Dyma adroddiad y Parchg Carys-Ann, sef un o drefnwyr Cwrdd Chwiorydd De Ceredigion. Maent yn cynnwys eglwysi’r Annibynwyr o amgylch Llandysul, Llangeler, Aberteifi a Chei Newydd. Mae tua 15 eglwys yn cael eu cynrychioli.
Mae cefnogaeth eithriadol o dda i Gwrdd Chwiorydd De Ceredigion. Gweler yn y llun ein cyfarfod ddiwedd Mawrth eleni, roeddem yn paratoi at y Pasg yn Festri Capel Bryngwenith, Henllan, Castell Newydd Emlyn. Daeth bron i 40 o wragedd o eglwysi’r Annibynwyr yn y dalgylch yma gan gynnwys Eglwysi Bryngwenith, Hawen, Glynarthen, Capel Maenygroes, Nanternis, Tabernacl Pencader, Capel Mair Aberteifi, Seion Llandysul, Bwlchygroes, Llandysul, Saron Llangeler, Pisgah, Talgarreg, Capel y Wig Llangrannog, Capel Pantycrugiau Plwmp a nifer arall.
Tro yma buodd yr aelodau yn gwrando ar ddarlleniad o’r Ysgrythur, yn canu emynau, gweddïo, a threfnu lleoliad nesaf eu cyfarfod ym mis Medi sef Pisgah, Talgarreg, pan fyddwn yn trosglwyddo arian at achosion da yn lleol. Tro yma roeddem yn dysgu’r grefft o ysgrifennu Caligraffi sef yr ysgrifen arbennig a geir ar dudalennau dechreuol, boed yn lyfrau neu Feiblau. Yn arwain ni yn y grefft roedd dwy o Fwlchygroes, Sir Benfro. Cafwyd llinell o Emyn David Charles, gan geisio ei ysgrifennu yn debyg i’r hyn y gofynwyd i ni, gan ddefnyddio deunydd arbennig i’w sgrifennu.
Diolchaf am dy gariad cu yn estyn hyd fy oes.
Diolchaf fwy am Un a fu yn gwaedu ar y groes.
Dwy waith y flwyddyn rydym yn cyfarfod gan estyn gwahoddiad i unigolion i siarad neu arddangos eu gwaith. Tro diwethaf cawsom hanes blodau yn y Beibl ac arddangos blodau ar gyfer achlysuron amrywiol yn y flwyddyn gan gael neges Beiblaidd.
Parchg. Carys Ann
Os hoffech rannu newyddion a gweithgareddau eich cyfarfodydd merched chi, cysylltwch â ni