Dyna yw breuddwyd Eglwys Corea Cymru - ymweld â phob capel yng Nghymru. A hynny er mwyn talu nôl i ni’r Cymry am bopeth a wnaeth y cenhadon Cymreig yn mynd a Christnogaeth i Gorea yn y 19eg ganrif a dechrau’r 20fed ganrif. Mae hanes y cenhadon Cymreig yn un hollol ryfeddol a gellir ei ddarllen mewn llyfrau ac amryw lefydd ar y rhyngrwyd.
Ac mae gan Eglwys Corea Cymru un capel yn llai i ymweld ag ef bellach, a hynny ar ôl iddynt fod gyda ni yn y Tabernacl, Hendy-gwyn. Cafwyd oedfa fythgofiadwy ganddynt, ac roedd dros 100 yn bresennol gyda nifer wedi ymuno gyda ni o gapeli ac eglwysi’r ardal.
Cymdeithasu hyfryd
Roedd yr oedfa wedi selio ar hanes y cenhadon Cymreig a’r testun oedd geiriau Iesu yn Efengyl Ioan 12:24 ‘Yn wir, yn wir, rwy’n dweud wrthych, os nad yw’r gronyn gwenith yn syrthio i’r ddaear ac yn marw, y mae’n aros ar ei ben ei hun; ond os yw’n marw, y mae'n dwyn llawer o ffrwyth.’
Yn dilyn yr oedfa cafwyd cymdeithasu hyfryd dros baned a lluniaeth ysgafn ac aeth y cymdeithasu ymlaen am amser hir gyda neb yn awyddus i fynd adref!
Gwahoddiad?
Beth am wahodd Eglwys Corea Cymru ( sydd wedi ei lleoli yng Nghaerdydd) i’ch capel chi ? Byddant yn falch clywed wrthych a gellir cysylltu gyda nhw trwy e-bostio Jacob ar: deodian1006@gmail.com neu trwy tecst neu alwad ffôn ar 07891 932 478.
Guto Llywelyn