Cafwyd darlith wirioneddol wych gan Eurig Davies o Bontardawe ar achlysur 300 mlwyddiant geni Peter Williams, cyhoeddwr y Beibl esboniadol enwog, yn festri Heol Awst, Caerfyrddin.

Roedd y lleoliad yn arbennig o addas, gan y tybir mai ar y safle hwnnw, neu’n agos iawn ato, yr argraffwyd y Beiblau gan Ioan Ross o 1770 ymlaen.

Galw eithriadol am Feiblau

Roedd y festri sylweddol yn llawn ar gyfer y ddarlith gan Eurig, sy’n dod yn wreiddiol o ardal Rhydargaeau, gan fynychu capel Bwlch-y-corn ac ysgol ramadeg Caerfyrddin. Mewn darlith ar y cyd â lluniau perthnasol ar y sgrin fawr, fe aeth e’n hwylus â ni trwy gefndir y Beibl Cymraeg cyn dod at gyfnod a champ fawr Peter Williams. 

Esboniodd Eurig mai dim ond y wasg frenhinol a phrifysgolion Caergrawnt a Rhydychen oedd â’r hawl i argraffu Beiblau. Llwyddodd Peter Williams i osgoi’r rheol trwy gyhoeddi Beiblau ar ffurf esboniad. Bu galw eithriadol amdanynt yn ystod oes Williams ac am ganrif a mwy ar ôl ei farw. Am genedlaethau, hwn oedd y Beibl mewn miloedd di-ri o gartrefi Cymru.

Hanes trist

Bu Peter Williams yn un o arweinwyr y mudiad Methodistaidd cynnar, ac fe gododd gapel yn Heol Dŵr, ergyd carreg o Heol Awst. Ond tua diwedd ei oes, fe drodd pethau’n chwerw. Adroddodd Eurig yr hanes trist am y modd y gwnaeth Howell Harris a cheffylau blaen eraill y Methodistiaid droi yn ei erbyn mewn dadl ynglyn â natur y Drindod. Cyhuddwyd Peter Williams o heresi a’i ddiarddel yn Sasiwn Llandeilo yn 1791. Bu farw bum mlynedd wedi hynny, a’i gladdu ym mynwent eglwys Llandyfaelog. 

Trysor teuluol

Roedd Eurig Davies wedi dod â thrysor gydag ef fel rhan o’r cyflwyniad, ac i bawb ei weld wedyn, sef copi o argraffiad cyntaf Beibl Peter Williams, sydd wedi bod yn ei deulu fe a’i chwaer Rhian ers 1770. 

Bu’r ymateb i’r ddarlith yn gynnes dros ben. Diolchwyd yn ddiffuant i Eurig am y cyflwyniad, cyn i bawb gael cyfle i gymdeithasu gyda phaned a chacen. Diolch hefyd i Gymdeithas Ddiwylliadol Heol Awst a Smyrna am drefnu’r achlysur hynod lwyddiannus hwn. 

 

Related Articles

Keep Informed

Receive the latest news, videos and resources.