Cawsom wasanaeth hyfryd fore Sul 4 Mawrth wrth i ni ddathlu Gŵyl Dewi. Roedd yr oedfa yng ngofal plant yr ysgol Sul. Roedd y plant cynradd yn ein harwain mewn gweddi, hanes Dewi Sant a chyflwyno emynau.
Yna cawsom eitemau gan y plant lleiaf wrth iddynt ganu hwiangerddi cyfarwydd yn ogystal â chân am Dewi Sant. Gwnaeth ein gweinidog, y Parchg Emyr Gwyn Evans gyflwyno stori bwrpasol i’r plant cyn ein harwain yn y Cymun bendigaid. Yn ystod y gwasanaeth casglwyd £100 tuag at apêl Ffynhonnau Byw.
Roedd yn bleser a bendith cael bod yn bresennol.
Cinio cawl
Yna ar ddydd Iau 7 Mawrth cynhaliwyd cinio Cawl a Chân bendigedig yn y neuadd. Unwaith eto diolch i bawb wnaeth gefnogi a gwneud yr achlysur yn gymaint o lwyddiant. Llwyddwyd i godi £540 tuag at apêl Ffynhonnau Byw. Roedd yn hyfryd gweld y neuadd yn llawn gyda dros 60 ohonom yn mwynhau’r wledd oedd wedi ei pharatoi gan Maria, Catherine a Helen. Mae ein diolch yn arbennig iddynt gan eu bod wedi rhoi cawl a’r pice ar y maen i bawb am ddim.
Wedi’r bwyd blasus cawsom ein diddanu gan y pâr amryddawn Keri Morgan ac Eifion Price. Roedd pawb wedi gwir fwynhau prynhawn hwyliog llawn hwyl a chefnogi achos arbennig ar yr un pryd. Diolchodd ein gweinidog i bawb am ei wneud yn achlysur mor llwyddiannus.