Daeth Delyth Higgins o elusen A Rocha i roi cyflwyniad yn y Cyngor yn Aberystwyth, Hydref 2023 ar yr angen i’n heglwysi ni fod yn gweithredu o blaid y blaned drwy gynllun Eco Church. Dyma erthygl ganddi ar ran yr elusen.
Erbyn i chi ddarllen hwn, bydd cynrychiolwyr o wledydd ar draws y byd wedi cyrraedd yr Emiradau Arabaidd Unedig (UAE) ar gyfer COP28 – cynhadledd hinsawdd y Cenhedloedd Unedig. Bydd yn ddiweddglo ar y rhaglen 5-mlynedd i ddatgan y camau a amlinellwyd yng nghytundeb hanesyddol Paris.
Fis diwethaf (20 o Dachwedd) gwelsom adroddiad arall gan y CU yn sôn am oblygiadau dybryd i ddynoliaeth: bod polisïau ac ymrwymiadau hinsawdd cyfredol yn ein rhoi ar drywydd cynnydd ‘uffernol’ o 3 gradd selsiws uwchben y lefelau cyn-ddiwydiannol. Golyga hyn y bydd llifogydd anarferol a thrymach yn digwydd yn amlach, stormydd a thannau gwyllt gydag oblygiadau catastroffig i ddiogelwch rheiny sy’n fwyaf bregus, perygl i fywoliaethau ac i’r byd naturiol. Mae pob gradd o gynnydd yn y tymheredd yn cyfrif, a dyna pam, nawr, yn fwy nag erioed o’r blaen, mae angen i arweinwyr y byd wrando ar y rhybuddion.
Gweithredu byd eang
Er mai bwriad pob COP yw sicrhau cydweithrediad byd eang i fynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd, bydd yr agenda yn newid yn ôl diddordebau y wlad sy’n cynnal y gynhadledd. Wrth galon COP28 mae’r ‘Global Stocktake’. Hwn fydd yn adlewyrchu gweithrediad byd eang hyd yn hyn, ynghyd â darparu cynllun i symud ymlaen. Canlyniad yr holl drafodaethau fydd natur yr eirfa a thestun y ‘penderfyniad’ terfynol. Ar hyn o bryd fe fydd y ‘stocktake’ yn dangos fod angen i wledydd fod yn llawer mwy uchelgeisiol yn eu cynlluniau i weithredu er mwyn cyrraedd y targedau.
Golyga’r COP yma felly, fod yna gyfle hanfodol i wledydd gywiro neu newid cwrs eu polisïau hinsawdd.
Tanwydd ffosil
Bydd dyfodol a rôl tanwyddau ffosil yn fater hollbwysig arall dan sylw. Mae’r COP yma wedi sbarduno dadleuon a chynnwrf gan ei fod yn digwydd mewn talaith sy’n ymdrin yn helaeth gyda phetrol, ac mai prif weithredwr y cwmni olew gwladwriaethol yw Sultan Al Jabar, sydd wedi ei ddewis fel llywydd y gynhadledd.
Adroddiad diweddar
Mae adroddiad diweddar Rhaglen Amgylchedd y CU yn rhybuddio fod angen torri 22 biliwn tunnell o allyriadau carbon deuocsid erbyn 2030 er mwyn cyrraedd y nod a osodwyd ym Mharis o gadw’r codiad mewn tymheredd i lai a 2 gradd selsiws – mae hyn yn cynrychioli 42% o allyriadau byd eang ac yn gyfystyr ag allbynnau pump o lygrwyr mwyaf y byd. Dywed gwyddonwyr am flynyddoedd lawer fod angen i ni symud i ffwrdd o danwyddau ffosil yn gyflym er mwyn cyrraedd y toriadau sydd angen. Felly, mae penderfyniad yn COP28 i wneud hyn, ac i’w wneud mewn modd sy’n deg i wledydd tlawd (gyda gwledydd mwy cyfoethog yn arwain y ffordd) yn angenrheidiol.
Trafodaeth
Pwynt o drafodaeth bwysig arall i fudiadau ac elusennau cadwraethol yw rôl byd natur i helpu gyda thaclo newid hinsawdd. Amcangyfrifir y gall traean o’r gostyngiadau mewn allyriadau sydd eu hangen ddigwydd drwy warchod ac adfer byd natur. Eto mae’r wyddoniaeth yn glir fod angen i hwn ddigwydd ochr yn ochr â symud i ffwrdd o danwyddau ffosil – nid y naill neu’r llall.
Gobaith
Y gobaith yw felly, y bydd arweinwyr y byd yn cymryd adferiad byd natur o ddifrif ac yn buddsoddi mewn gweithredoedd a fydd yn lliniaru effeithiau newid hinsawdd ac yn cefnogi cymunedau i addasu ac i adeiladu dygnwch. Er enghraifft, gwyddom fod adfer fforestydd mangrof – gwaith wedi’u wneud gan A Rocha Kenya a Ghana – yn amsugno carbon, a hefyd wedi’u brofi’n effeithiol fel amddiffynfeydd yn erbyn llifogydd arfordirol o ganlyniad i godiad mewn lefelau mor. Mae’n eithriadol o bwysig fod gwledydd yn barod i fuddsoddi yn ariannol mewn atebion a datrysiadau cadarnhaol i fyd natur ac i’r hinsawdd.
Rydym yn byw mewn cyfnod digynsail o ran newid hinsawdd a cholled byd natur: mae pob gweithredu – pob ffracsiwn o radd o godiad tymheredd, pob safle olew heb ei agor, pob ffynhonnell newydd o egni adnewyddol, pob aderyn yn yr awyr a phob fforest sy’n cael ei adennill – yn cyfrif.
Sut allwch chi weithredu?
Gweddïo: Ymunwch â ni i weddïo dros y trafodaethau.
Ymdeithio: Ymunwch yn y gwahanol ymgyrchoedd yng Nghymru, mae manylion ar wefan climatejustice.uk ar Ddiwrnod Gweithredu Byd Eang COP ar 9 Rhagfyr.
Ymgyrchu: Dywedwch wrth eich gwleidyddion eich bod yn dymuno gweld natur yn cael blaenoriaeth yn yr etholiad nesaf. Edrychwch ar ymgyrch ‘Nature 2023’ ar wefan arocha.org.uk
Cofrestru : Eich capel/eglwys i fod yn rhan o Eco Church. Ewch i ecochurch.arocha.org.uk – yma gallwch helpu byd natur a chymryd camau i leihau eich ôl troed carbon.
Delyth Higgins
Swyddog Eco Church – Cymru