Yn ddiweddar mae Gofalaeth Bro Nant Conwy Cyfundeb Gogledd Arfon wedi bod yn llwyddiannus i dderbyn cymorth Undeb yr Annibynwyr Cymraeg drwy’r Rhaglen Arloesi a Buddsoddi.

Fel rhan o’n rôl fel caplan y clwb rygbi lleol, trefnwyd gwasanaethau yn y clwb gyda phobl o bob oedran yn cymryd rhan.

Prif amcanion y project arloesi yma ydi:

1. Ysgogi gweithgarwch drwy gydlyniad y gweinidog o fewn yr ofalaeth fro.

2. Gwneud cysylltiadau ymarferol pellach gyda mudiadau o fewn cymdeithasau yn cynnwys chwaraeon.

3. Sicrhau parhad a chynnydd mewn gweithgareddau Cristnogol i blant a phobl ifanc

4. Gweithio gyda theuluoedd y byd amaeth ac ar yr un pryd eu tynnu yn nes at eglwysi.

5. Ymhob peth sicrhau parhad tystiolaeth Gristnogol yn yr ardaloedd gwledig gan gael pobl i weld gwerth yn eu diwylliant a’u hetifeddiaeth Gristnogol

6. Trwy gael pobl at ei gilydd mewn cydaddoliad a rhoi sylw i unigrwydd ac iechyd meddwl a lles trigolion cefn gwlad

Taith y Pasg. Mae perthynas gydag ysgolion lleol yn bwysig iawn a chyfle i ymweld â’r ysgol ar gyfer gwasanaethau/digwyddiadau a hefyd cyfle i wahodd ysgolion i mewn i’n heglwysi. Un enghraifft o hyn yw gwahodd ysgolion i Daith y Pasg fel bo hanes y Pasg yn dod yn fyw a gweledol i’r plant.

Datblygu’r gwaith

Drwy’r project bwriedir parhau a chynyddu’r gweithgaredd yn yr ardaloedd gwledig, gyda chymdeithasau a chlybiau a chyda theuluoedd. Bydd y gwaith o genhadu yn bwysig drwy’r project. Mae'r grant hwn wedi galluogi'r Parchedig Owain Davies i ganolbwyntio am ddiwrnod a hanner yr wythnos ar waith arloesi drwy weithio’r tu hwnt i furiau’r capeli. Mae bywydau teuluoedd wedi newid cymaint dros y blynyddoedd ac mae rhaid i rôl y capeli addasu i fod lle mae'r bobl. 

Teimla Owain yn gryf fod yn rhaid creu perthynas glos er mwyn dod a gair Duw i bawb o fewn eu gweithgareddau bob dydd. Mae’r eglwys heb furiau yn mynd allan i’r gymuned a bod yn rhan ragweithiol o fywydau pobl a hefyd wrth gwrs unwaith mae’r perthynas wedi ei greu croesawu pobl i weithgareddau'r eglwys.

Cystadleuaeth Cwpan CIC, sef cystadleuaeth pêl-droed i glybiau CIC yr ofalaeth.

Clybiau

Mae’r gwaith yn parhau i fod yn llewyrchus gyda nifer o glybiau plant ac ieuenctid, gweithgareddau cymdeithasol a chaplaniaeth chwaraeon.

Isod mae rhagflas o rai o’r gweithgareddau. Rydym yn teimlo’n ffodus iawn i dderbyn y cyllid hwn ac yn ddiolchgar i Undeb yr Annibynwyr am eu cefnogaeth. Rydym hefyd yn hynod ddiolchgar i’r holl aelodau a chyfeillion yr ofalaeth sydd wedi cynorthwyo gyda’r gwaith cyffrous yma.

 

Useful Links

Related Articles

Keep Informed

Receive the latest news, videos and resources.