Dros gyfnod y Pasg fe fyddwn ni’n dathlu Calfaria a’r Bedd Gwag: y dioddefaint a’r aberth ddwyfol a drodd yn fuddugoliaeth ac yn llawenydd oesol.
Eleni, mae llywydd yr Undeb, Y Parchg Beti-Wyn James wedi anfon neges at y Sanctaidd Kirill, Patriarch Moscow a holl Rwsia, yn apelio am gymod yn Wcráin.
Dyma'r llythyr yn llawn:
‘Yn enw Iesu Grist, Tywysog Tangnefedd, rydym yn apelio arnoch i ddwys ystyried oferedd y dinistr a’r lladdfa ofnadwy o filwyr a phobl ddiniwed sy’n achosi’r fath ddioddefaint a galar yn y ddwy wlad.
‘Rydym hefyd yn pryderu y gallai’r gwrthdaro yn Wcráin droi’n rhyfel ehangach rhwng Rwsia a gwledydd y gorllewin. Byddai’r fath ryfel rhwng gwledydd cred y tu hwnt i bob tristwch, yn ogystal â bod yn fygythiad posib i bawb ar y blaned hon.
Fel eich cyd-Gristnogion yng Nghymru rydym yn apelio’n daer arnoch i ddefnyddio eich dylanwad aruthrol i ysgogi cadoediad yn yr ymladd rhwng Rwsia ac Wcráin – cadoediad allai roi cyfle i agor trafodaethau heddwch.
Yr eiddoch yng Nghrist, yr hwn aeth i’r groes ar Galfaria drosoch chi a fi, a phawb arall.’