Prin fod yr un lle’n fwy heddychol na phentre bach Pen-y-bont, sy’n ddwfn yn y bryniau gerllaw Tre-lech yng ngogledd-orllewin Sir Gâr.
A ‘Heddwch’ oedd testun y prifardd a’r meuryn Tudur Dylan Jones, y siaradwr gwadd yng nghyfarfod hwyrol cwrdd chwarter Annibynwyr Gorllewin Caerfyrddin ar noson braf 12 Medi.
Cyswllt lleol y Ddeiseb Fawr
Wrth gyfeirio at Ddeiseb Heddwch fawr merched Cymru yn 1923, fe gyflwynodd Tudur Dylan sleid ar y sgrin fawr o dudalen o’r ddeiseb oedd yn dangos bod nifer o ferched Ben-y-bont ymhlith y 400,000 oedd wedi’i harwyddo. Roedd rhai o’r aelodau ymhlith y 40 oedd yn bresennol yn y capel bach yn adnabod enwau’r llefydd a’r bobl hynny.
Radar milwrol Sir Benfro
Wrth symud ymlaen i sôn am yr angen i sefyll dros heddwch heddiw, dangosodd lun o’r ‘fferm radar’ anferth y mae’r Weinyddiaeth Amddiffyn am ei sefydlu ym Mreudeth, ger pentre Solfach yn Sir Benfro. Dywedodd bod angen ymgyrchu yn eu herbyn, fel y gwnaeth trigolion ardal Llangyndeyrn yng nghwm Gwendraeth yn wyneb y bygythiad i adeiladu argae a boddi ardal eang yno. Dangosodd fap o’r ardal a nodi enwau nifer o gaeau oedd yn cynnwys yr elfen ‘heddwch’.
Emyn heddwch?
Rhestrodd Tudur Dylan rai pobl a gefnogodd rhyfela, gan gyfeirio at emyn poblogaidd Eifion Wyn, ‘Efengyl tangnefedd’ sy’n gorffen gyda chyfeiriad at ‘ryfel yr Oen’. Eglurodd bod ‘rhyfel yr Oen’ yn ddisgrifiad o’r Rhyfel Byd Cyntaf bryd hynny – rhyfel yr oedd Eifion Wyn yn gefnogol iawn iddi. Wrth arwain oedfa mewn un capel, meddai, fe wnaeth ofyn i’r gynulleidfa orffen gyda’r geiriau ‘Fel na byddo mwyach na dial na phoen / Na chariad at ryfel.’ Ond fe wnaeth un o’r gynulleidfa anghofio hynny, a chanu ymlaen ‘na rhyfel yr Oen’. Ar ddiwedd yr oedfa, fe wnaeth yr organyddes ymddiheuro i Tudur Dylan, gan gyfaddef mai ei gŵr oedd y troseddwr, a fyddai’n cael stŵr ganddi ar ôl mynd adre!
Cas-i-neb
Esboniodd sut y gellir rhannu’r gair ‘casineb’ i dair rhan a chael ystyr hollol wahanol: ‘cas-i-neb’. Cyfeiriodd at nifer o bobl a wnaeth dda oherwydd eu ffordd o fyw, e.e. Henry Richard, Tregaron oedd yn cael ei adnabod yn rhyngwladol fel yr Apostol Heddwch.
Heddwch a rhyfel yn y Beibl
Yn y Beibl fe welir y gair heddwch 173 o weithiau, y gair tangnefedd 65 gwaith, ond ceir bron i 450 o gyfeiriadau at ryfel, rhyfela neu ryfelwr. Rhoddwyd cryn dipyn o sylw yn yr Eisteddfod Genedlaethol eleni i Prosser Rhys a enillodd y Goron yn yr Eisteddfod ganrif yn ôl, ond ni chyfeiriwyd at yr emyn ‘Duw a Thad yr holl genhedloedd’ (Caneuon Ffydd 825) a genir ar y dôn ‘Tangnefedd’ ac a gyfansoddwyd gan Olive V. Williams Davies, merch o Bont-y-gwaith, Cwm Rhondda. Daw geiriau pennill olaf yr emyn o Eseia 48, adnod 18 – ‘byddai dy heddwch fel yr afon, a’th gyfiawnder fel tonnau’r môr.’
Wrth gloi, gofynnodd Tudur Dylan i aelodau’r cyfundeb i arwyddo deiseb yn erbyn fferm radar Sir Benfro, fel y gwnaeth aelodau Pen-y-bont yn achos y Ddeiseb Heddwch ganrif yn ôl.
(Seiliedig ar nodiadau Joan Thomas, Cofnodydd y Cyfundeb. Lluniau gan Alun Lenny. Bydd hanes gweddill y Cwrdd Chwarter mewn rhifyn pellach o’r Tyst)