Yn yr erthygl hon mewn cyfres i’r Tyst am hen ddarnau arian o’i eiddo, mae Alun Lenny yn sôn am arian o gyfnod y Rhyfel Cartref yn yr 17eg ganrif. Gwrthdaro crefyddol yn bennaf oedd Rhyfel y Tair Teyrnas (fel y’i gelwir bellach) ar dir Prydain ac Iwerddon. Darn arian a fathwyd yng Nghymru trwy orchymyn y brenin Charles I yw testun yr erthygl hon, a bydd sylw i arian o gyfnod Gwerinlywodraeth yr Annibynnwr Oliver Cromwell yn yr un nesaf.
Brenin ‘trwy ras Duw’
Mae’r arysgrif ar y darnau arian newydd fydd yn raddol ddod i’n poced neu bwrs yn datgan bod Charles III yn frenin ‘trwy ras Duw’, datganiad sydd heb newid ers cyn cyfnod y brenin Charles I. Yr unig beth sydd wedi newid yw bod y mwyafrif o bobl yn hidio dim am hynny heddiw. Ond nid felly ydoedd hi bron i bedair canrif yn ôl, pan aeth y brenin Charles I i’r gad yn erbyn y garfan Biwritanaidd yn y wlad ac yn y senedd a oedd yn gwadu ei statws unigryw fel un a gafodd ei eneinio gan Dduw. Ysgogwyd y brwydro, a barodd am ddegawd chwerw, gan ffactorau eraill hefyd. Nid oes gofod yma i fanylu am y rheini, ond fe ŵyr pawb mai’r canlyniad trychinebus i’r brenin Charles oedd cael ei ddienyddio.
Arian Ceredigion
Darn grôt (sef 4 ceiniog) sydd gennyf i, ac mae’n amlwg iddo fod drwy’r felin. Fe’i prynais am £40 mewn ocsiwn am iddo gael ei fathu yng Nghymru – nid yn Llantrisant fel heddiw, ond yng nghastell Aberystwyth tua’r flwyddyn 1670! Bu mwynfeydd arian a phlwm gogledd Ceredigion yn gynhyrchiol dros ben am ganrifoedd lawer. Erbyn 1870, roedd 10,000 o fwynwyr yn gweithio yno. Dros ddwy ganrif cyn hynny, fe osodwyd mwynfeydd Cwmsymlog ar les gan y frenhiniaeth i Syr Hugh Myddelton a Thomas Bushell, ac yn 1637 fe roddodd y brenin Charles hawl i Bushell fathu arian yng nghastell Aberystwyth, yn hytrach na chludo’r bariau arian i Lundain ar gyfer bathu yno. Mae symbol y tair pluen o dan drwyn y brenin ac ar y cefn yn dynodi mai yn ein gwlad ni y bathwyd yr arian yma.
Ystyr yr arysgrif yn llawn
Mae’r gair a’r llythrennau CAROLVS; D; G; M; BR; F; ET HI; REX. o gwmpas pen y brenin yn golygu: ‘Charles, trwy ras Duw, Brenin Prydain Fawr, Ffrainc ac Iwerddon.’ Ac o gwmpas yr arfwisg ar y cefn: CHRISTO. AVSPICE. REGNO, sef ‘Teyrnasaf o dan nawdd Crist.’ Bathwyd darnau dimau, ceiniog, tair ceiniog, hanner-grôt, grôt, chwe cheiniog, swllt a hanner coron yn y bathdy brenhinol yn neuadd y castell ar lannau Bae Ceredigion. Mae’r darnau’n denau iawn, gan mai’r broses am ganrifoedd oedd cynhyrchu arian trwy daro’r cylch metal plaen gyda ‘bathyr’ (die) i greu’r patrwm.
Symud y bathdy
Yn 1642 fe symudwyd y bathdy o Aberystwyth i Rydychen ar frys wrth i’r brwydro ddechrau rhwng lluoedd y brenin a’r senedd. Roedd y rhan fwyaf o Gymru yn deyrngar i’r brenin. Un o’r eithriadau nodedig oedd y Piwritan Thomas Myddelton AS o Gastell y Waun, a gyfrannodd tuag at gyhoeddi’r Beibl Bach yn 1630. (Gwelais gopi o’r Beibl hwnnw yn llyfrgell y castell dro’n ôl.) Ymunodd miloedd â byddin Charles yn Wrecsam, ac fe gawsant eu lladd wrth y miloedd mewn brwydrau ym misoedd Hydref a Thachwedd 1642 – 1,000 ohonynt yn Edgehill, 1,500 yn Tewksbury a 2,000 yn Henffordd. Wn i ddim os oes ymadrodd Cymraeg am cannon fodder ond dyna oedd y Cymry hyn a aeth fel ŵyn i’r lladdfa. A beth fu tynged castell Aberystwyth? Roedd mewn cyflwr gwael iawn yn barod, ac yn dilyn gwarchae yn 1649 cafodd rhan helaeth o’r castell ei chwalu gan luoedd Cromwell.
A’r twll yn y darn arian sydd gennyf?
Gall fod un o ddau reswm. Am ganrifoedd bu pobl sâl yn credu bod cyffyrddiad gan frenin neu frenhines yn medru gwella’u salwch. Yn dilyn y cyffyrddiad, tyfodd arferiad cyffredin iawn erbyn teyrnasiad Charles I o roi darn arian â thwll ynddo gyda rhuban i’r claf i’w wisgo fel amiwled am y gwddf i’w rwbio. Pan orseddwyd Charles II bu pandemig scrofula (math o TB yn y gwddf), a thybir bod y brenin wedi cyffwrdd a dros 100,000 o gleifion. Mae’r ail reswm yn llai rhamantus. Ar ôl i lywodraeth Oliver Cromwell ddod i rym trawyd twll mewn darnau arian Charles i ddynodi nad oeddent bellach yn ddilys fel arian cyfreithlon. Aed ati i fathu arian newydd oedd heb wyneb brenhinol nag arysgrif Lladin. Cewch weld un o’r darnau hynny yn yr erthygl nesaf.
Alun Lenny