Trwy gydol mis Mehefin eleni, bu aelodau Bethlehem, Gwaelod-y-garth, yn dathlu 150 mlwydd oed yr adeilad presennol.
Er mai 1872 sydd ar y garreg sydd ar dalcen blaen y capel, mae’r cofnod canlynol o Y Tyst a’r Dydd (rhifyn 13 Mehefin 1873), sy’n adrodd hanes agor y capel ‘newydd’, yn nes ati siŵr o fod:
Mae y Bethlehem hwn wedi ei adeiladu mewn man hyfryd iawn – llawer gwell yma na’r un y safai yr hen gapel arno. Llwch, baw, a sŵn peiriannau oedd oddiamgylch yr hen gapel, ond coed prydferth, a sŵn adar y nefoedd yn canu oddirhwng eu cangau sydd yn amgylchynu y newydd. Capel trymaidd ac anghyfleus oedd yr hen, ond capel ysgafn a gwir gyfleus yw y newydd.
Adeiladwyd yr hen gapel fwy na deugain mlynedd yn ôl, a chafodd ei helaethu ddwy waith. Cymerodd yr agoriad le dydd Sabboth a Llun y 1af a’r 2il cyfisol. Yr oedd y cynulliad yn anarferol o fawrion trwy y dydd, a’r awel ddwyfol yn esmwyth chwythu trwy bob peth, nes ei gwneud yn hyfryd iawn i fod yn bresennol.
Yr hen gapel
Mae’r hen gapel gwreiddiol yn dal i sefyll, ar safle tu ôl i ysgol gynradd y pentref, ond ei fod ers amser maith wedi ei droi yn dŷ annedd – mae cofnod am yr agoriad yn rhifyn mis Ebrill 1832 o gylchgrawn Yr Efangylydd:
Ar y trydydd a’r pedwerydd o Fawrth 1832 agorwyd addoldy newydd perthynol i’r Annibynwyr a elwir Bethlehem wrth ‘Forge’ Pentyrch ... y mae’r Bethlehem hwn yn gangen o’r Taihirion ac i fod dan ofal gweinidogaethol D(avid) Jones. Mae’r Deml hon yn adeilad hardd a chyfleus i addoli, a chan ei bod wedi ei hadeiladu mewn ardal lluosog ei thrigolion, gobeithio y caiff llaweroedd les tragwyddol yn y Deml newydd.
Gweinidogion
Bu Bethlehem yn hynod ffodus o’i gweinidogion, weithiau ar y cyd a chapeli eraill yn y cylch, un ai yn llawn amser neu’n rhan amser, a hynny ers cyfnod David Jones (1829–33).
Yma y bu y canlynol yn gwasanaethu: y Parchedigion John Lewis (1834–37); David Davies (1837–38); Lemuel Smith (1840–42); John Jones (1842/44?–72); Morgan Charles Morris (1874–80); Owen Lloyd Roberts (1883–86); Tomos Jenkyn Rees (1891–95); Robert Griffith Berry (1897–1945); Gwilym Morris (1947–68); Ifor Rees (llanw yn y cyfnod 1968–74); Rhys Tudur (1974–84); Thomas James (TJ) Davies (1985–2000); Gareth Evans Rowlands (2000–06); Robert Alun Evans (2008–16).
A bellach ers ymddeoliad R Alun, Delwyn Siôn, yr ‘Un Seren’, sydd wedi bod wrth y llyw fel arweinydd penigamp ar y capel.
Dathlu a diolch
Wrth i’n mis Mehefin o ddathlu ym Methlehem ddod i ben, mynegwn ein diolch i bawb sydd wedi bod yn rhan o hynny – trwy fynychu’r oedfaon, yn aelodau, cyfeillion ac ymwelwyr – trwy gymeryd rhan trwy lais, llun a gweithred – trwy ddewis a chanu hoff emynau, tan arweiniad crefftus Eilir Owen Griffiths, a chyfeiliant swynol Delyth Evans – trwy asbri heintus cyflwyniadau plant yr ysgol Sul a’u rhieni – trwy bytiau amserol a phwrpasol Delwyn Siôn trwy gydol y mis – a’r cyfan yn cael ei gloi yn gelfydd gyda her a chyfeiriad i Fethlehem wrth gamu i’r ganrif a hanner nesaf, a hynny yn raslon a diymffrost gan ein cyn-weinidog, y Parchedig R. Alun Evans.
Cynhyrchwyd logo arbennig ar gyfer y dathlu gan y pensaer Alwyn Harding Jones. A bu’r artist Anthony Evans yn brysur yn ei stiwdio yn creu portread cyfoes o’r capel ac fe ymgorfforwyd englyn o waith Rhys Powys yn gelfydd arno –mae’r cyfuniad yn cyfleu yn berffaith yr hyn sy’n gwneud Bethlehem, Gwaelod-y-garth, mor arbennig i’n heddiw a’n hyfory.
Yn y Gwaelod, gyda’n gilydd – y down
i Dŷ llawn llawenydd;
Hafan ddiffwdan ein ffydd,
Manna yng nghysgod Mynydd.
[Mae nifer gyfyngedig o brintiadau o’r llun [maint 24” x 16”] ar werth am £35, gyda chyfran o’r gost yn mynd i gronfa ein helusen leol, Cymdeithas Alzheimer Cymru. Gellir cysylltu â’r Ysgrifennydd am fwy o wybodaeth.]
Rhodri-Gwynn Jones
Ysgrifennydd