyddloniaid eraill capel Salem, Cefncymerau a beintiwyd yn 1908. Hwnnw oedd y llun Cymreig enwocaf erioed, ac ar un adeg roedd copïau o’r gwreiddiol i’w gweld mewn miloedd di-ri o gartrefi. Peintiwyd ail un tebyg i’r cyntaf gan Vosper yn 1909, ac fe brynwyd hwnnw gan y Llyfrgell Genedlaethol yn 2019. Sylwch fod Hywel Harries wedi gwneud ‘siâp wyneb y diafol’ (honedig) yn fwy amlwg ar hwn.

 

Related Articles

Keep Informed

Receive the latest news, videos and resources.