Daeth cynrychiolaeth o’r cyfundebau at ei gilydd yng Nghanolfan Medrau, Prifysgol Aberystwyth, ar ddydd Iau 21 Mawrth er mwyn bod yn rhan o waith Cyngor Undeb yr Annibynwyr Cymraeg. Cafwyd cyfle i wrando ar adroddiadau gan ysgrifenyddion yr Adrannau, oedd eisoes wedi cyfarfod ar Zoom yr wythnos cynt.

I agor y gweithgareddau cafwyd cyflwyniad gafaelgar gan Dr Graham McGeoch, Ysgrifennydd Cenhadol, Cyngor y Genhadaeth Fyd-eang (CWM). Traethodd am hanes a chychwyniad CWM gan ehangu ar ei sylwadau i sôn am gaethwasiaeth hanesyddol. Cydnabyddodd y bu rhai cenhadon yn euog o gyflwyno diwylliant Prydeinig ochr yn ochr â’r Efengyl ac y bu rhai o weithwyr y London Missionary Society, fel y’i gelwid ar y pryd, wedi bod yn ymhél a chaethwasiaeth. Esboniodd bod CWM wedi syrthio ar eu bai gan wneud datganiad yn mynegi eu hedifeirwch am yr hyn a ddigwyddodd. Y maent hefyd wedi neilltuo £10 miliwn er mwyn hyrwyddo prosiectau perthnasol. Wedi’r cyflwyniad cafwyd trafodaethau ar y pynciau a godwyd.

Cadeiriwyd y Cyngor am y tro olaf gan y medrus a’r hynaws Dafydd Roberts, Trefor. Bu’n cadeirio am ddau dymor oherwydd bod y pla Covd wedi dod ar ei rawg i ddrysu ein cynlluniau. Mynegwyd diolch twymgalon iddo am ei arweiniad doeth a hwyliog gan y Parchg Dyfrig Rees.

Er mwyn i chi gael blas ar yr hyn drafodwyd yn y Cyngor cyflwynwn i chi grynodeb o’r hyn fu’n destun trafod ym mhob adran gan gychwyn gydag Adran y Genhadaeth a’r Eglwys Fyd-eang. 

Adran Cenhadaeth a’r Eglwys Fyd-eang

Cyfarfu’r adran o dan gadeiryddiaeth y Parchg Jill-Hailey Harries a chafwyd trafodaethau digon brwd o dan ei harweiniad.

Caethwasiaeth fodern 

Yn dilyn trafodaeth gynt ar gynllun Onesimus CWM, gwelwyd cyfle i fynd i’r afael â mater caethwasiaeth fodern, sy’n gymaint rhan, er yn gudd, o fywyd ein gwlad. Paratowyd nodiadau gan Jeff yn dilyn gwaith ymchwil ganddo i’r mater a gwelwyd sawl ffordd bosibl o ymdrin â’r mater, er gwybodaeth ac arweiniad i’r eglwysi. Gellid paratoi cyfres o erthyglau yn Y Tyst gan holi aelodau ein heglwysi sy’n arbenigo ym maes masnachu pobl. Gellid gwyntyllu’r posibilrwydd o ymgeisio am nawdd gan CWM, ar y cyd â’r Presbyteriaid, o bosibl, i gomisiynu rhywun i fwrw ati i baratoi adnodd penodol ar ein cyfer.

Cenhadaeth ddigidol ac adnoddau cerddorol

Soniodd Mererid Williams am y gwaith sydd mewn llaw o baratoi cyflwyniad sy’n cynnwys elfen gerddorol gref gyda chaneuon/emynau ar gael i eglwysi eu defnyddio yn ôl eu dymuniad. Bwriedir teithio’r cynhyrchiad i dri lleoliad cyfleus i eglwysi’r gogledd, y canolbarth a’r de.

Prosiect Denman 

‘Dysgu am Iesu’ yw’r thema eleni.

Materion hanes

Braf nodi bod Rhodri, ar ran y Gymdeithas Hanes, wedi llwyddo i gael perthynas i Rhys Nicholas, sef Richard Hughes, i gyflwyno sgwrs am ei ewythr yn yr Undeb eleni â hithau’n 110 mlynedd ers ei eni.

CWM 

Bu Caspar Rolant a Gwydion Outram yn ein cynrychioli mewn cynhadledd ieuenctid yn Llundain a chafwyd adroddiad o’r gynhadledd honno yn Y Tyst.

Bydd Tomos Edwards, Eleri Mai Thomas, Dylan Rhys a’r Ysgrifennydd Cyffredinol yn ein cynrychioli yng Nghymanfa CWM a gynhelir yn Durban, De Affrica ym mis Mehefin.

Cyflwyniad gan Dr Alun Tudur 

Cafwyd amlinelliad gan Alun o’r ymchwil a wnaed ganddo dros ei gyfnod Sabothol, diweddar i’r gwaith o blannu eglwysi newydd er sicrhau dyfodol y dystiolaeth Gristnogol yng Nghymru. Bu’n ymweld â nifer o eglwysi newydd, un Gymraeg, yn eu plith a chafodd ei gyffroi a’i ysbrydoli’n fawr gan eu tystiolaeth, gymaint felly nes ein hannog fel eglwysi Annibynnol i ystyried cychwyn cynulleidfaoedd newydd. Dilynwyd ei gyflwyniad gan drafodaeth frwd a chyda’r dymuniad i symud ymlaen gyda thrafodaeth fanylach.

 

Adran Dinasyddiaeth Gristnogol 

Materion CYTÛN

i. Sul Cofio Covid

Mae Sul cyntaf ym mis Mawrth wedi ei glustnodi fel Sul Cofio Covid – ni chredir fod y dyddiad yma’n un addas ar gyfer Cymru oherwydd yr arferiad o gynnal dathliadau Gŵyl Ddewi bryd hynny.

ii. Gweithredu ar newid hinsawdd

Nodwyd y byddai hawl gan Undeb yr Annibynwyr i ymuno yn uniongyrchol â Climate Cymru. Byddai hyn yn cryfhau yr elfen Gristnogol o fewn y corff.

I’w ystyried ymhellach gan y gweithgor Economi Bywyd a Newid Hinsawdd. 

iii. Canmlwyddiant Apêl Arloesol yr Eglwysi am Heddwch 2025

Mynegwyd y dyhead am ymrwymiad ac egni ar ran yr Undeb, yr Adran a’r Cyfundebau er hyrwyddo yr ymgyrch arbennig yma.

Bydd Pwyllgor Gweinyddol yr Undeb yn trafod ymhellach ar 9 Ebrill. 

Eglwysi Dementia-gyfeillgar

Roedd fideo newydd yn cael ei pharatoi (a fydd ar gael yn fuan ar wefan yr Undeb), ac fe roed anogaeth i bori ar y wefan i fanteisio ar y cyfoeth o ddefnydd oedd ar gael.

Gweithgor Economi Bywyd a Newid Hinsawdd

Nodwyd bod swyddogion yr Undeb yn paratoi cyfres o fideos byr yn seiliedig ar y pum maes penodol sy’n allweddol o ran ein hôl troed amgylcheddol, sef: Dillad / Bwyd / Teithio / Ynni / Meddylfryd.

Apêl Ffynhonnau Byw Undeb yr Annibynwyr Cymraeg / Cymorth Cristnogol 2023/24

Bydd gwybodaeth yn Y Tyst am gyrhaeddiad yr Apêl, a bydd cyfraniadau yn cael eu derbyn hyd at ddiwedd 2024. Nodwyd yr angen am gydbwysedd er sicrhau bod anghenion tramor a gartref yn cael y sylw a’r gefnogaeth ddyladwy.

Gwerthiant Eiddo: Penderfyniad a gyflwynwyd i gynhadledd UAC yn y Rhos, 29 Gorffennaf 2023

Argymhellir i gynrychiolaeth o’r Cyngor gwrdd gyda chyfreithiwr yr Undeb, a chomisiynu adroddiad cyfreithiol a fyddai’n gymwys i’w rannu a’r eglwysi. Dylid datblygu strategaeth fyddai’n arwain at ddatgorffori a chau lle bo hynny’n anochel.

Cenhadu: Masnach Deg

Gwnaed cais ar i’r Ysgrifennydd Cyffredinol gysylltu â’r cyfundebau ynglŷn â darpariaeth Fasnach Deg yn eu hardaloedd, ac am ymrwymiad eglwysi i fasnach deg. Mae gwybodaeth am ‘Grantiau ac Adnoddau gan Gymru Masnach Deg’ ym Mwletin Polisi Chwefror / Mawrth 2024.

Ymateb i un o bynciau llosg y dydd:

Nodwyd tlodi a materion budd-daliadau mewn ardaloedd difreintiedig fel pwnc trafod.

Useful Links

Related Articles

Keep Informed

Receive the latest news, videos and resources.