Y Bachgen a’r Wal

Dyma erthygl gan y bardd rhyngwladol Menna Elfyn am gyfrol bwysig sydd ar gael i blant, ac i bawb, yn Gymraeg. 

Pan oeddwn yn blentyn yr hyn a glywn wrth sôn am y Nadolig oedd bod yr ŵyl ar ein gwarthaf. Methwn â deall pam yr oedden nhw’n dweud bod y Nadolig ar ei gwaethaf! Ie, i blentyn, roedd ‘gwaethaf’ yn air agosach o lawer ar dafod lleferydd na’r dywediad ‘ar ein gwarthaf’. Hwyrach i mi, wrth feddwl am yr ŵyl eleni, deimlo pwl o’r ‘gwaethaf’ o gofio am y rhyfeloedd pell i ffwrdd – Wcráin a hefyd Gaza. Rhai sydd, er yn bell, rywsut sy’n camu’n agosach atom bob dydd gyda thrasiedïau sydd yn feunyddiol.

Newyddion erchyll

Wrth i mi ysgrifennu hyn o eiriau, daeth y newydd am bump o newyddiadurwyr a laddwyd yn Gaza tra’u bod yn cysgu mewn cerbyd dros nos. Roedd un newyddiadurwr yn disgwyl clywed am enedigaeth ei blentyn cyntaf yn yr ysbyty gerllaw. Yn lle hynny, bydd ei wraig yn clywed am ei farwolaeth yntau wrth iddi eni neu wedi iddi eni ei blentyn. Bob wythnos, rydym yn credu na all pethau fynd yn waeth gyda’r rhyfel hyd yn oed os yw’r troseddau gwaethaf wedi eu cadw rhagom. Dyw’r newyddion ddim yn peidio â’n cyrraedd, naill ai yn araf deg neu gan newyddiadurwyr dewr sydd yn parhau i ryddhau i ni wybodaeth am yr hyn sy’n digwydd yn Gaza ac ar y Llain Orllewinol. Sut mae modd i rywun ymateb yn gadarnhaol i’r hyn sy’n digwydd yno neu mewn sefyllfaoedd tebyg? Un ateb yw gwneud yr hyn a allwn. A rhannu storïau. Rhoi ar gof a chadw newyddion sy’n atgof o fywyd a’i gyfoeth. A chodi arian os medrwn. Dyma fi’n cofio am gyfrol go arbennig sef Y Bachgen a’r Wal.

Lajee

Fel bardd Plant Cymru yn 2002-3 bûm mewn cysylltiad gyda chanolfan Lajee yn y Llain Orllewinol. Ystyr Lajee yw ffoadur, ac rown yn ymwybodol o’r ganolfan hon am iddi gael ei sefydlu gan y bobl ifanc gyda help rhai oedolion wrth gwrs. Tyfodd yn ganolfan a oedd yn cynnal gweithgareddau amrywiol i’r plant iau a’r plant hŷn. Hyd at yn ddiweddar, roedd y feithrinfa yn dal ar agor wedi i mi holi ei hynt o glywed am yr aflonyddwch yn y rhan honno o Balesteina. Tua’r un adeg, a heb gyswllt rhwng y naill beth a’r llall, cefais wahoddiad arbennig i fod yn rhan o ŵyl farddoniaeth fawr yn Tel Aviv. Dywedais y byddwn yn barod i ddod pe bawn yn cael mynd hefyd i ddwyrain Jerwsalem (roedd adeiladu sylweddol yn digwydd yno ar y pryd yn groes i Ddeddf Ryngwladol). Nodais hefyd y carwn ymweld â’r ganolfan ond dywedwyd wrthyf yn blwmp ac yn blaen nad oedd hynny’n bosib ond y cawn wyliau am ddim mewn lle braf ger y Môr Marw. Y Môr Marw o bobman! Gwrthodais y cais, a digio’r trefnwyr Iddewig am wneud hynny. A cholli’r unig gyfle i weld y rhan ryfeddol o’r byd yr oeddwn wedi darllen amdano gyhyd.

Cadw cysylltiad

Ond dyma barhau i gadw cysylltiad â’r ganolfan ac yna clywais eu bod yn siomedig am i wal enfawr gael ei adeiladu y tu allan i’r ganolfan. A dyna sut y daeth y syniad o ysgrifennu amdano i fodolaeth a’r plant yn llunio’r stori eu hunain. Stori swynol yw hi am blentyn yn dymuno gweld beth sydd y tu ôl i’r wal enfawr ac yn dychmygu y ffyrdd gwahanol o gyrraedd yno. Mae’n stori gynnil, gynnes am blentyn a’ i fam. Pan ddechreuodd y rhyfel yn sgil gweithred erchyll Hamas, meddyliais y dylid cyhoeddi’r stori hon yn Gymraeg gan wneud hynny fel cofnod o ddychymyg plentyn Palesteinaidd. Ffordd arall o gofnodi yw ysgrifennu, gan roi rhywbeth ar gof a chadw, i’r oesoedd a ddêl.

Allwedd

Amahl, sydd bellach yn Athro Anthropoleg, a arweiniodd y gweithdy i greu stori Y Bachgen a’r Wal gyda’r plant yn cyfrannu ati. Aeth ugain mlynedd heibio ers hynny, a’r plant bellach yn oedolion. Tybed ble maent erbyn hyn? A ydynt yn rhieni eu hunain? Un peth sy’n weddol sicr, mai prin yw’r rhai sydd wedi cael yr hawl i adael eu gwersyll yn Aida, Bethlehem a symud oddi yno, statws fel ffoaduriaid sydd iddynt. Ac mae’r wal yn parhau yno hyd yn oed os bu i’r ganolfan lwyddo i greu allwedd fel cerflun uwchben y ganolfan fel symbol o obaith am ryddid i’w gwlad. Dywedir mai’r cerflun hwn yw’r allwedd fwyaf yn y byd. Eironig o feddwl mor gaeth yw’r genedl sy’n ei gweld.

Dameg yw’r stori, fel y rhai y byddai’r Iesu yn eu hadrodd, a dyna pam y teimlaf elfen o reidrwydd a balchder o weld hon wedi ei hargraffu gyda’r elw yn mynd tuag at elusen sy’n parhau i weithredu ym Mhalesteina. Dyma destament go iawn, a phan ddeuai’r rhyfel i ben , byddai’r llyfr yn dal yn gofnod, yn rhan o hanes byw y plant hynny a’i lluniodd.

 

Cyhoeddir y gyfrol mewn tair iaith, Arabeg, Cymraeg a’r Saesneg gwreiddiol, ei phris yw: £7.99. Mae ar gael o: sgema.cymru, gallwch anfon neges at post@sgema.cymru. Bydd yr elw’n mynd tuag at: SOS Children’s Villages Palestine.

 

Related Articles

Keep Informed

Receive the latest news, videos and resources.