Y mae llawer ohonom fel Cristnogion yn anhapus iawn gydag agwedd Llywodraeth San Steffan tuag at ymgeiswyr lloches.

Fe ymddengys bod y llywodraeth bresennol yn barod i drin y bobl druan hyn yn annynol er mwyn ceisio plesio canran o’u cefnogwyr. Rhoddant yr argraff fod y bobl sy’n croesi’r Môr Udd ar y cychod bychan yn gyfrifol am gyflwr enbydus economi gwledydd Prydain ar hyn o bryd a’u bod yn bobl ddrwg. Dylent yn hytrach gywilyddio eu bod yn caniatáu i bobl a phlant foddi yn hytrach nac estyn cymorth ac ymgeledd iddynt. 

Yn ddiweddar mae Archesgobion Caergaint a Chaerefrog wedi ymuno gydag Esgob Southwark ac arweinwyr eglwysi eraill i fynegi eu ‘hamheuon mawr’ ynghylch Mesur Diogelwch Rwanda, a basiwyd yn y Senedd nos Lun, yn dilyn wythnosau o drafod ac anghytuno. Yn sgil y ddeddfwriaeth hon bydd rhai ceiswyr lloches yn cael eu halltudio i Rwanda, Affrica, o fewn ychydig wythnosau er mwyn prosesu eu cais am loches. Ond fel rhan o’r ddeddfwriaeth hon y mae Llywodraeth Prydain yn deddfu bod Rwanda yn wlad ddiogel i anfon ymgeiswyr iddi. Mae hyn yn ateb hwylus iawn iddynt hwy. Ond y gwir yw nad yw Rwanda’n wlad sefydlog gan nad yw’n parchu na gweithredu hawliau dynol sylfaenol bob amser. 

Datganiad

Mewn datganiad ar y cyd, fe fynegodd arweinwyr Eglwys Loegr, yr Eglwysi Catholig, Methodistaidd, Bedyddiedig a’r Eglwys Ddiwygiedig Unedig eu pryderon am y pardduo bwriadol sy’n digwydd o bobl sy’n ffoi rhag rhyfel, erledigaeth a thrais. Dywedwyd yn y datganiad:

Rydym yn nodi gyda thristwch a phryder yr atgasedd cynyddol sydd tuag at y rhai sy’n dod i geisio lloches yn ynysoedd Prydain a’r modd y maent yn cael eu defnyddio er mwyn gwneud pwyntiau gwleidyddol.

Gwyddom fod y sefyllfa hon yn un anodd ei datrys ar fyrder ond ein cyfrifoldeb ni fel Cristnogion yw annog ein harweinyddion i ddelio gyda hyn mewn ffordd gyfiawn, lle mae’r anghenus yn cael gofal a diogelwch. Nid ein gelynion yw’r ymgeiswyr lloches ond brodyr a chwiorydd a grëwyd ar lun a delw Duw.

 

o bapur newydd Y Tyst 9 Mai 2024

 

Useful Links

Related Articles

Keep Informed

Receive the latest news, videos and resources.