Ddydd Sul, 20 Hydref, daeth cynulleidfa luosog ynghyd yng nghapel Rhyd-y-main i oedfa arbennig dan arweiniad y Parchg Huw Dylan, Llangwm.
Hyfryd oedd bod yn dystion i wasanaeth derbyn chwech o ferched ifanc yr ardal yn gyflawn aelodau, sef Llio Emlyn Roberts, Esgairgawr, Tesni Vaughan Jones, Bryn Derw, Sara Pennant Jones ac Erin Pennant Jones, Braichbedw, ynghyd â Magi Non Jones a Gweno Aur Jones, Cymagwern. Braint i’r eglwys yw eu cael yn aelodau.
Yn dilyn y gwasanaeth, cafwyd swper dathlu yn y neuadd drwy garedigrwydd Trebor ac Annwen Roberts, Glan Mynach, a mawr yw diolch yr eglwys iddynt hwy am eu haelioni.