Y mae’n llawenydd datgan fod Mr Richard Morgan, Aberystwyth wedi ei benodi yn gadeirydd Pwyllgor Buddsodion CWM am y pedair blynedd nesaf, wedi gwasanaethu am dymor eisoes fel aelod o’r pwyllgor hwnnw.

Y mae’n amlwg bod ein cyfeillion yn nheulu CWM wedi adnabod Richard a sylweddoli fod ganddo ddoniau arbennig iawn ym myd arian a chyllid a llywodraethiant sefydliadau. Gwyddom ninnau ers tro byd, wrth gwrs, am ei alluoedd yn y meysydd hyn, ac yn fwy na hynny hefyd, am ei barodrwydd i wasanaethu’n ffyddlon a thawel gan gynnig arweiniad cadarn a diogel.

Profodd yr Undeb hynny dros nifer o flynyddoedd, heb sôn am Ymddiriedolaeth James, Pantyfedwen a Phrifysgol Aberystwyth. Mae yna unigolion a mudiadau lawer ledled Cymru, a thu hwnt wedi ei brofi’n gymwynaswr hael ei gefnogaeth. 

Dymunwn yn dda iddo yn y swydd bwysig a chyfrifol hon gan weddïo bendith Duw arno ac ar y pwyllgor wrth wasanaethu CWM.

Aelod o’r Bwrdd

Yng Nghymanfa Durban penodwyd y Parchg Dylan Rhys, Pen-y-bont ar Ogwr yn aelod o Fwrdd CWM dros y pedair blynedd nesaf. Fe’i llongyfarchwn yn gynnes a dymunwn yn dda iddo yn y gwaith. 

Nid dieithryn mohono yntau i deulu CWM a’i weithgaredd chwaith. Deil Dylan i ymfalchïo’n fawr yn y profiadau ffurfiannol hynny a gafodd yn y cynadleddau gwahanol a fynychodd yn fachgen ifanc, ac yn arbennig felly’r flwyddyn a dreuliodd fel aelod o’r rhaglen TIM (Training in Mission) yn Ne Affrica ac India.

Gyda Dylan yn y llun gwelir un arall o Gymru, Ms Gwen Down o Eglwys Bresbyteraidd Cymru, hithau hefyd yn gyd-aelod o’r bwrdd. Y mae hyn yn destun llawenydd a balchder i ni i gyd. 

Useful Links

Related Articles

Keep Informed

Receive the latest news, videos and resources.