Roedd yn werth codi am dri y bore i ddal yr awyren i Amsterdam! Bûm yno am dridiau ddiwedd Ebrill fel un o gynrychiolwyr Undeb yr Annibynwyr Cymraeg mewn cyfarfod o Eglwysi Ewrop o Gyngor y Genhadaeth Fyd-Eang (CWM) i drafod eu cenhadaeth.
Mae pump o eglwysi’n perthyn i ranbarth Ewrop o CWM: yr Eglwys Ddiwygiedig Unedig (URC), y Gynghrair Gynulleidfaol (Congregational Federation), Eglwys Brotestannaidd yr Iseldiroedd, Eglwys Bresbyteraidd Cymru ac Undeb yr Annibynwyr Cymraeg. Daeth cynrychiolwyr o’r pum eglwys ynghyd i Amsterdam i drafod ac ymweld â phrosiectau ar wahoddiad Eglwys Brotestannaidd yr Iseldiroedd. Bu’r tridiau’n rhai gwerthfawr iawn.
Eglwys Betondorp
Profiad cofiadwy oedd ymweld ag eglwys newydd a blannwyd yng nghanol stad o adeiladau concrid yn Betondorp a gwrando ar y gweinidog, Margreitha Reinders, yn sôn mewn ffordd naturiol a chynnes am ei phrofiad o blannu eglwys newydd mewn ardal lle nad oes gan bobl bellach unrhyw gysylltiad â Duw. Mae’r eglwys yn cyfarfod mewn canolfan gymdeithasol a’i gweledigaeth yw bod modd gweld bywyd a blagur yn ffynnu o goncrid. Clywyd tystiolaeth gan Margreitha bod y sawl a ddaeth i gwrdd yn yr eglwys newydd hon yn nerfus iawn ar y cychwyn, a chyffyrddiad hyfryd oedd ei chlywed yn cymharu’r nerfusrwydd hwnnw â’r sawl a welodd Iesu wedi ei atgyfodiad, heb wybod pwy ydoedd, tan iddynt ddod i adnabod y Crist byw yn raddol. Calondid oedd clywed bod yr eglwys draddodiadol wedi cefnogi’r model newydd hwn o eglwys. Dyma fodel i’w gofio wrth i ni ystyried ein dyfodol ninnau.
Etifeddiaeth caethwasiaeth
Ni ellir ymweld ag Amsterdam heb fynd mewn cwch ar y gamlas! Gwerthfawrogwyd yn fawr fod taith wedi ei threfnu ar ein cyfer, yng nghwmni’r hanesydd diwylliannol Jennifer Tosch. Hi yw sylfaenydd y ‘Black Heritage Tours’ yn Amsterdam a rhannodd â ni o’i gwybodaeth helaeth am gysylltiad hanesyddol caethwasiaeth â’r ddinas. Fe’n croesawyd hefyd i’r Amgueddfa Lutheraidd am drafodaethau pellach.
Newyddion
Mae’r cyfarfodydd hyn yn rhoi cyfle hefyd i glywed adroddiadau gan Eglwysi CWM Ewrop. Roedd clywed am gymaint y maent yn ei gyflawni yn codi’r galon. Hawdd iawn i ni feddwl ein bod yn syrthio i gyflwr enbyd o ddirywiad a bod popeth a wnawn yn methu. Yr un yw’r heriau ym mhob gwlad a phob traddodiad eglwysig, ond braf oedd cael cyfle i agor ein meddyliau ac i weld sut y gallwn wynebu’r heriau drwy ddysgu oddi wrth ein gilydd.
Prosiectau CWM
Ychwanegwch areithiau gan gyfeillion o Eglwys Brotestannaidd Amsterdam, ynghyd ag araith gan y Parchg Ddr Jooseop Keum, Ysgrifennydd Cyffredinol CWM a soniodd am y Prosiect Onesimus a lansiwyd ym mis Awst 2022. Dangosodd fel y mae’r prosiect yn cynorthwyo’r Cyngor i hunanfyfyrio wrth drafod caethwasiaeth yn ei gyd-destun hanesyddol a chyfoes ac i ddirnad o’r newydd ei chenhadaeth o gyfiawnder a thegwch heddiw.
Ychwanegwch hefyd sesiwn ar ‘Life Flourishing Mission’, defosiwn bendithiol, trefniadau ardderchog a chwmni da, a do, bu’n dridiau gwerth chweil a bendithiol iawn.
Da oedd cael bod yno. Diolch am y fraint o gael eich cynrychioli.
Beti-Wyn James