Mae’n siŵr eich bod wedi cael y profiad wrth deithio trwy Gymru o weld capeli wedi’u cau a’u gadael i ddadfeilio. Darlun trist iawn o ddirywiad Anghydffurfiaeth a thystiolaeth bod cynnal a chadw capeli wedi mynd yn faich i gynulleidfaoedd sy’n heneiddio. Hwyrach y gall y lluniau hyn o gapel Bethlehem Pwll-trap ar ei newydd wedd gynnig gobaith mewn cyd-destun heriol.

Gwerthu

Wrth edrych i’r dyfodol fel gofalaeth o bedair eglwys penderfynwyd bod gennym ormod o adeiladau. Yn hytrach na gweld hyn fel rhwystr fe’u hystyriwyd yn adnoddau gwerthfawr. Ond roedd yn rhaid cael cydweithrediad ymddiriedolwyr i gau dau gapel a’u gwerthu, proses hir sy’n rhaid ei gyflawni yn ofalus a sensitif. Gweithred dewr yw bod yn barod i gau’r drws am y tro olaf ar gartref ysbrydol a mangre bedyddio, priodi a chladdu i’r teulu. Ond dyna a ddigwyddodd.

Meini tramgwydd

A dyma ddod wyneb yn wyneb ȃ dau gorff sydd yn benderfynol o oedi’r broses. Y Comisiwn Elusennau sy’n gorff wedi hen oroesi ei ddefnyddioldeb ac yn gwrthod ymateb i unrhyw ymholiad a chyfreithwyr sy’n mynnu dewis y llwybr mwyaf araf a chostus o weithredu. Peidiwch ȃ gadael iddyn nhw reoli’r broses. Mae yna ffordd o wneud hyn ond dw i ddim yn bwriadu ei osod ar bapur, rhag ofn! Dydy’r problemau ddim yn gorffen yn y fan hon yn anffodus. Mae corff arall sy’n benderfynol o greu rhwystrau dianghenraid yn enwedig os yw’r adeilad sy’n weddill wedi ei gofrestru. Y cyngor sir sydd wedi creu proses gynllunio er mwyn gohirio’r gwaith adeiladu a’ch gorfodi i wario miloedd o bunnoedd.

Buddsoddi ac Arloesi

Ydy hyn i gyd yn werth y drafferth? Os oes gennych chi aelodau hyblyg sy’n barod i dorchi llewys ac adeiladydd sy’n ymroddedig, yna, ydy yn ddigwestiwn. Edrychwch ar y lluniau sy’n dangos gofod aml-bwrpas a chysurus gydag addoliad yn ganolog iddo. Diolch i’r drefn y mae Undeb yr Annibynwyr wedi’n galluogi i gyflogi Swyddog Cymunedol fydd yn sicrhau ein bod yn gwneud y defnydd gorau o’r adnodd gwerthfawr hwn gan agor y drysau led y pen i groesawu a chenhadu.

Mae angen inni ganu clodydd Undeb yr Annibynwyr am y weledigaeth o fuddsoddi ag arloesi, neu fyddai dim pwynt inni fod wedi mynd trwy’r broses hirfaith hon.

Rhodri Glyn Thomas

 

Useful Links

Related Articles

Keep Informed

Receive the latest news, videos and resources.