Ar ddydd Sadwrn, 4 Ionawr, fe gynhaliwyd digwyddiad arbennig lle y daeth grwpiau ledled Cymru at ei gilydd i sefyll mewn undod â gweithwyr iechyd a meddygol Gaza sydd wedi dioddef ymosodiadau di-baid gan fyddin Israel dros y pymtheg mis diwethaf.

Mae dros fil o weithwyr iechyd wedi eu lladd a llawer o adnoddau iechyd wedi eu dinistrio. Bu gwrthdystiad yn Ysbyty Gwynedd, Bangor; Ysbyty Maelor, Wrecsam; Ysbyty Glan Clwyd, Bodelwyddan; Ysbyty Bronglais, Aberystwyth; Ysbyty Glangwili, Caerfyrddin; Ysbyty’r Grange, Cwmbrân ac Ysbyty Brenhinol Morgannwg, Tonysguboriau.

Lladd, ymosod a chipio

Ar ddiwedd 2024, targedwyd Ysbyty Kamal Adwan yng ngogledd Gaza. Adroddir bod 50 o bobl wedi cael eu lladd yn yr ysbyty neu’n agos ati gan filwyr Israel. Ddiwedd Rhagfyr, yn dilyn wythnosau o fomio di-baid, goresgynnodd lluoedd Israel yr ysbyty, gan gymryd 240 o bobl yn wystlon, gan gynnwys gweithwyr gofal iechyd a chleifion. Mae’r Euro Medical Human Rights Monitor wedi cofnodi adroddiadau dirdynnol o droseddau difrifol a gyflawnwyd gan luoedd Israel yn ystod yr ymosodiad ar yr ysbyty, gan gynnwys llofruddiaethau bwriadol, dienyddiadau, yn ogystal ag ymosodiadau rhywiol a chorfforol ar fenywod a merched. Un o’r rhai a gipiwyd oedd Cyfarwyddwr Meddygol yr ysbyty, Dr Hussam Abu Safia. Yn Hydref 2024, cafodd mab Dr Abu Safia ei ladd gan daflegryn Israelaidd ac anafwyd Dr Abu Safia hefyd gan shrapnel o ymosodiad drôn a darodd yr ysbyty.

Amnest

Mae Amnest Rhyngwladol wedi adrodd: ‘Ers dechrau’r hil-laddiad yn erbyn Palestiniaid yn Gaza, mae Israel wedi cipio cannoedd o weithwyr gofal iechyd Palesteinaidd heb gyhuddiad na phrawf. Cafodd gweithwyr iechyd eu harteithio a’u cam-drin mewn ffyrdd eraill a’u caethiwo heb iddynt allu cyfathrebu â neb.’ Mae’r ymgyrchwyr yn galw ar aelodau seneddol Cymru yn San Steffan ac aelodau’r Senedd yng Nghaerdydd i fynnu rhyddhau Dr Abu Safia, ei gydweithwyr a’i gleifion ar unwaith ac yn ddiamod.

Dywedodd llefarydd ar ran y grŵp sy’n trefnu’r diwrnod o weithredu: 

‘Galwn ar Ysgrifennydd Tramor y Wladwriaeth Brydeinig, David Lammy i fynnu bod Israel yn rhyddhau Dr Hussam Abu Safia a’r holl weithwyr iechyd eraill mewn caethiwed ar unwaith. Mae’n bwysicach nac erioed ar ddechrau 2025 bod ein llais dros heddwch a chyfiawnder i bobl Palesteina yn cael ei glywed yn eglur.’

Neges dreuliedig

Mae lladdfeydd didostur Israel o bobl ddiniwed a dinistrio bwriadol o seilwaith sifilaidd, yn enwedig y sector iechyd ym Mhalesteina, Libanus ac erbyn hyn, Syria yn gorfod dod i ben. Mae’n hen bryd i’n gwleidyddion, yn enwedig yn San Steffan i roi’r gorau i adrodd y neges dreuliedig fod ‘gan Israel hawl i amddiffyn ei hun’, a chydnabod yn gwbl eglur bod Israel yn cyflawni hil-laddiad er mwyn creu ‘Israel Fwy’.

(Derbyniwyd y wybodaeth a lluniau uchod mewn gohebiaeth gan y Parchg Guto Prys ap Gwynfor)

Useful Links

Related Articles

Keep Informed

Receive the latest news, videos and resources.