Wrth estyn croeso i’r brifwyl, mae’r Parchg Iwan Llewelyn, gweinidog yn yr ardal ac un o olygyddion Y Tyst, yn adrodd hanes un o fawrion y fro.
Mae yna groeso cynnes yn eich aros yn y fro arbennig yma. Llyn ac Eifionydd, ie – ond mae’r dalgylch wedi ymestyn i gynnwys Arfon a rhan ogleddol Meirionnydd yn ogystal.
Y bwriad gwreiddiol oedd cynnal y Brifwyl yma yn 2021, ond fe ddaeth y Covid gan wthio’r Eisteddfod hon, fel Tregaron y llynedd, ddwy flynedd i’r dyfodol. Mae’r fro, fel y croeso, yn un gynnes. Mae hefyd yn ardal hynod ddiwylliedig wnaeth fagu stôr o bobl ddaeth yn amlwg yn eu meysydd ar hyd y canrifoedd. Hoffwn gyfeirio at un bardd a gweinidog na chynhwyswyd rhai o’i emynau, gwaetha’r modd, yng nghymanfa ganu’r Eisteddfod.
Fuoch chi ’rioed yn Llaniestyn?
Un o’r pentrefi anoddaf i’w ddarganfod yn Llŷn yw Llaniestyn (mae gen i hawl i ddweud hynny oherwydd bod gen i deulu yno!). Dim ond Reheboth, capel yr Annibynwyr, sy’n dal ar agor. Ynddo ceir cofeb i un o feibion y fro a godwyd yn y capel, sef John Henry Hughes (1814-93). Fe’i ganwyd yn Nhy’n-y-Pwll, Garn Fadryn, o fewn ergyd carreg i Laniestyn, ac yn yr union dŷ, flynyddoedd maith yn ddiweddarach, y ganwyd Dilwyn Morgan y diddanwr, sy’n byw yn y Bala bellach. Enw barddol John Henry oedd Ieuan o Leyn (sylwer ar yr hen sillafiad o’r gair Llŷn) Wedi cyfnod yn ysgol ramadeg Botwnnog gerllaw, bu’n hyfforddi ar gyfer y weinidogaeth yng Ngholeg Aberhonddu. Yn 1843 fe’i hordeiniwyd a’i sefydlu’n weinidog yn Llangollen a phriodi Jane Jones o’r dref honno.
Cenhadwr
Yn 1847 atebodd wahoddiad gan Gymdeithas Genhadol Llundain i wasanaethu fel cenhadwr yn Demerara (Guyana bellach) yn Ne America. Ond ni chafodd o na’i wraig iechyd cryf yno a dychwelodd y teulu i Hartlepool yn Swydd Durham yn 1854, a bu’n gweinidogaethu efo’r Annibynwyr Saesneg yno. Daeth ’nôl i Gymru yn 1875 i wasanaethu Annibynwyr Saesneg Cefn Mawr ger Wrecsam, ac yn yr ardal honno y bu weddill ei ddyddiau.
Emynydd
Roedd yn fardd ac emynydd o fri. Nodaf ddau emyn ardderchog: ‘Wele wrth y drws yn curo / Iesu, tegwch nef a llawr’ (C.Ff.317), a’r clasur’ O Iesu croeshoeliedig, Gwaredwr dynol-ryw’ (C.Ff. 508). Y mae eraill, ond mae’r ddau yna’n dangos pa mor ddigonol oedd holl-ddigonolrwydd Iesu Grist iddo.
Perl o’r llwch
Mae angen codi ambell i berl fel hyn o’r llwch ym mro’r Eisteddfod. Gyda llaw, yn Llaniestyn, yn yr union ffermdy y mae gen i gysylltiadau teuluol ag ef – Rhosgoch – y ganwyd William Lloyd, awdur y dôn gyfarwydd ‘Meirionnydd’ (C.Ff.71) Felly dowch draw i Foduan. Ardal ydi hi a dweud y gwir, rhwng Pwllheli a Nefyn, er bod yna gapel Presbyteraidd ac Eglwys Anglicanaidd wedi bod yno. Well i mi beidio rhoi cyfarwyddiadau teithio i chi rhag ofn i mi fynd yn groes i gyfarwyddiadau’r Steddfod! CROESO MAWR I’R FRO.