Roedd nos Fercher, 20 Medi yn noson fawr yng nghapel Gellimanwydd. Cynhaliwyd cwrdd sefydlu’r Parchedig Dr Emyr Gwyn Evans, yn weinidog i Iesu Grist yn eglwysi Gellimanwydd, Rhydaman a Moreia, Tycroes.
Urddasol
Cyn weinidog Gellimanwydd a chyn Ysgrifennydd Cyffredinol Undeb yr Annibynwyr Cymraeg, y Parchg Dewi Myrddin Hughes oedd yn llywyddu a hynny’n gelfydd ac urddasol. Un o feibion Moreia oedd yn cyflwyno yr Alwad i Addoli sef y Parchg D. Eirian Rees, Efailisaf. Yna cawsom ddarlleniad gan y Parchg Ken Thomas a gweddi gan y Parchg Eirian Wyn Lewis, y ddau o ardal enedigol Emyr Gwyn Maenclochog a Mynachlog-ddu. Roedd y sefydlu yng ngofal y Llywydd.
Rhoddodd Mrs Bethan Thomas, ysgrifennydd y pwyllgor gwaith, hanes yr alwad, gan gynnwys hanes agos y ddwy eglwys, cyn i un o gyn aelodau Gellimanwydd, y Parchg Guto Llywelyn gyflwyno yr Urdd Weddi. Un o gymwynaswyr y ddwy eglwys y Parchg Glan Roberts, Tycroes gyflwynodd yr Emyn Urddo. Yna cawsom air o gyflwyno gan Mrs Elonwy Phillips ar ran Gofalaeth Bröydd Myrddin a Miss Rhiannon Mathias ar ran Cyfundeb Gorllewin Caerfyrddin. Mr Edwyn Williams oedd yn croesawu ar ran Gellimanwydd a Moreia, Mr Gethin Thomas ar ran Cyfundeb Dwyrain Caerfyrddin a Brycheiniog ac ar ran eglwysi’r cylch y Parchg John Talfryn Jones. Y Parchg Dyfrig Rees, Ysgrifennydd Cyffredinol Undeb yr Annibynwyr Cymraeg a chyn weinidog Gellimanwydd a Moreia oedd yn traddodi’r Bregeth. Yr organydd oedd Mr Rhys Thomas. Ac i gloi oedfa gyfeillgar arbennig offrymwyd y Fendith gan y Parchg D. Gerald Jones.
Wedi’r oedfa aeth y gynulleidfa luosog i neuadd Gellimanwydd i gymdeithasu yng nghwmnïaeth ein gilydd drwy rannu cwpanaid o de a lluniaeth ysgafn.
Roedd yn bleser cael bod yn yr oedfa gynnes gyfeillgar arbennig hon ar ddechrau hanes newydd y ddwy eglwys.