Daeth dros 50 o aelodau, cyfeillion a theulu’r gweinidog ynghyd i’r Tabernacl, Porthaethwy, fore Sul, 28 Ionawr, a hynny i ddathlu cyrraedd carreg filltir arbennig. 

Sefydlwyd y Parchg J. Ron Williams yn weinidog yn y Tabernacl ar 23 Ionawr 1999. Aeth chwarter canrif heibio ers y diwrnod hwnnw, ac felly rhaid oedd cael dathliad a chyfle i ddiolch iddo am ei waith a’i ofal tyner dros ei braidd.

Cymerodd amryw ran yn y gwasanaeth. Darllenodd Alaw Haf o’r Bregeth ar y Mynydd yn Mathew 5, ac wedi i Owain Bishop ganu unawd swynol, daeth Alaw Glynne ymlaen i arwain y gynulleidfa yn ei gweddi.

Wedi hynny, cymerodd Carol Ungoed Hughes at yr awenau. Gwahoddodd Margaret Lloyd ymlaen i ddarllen neges e-bost o’r Unol Daleithiau. Yn y neges, roedd Edward Morus Jones, ysgrifennydd y Tabernacl adeg y sefydlu ym 1999, yn llongyfarch y gweinidog ac yn dymuno’n dda iddo ef a’r eglwys.

Rhodd

Tasg nesaf Carol oedd cyflwyno rhodd i’r gweinidog, sef llechen ac arni ddau englyn, un gan y Parchg John Gwilym Jones a’r llall gan Gwyn M. Lloyd. Paratowyd y llechen gan Gruffudd Tudur. Wedi’r cyflwyniad, daeth Gwyn Lloyd ymlaen i ddarllen yr englynion ac i esbonio’r delweddau a geid ynddynt. Yn union wedyn, daeth Glenys Pritchard ymlaen i gyflwyno blodau i Rhian, gwraig y gweinidog.

Dwy sir mewn priodas arian – a roed

Ar waith mewn dwy gorlan,

     Un hynod faes mewn dau fan

     I’r addolwyr ar ddwylan. 

John Gwilym Jones 

 

Bu cynnal, bu codi calon, – rhoi her

A hwb i ni’n gyson

     Drwy waith ac arweiniad Ron

     Ar ystyr ‘bod yn Gristion’.

Gwyn M. LIoyd

Neges a Chymun

Diolchodd y gweinidog i’r eglwys a’r gynulleidfa am y rhoddion ac am y dymuniadau da a fynegwyd. Yna, aeth ymlaen i gyflwyno neges seiliedig ar Salm 25. Mae tri gair i’w cofio, meddai. Yn gyntaf, mae Duw yn Un y dylid ei ADDOLI. Yn ail, y mae’n rhoi i ni ARWEINIAD, ac yn drydydd, mae Duw hefyd yn AMDDIFFYN ei bobl ymhob amgylchiadau.

Arweiniodd y neges hon at weinyddu’r Cymun. Dosbarthwyd yr elfennau gan Alaw Haf, June Williams, Alaw Glynne a Carol Ungoed Hughes. Glenys Pritchard oedd wrth y piano trwy gydol y gwasanaeth, ac yr oedd pob un o’r emynau a ganwyd hefyd wedi eu canu yn y gwasanaeth sefydlu ym 1999. 

Wedi’r gwasanaeth, aethpwyd ymlaen i westy Nant yr Odyn yn Llangristiolus lle y cafwyd gwledd i ddathlu’r achlysur. Mawr oedd ein llawenydd wrth gyd-fwyta a dathlu gyda’n gilydd. Bydd hwn yn ddiwrnod y byddwn yn ei gofio am amser maith, a diolch diffuant i bawb fu ynglŷn â’i drefnu ac a gymerodd ran ynddo. Ac, wrth gwrs, llongyfarchiadau a diolch i’n gweinidog, a boed bendith arno ef a’i deulu.

Geraint Tudur

 

 

 

Useful Links

Related Articles

Keep Informed

Receive the latest news, videos and resources.