Blwyddyn ers colli Euryn Ogwen, dyma deyrnged deimladwy iddo gan Siân Meinir.
Mae ei greadigrwydd, ei afiaith a’i frwdfrydedd yn dal i ysbrydoli. Yr wythnos hon rwyf wedi rhyddhau ei emyn ‘Dy Enfys Di’ a gyfansoddwyd ganddo yn 2020, a’r dôn gen i er cof amdano. Byddai Euryn eisiau inni gyd, ynghanol helbulon y byd, i barhau i weld enfys cariad Duw a’r gobaith sydd i’w gael drwy ffydd. Mae’r harmoni posibl rhyngom fel pobl, yn ein heglwysi ac yn ein byd, yn rymusach wrth inni arddel ein bod yn gynulleidfa sydd â’r gallu i ‘agor drysau a rhyddhau yr egni na allwn ei gynhyrchu ar wahân’. Roedd Euryn yn fonwr oedd yn credu mewn cymdeithas, yn cydio’n y cadarnhaol, ac yn pwyso ar y posibiliadau ymhob peth bob amser, hyd yn oed mewn trallod ac ar ddiwedd ei fywyd ar y ddaear. Gadewch i ninnau barhau mewn brwdfrydedd dros achos Crist; gyda diolch i Euryn am ei arweiniad fel cyfaill annwyl i nifer, fel Cristion o argyhoeddiad, ac fel Cyfryngwr i gariad real Duw yn ein byd sy’n parhau.
Dy Enfys Di
Pan fydd geiriau’n clecian drwy’r ymenydd
Ac atsain y canrifoedd yn y co’,
Rhyfeddaf at y grym a’r egni newydd
Sy’n cael ei greu o’u cwmpas nhw bob tro.
Pan glywaf felodi yn llenwi ‘nghlustiau
Mae’n rhoi adenydd ar fy enaid i
A chodaf uwch ddiflastod llwyd ein dyddiau,
Yn nes at lle rwy’n tybio fyddet Ti.
Ond pan ddêl cynulleidfa i addoli
Bydd harmonïau grymus yn y gân
Yn agor drysau a rhyddhau yr egni
Na allem ei gynhyrchu ar wahân.
A thrwy y glaw yr heulwen deimlwn ni
Ac fe gawn eto weld dy enfys Di.
Sian Meinir
Bu Euryn Ogwen Williams yn aelod a diacon ffyddlon a gweithgar yn eglwys y Tabernacl Y Barri.