Yng Nghyfarfodydd Blynyddol yr Undeb yn Llanuwchllyn, mynegwyd pryder mawr am yr effaith y gallai gadael yr Undeb Ewropeaidd ei gael ar gymdeithas. Derbyniwyd cynnig y Parchg Ddr Noel Davies, ar ran Adran Dinasyddiaeth Gristnogol yr Undeb, i wahodd eglwysi ar draws Cymru i ymuno ar fyrder i sefydlu Comisiwn cydenwadol a fyddai’n ymgeisio i ddylanwadu ar ddeddfwriaeth newydd ar lefel Gymreig a Phrydeinig.
Yn sgil hynny, cynhaliwyd dau gyfarfod lle ddaeth y prif enwadau at ei gilydd i gyflwyno persbectif Cristnogol ar faterion craidd allai effeithio ar gymdeithas yn ystod ac ar ôl Brexit. Lluniwyd rhestr fanwl o fesurau economaidd a hawliau dynol i’w trafod yn ystod y broses o adael y Gymuned Ewropeaidd. Mewn cyflwyniad i’r Pwyllgor Materion Cymreig, mae’r eglwysi yn nodi materion polisi allweddol, gan gynnwys hawliau cymunedau lleiafrifol ac ieithyddol, amaethyddiaeth a’r amgylchedd, a’r berthynas yn y dyfodol gyda chenhedloedd a gwladwriaethau eraill.
Dyma’r ddogfen yn llawn:
Cyflwyniad i’r Pwyllgor Materion Cymreig gan Weithgor Eglwysi yng Nghymru ar Gymru ac Ewrop.
Crynodeb weithredol
Y mae’r cyflwyniad hwn yn annog Llywodraethau’r DG a Chymru fel ei gilydd i ffocysu ar ddau faes o gonsyrn i’r Eglwysi: yn gyntaf, perthynas y DG â chenhedloedd a gwladwriaethau Ewropeaidd yn dilyn Brexit ac, yn ail, mynegi persbectif Cristnogol ar faterion allweddol y dylid rhoi sylw iddynt wrth fynd ati i adeiladu cymdeithas yn y DG ac yng Nghymru yn ystod ac yn dilyn y trafodaethau tuag at Brexit. Mae’r cyflwyniad yn clustnodi pump maes polisi i’w hystyried:
- Hawliau a chyfleoedd
- Cymunedau lleiafrifol
- Amaethyddiaeth a’r amgylchedd
- Perthynas â chenhedloedd a gwladwriaethau eraill
- Y broses ddemocrataidd
- Gwneir y cyflwyniad hwn gan Weithgor Eglwysi yng Nghymru a sefydlwyd mewn cydweithrediad â Chytûn: Eglwysi Ynghyd yng Nghymru, yn dilyn penderfyniad gan Undeb yr Annibynwyr Cymraeg, sy’n gyfrifol am gynnull y Gweithgor. Dymuniad cynrychiolwyr yr enwadau a’r mudiadau sy’n aelodau o Cytûn yw cyflwyno persbectif Cristnogol ar y pynciau creiddiol y dylid rhoi sylw iddynt oddi fewn i Gymru ac yn y DG yn dilyn y refferendwm ar aelodaeth y DG yn yr Undeb Ewropeaidd (UE).
- Cyn dechrau’r trafodaethau swyddogol ffurfiol dan Erthygl 50, credwn y dylai llywodraethau etholedig y DG geisio cytundeb ar amcanion sylfaenol y trafodaethau. Y canlynol yw’n hawgrym ni am ddatganiad o’r amcanion hyn. Credwn y dylai Llywodraeth Cymru a’r gweinyddiaethau datganoledig eraill fod yn rhan o’r trafodaethau yn dilyn rhoi cychwyn ar Erthygl 50. Yn y broses hon, ni ddylid colli golwg ar bwysigrwydd cyfreithiau Ewropeaidd fel sail agweddau deddfwriaethol datganoli.
- Perthynas â gwladwriaethau a chenhedloedd Ewropeaidd yn dilyn Brexit
Â’r DG wedi penderfynu gadael yr UE, cred eglwysi Cymru a gynrychiolir ar y gweithgor hwn mai’r cwestiwn cyntaf i’w ystyried yw: pa fath ar berthynas ag Ewrop yr ydym ni fel Cymry yn ei cheisio? Nid yw pleidlais y refferendwm yn golygu ein bod yn peidio â bod yn drigolion cyfandir Ewrop nac yn aelodau o’r teulu Ewropeaidd.
- Credwn y dylai Llywodraeth Ei Mawrhydi (EM) a Llywodraeth Cymru geisio perthynas ag Ewrop sy’n parhau i ystyried Ewrop fel ‘ein cartref cyffredin, sy’n adeiladu ar y gorffennol ac yn edrych tua’r dyfodol gyda gobaith newydd’. Dylai llywodraethau ac Eglwysi yn Ewrop weithio gyda’i gilydd ‘i gynyddu ymdrechion i wneud rhinweddau Cristnogol megis parch tuag at eraill, cydlyniad, gwasanaethu’n gilydd ac adeiladu cymuned yn fwy gweladwy yn y bywyd cyhoeddus’.[1] Credwn na ddylid bod cyfaddawd parthed yr egwyddorion hyn, yn arbennig felly yn wyneb y casineb, gelyniaeth a rhyfela a nodweddodd hanes Ewrop yn y ganrif ddiwethaf. Felly, credwn y dylai’r trafodaethau sicrhau fod sofraniaeth gwladwriaethau a chyd-ddibyniaeth pobloedd a chenhedloedd yn cael pwyslais cydradd fel egwyddorion i’w cynnal a’u cydbwyso.
- Yn ei hystyriaeth o’n ‘cartref Ewropeaidd cyffredin’ cyfeiriodd Cymanfa Basel o Gynhadledd Eglwysi Ewrop ym 1989 at egwyddorion y dylid, fe gredwn, barhau i fod yn greiddiol i’n perthynas â’n gilydd yn Ewrop:
- Cydraddoldeb pawb sy’n byw yn Ewrop, p’un ai ydynt yn gryf neu’n wan;
- Cydnabod gwerthoedd megis rhyddid, cyfiawnder, goddefgarwch, cydlyniad, cyfranogiad;
- Agwedd gadarnhaol tuag at ddeiliaid crefyddau, diwylliannau a byd olygon gwahanol;
- Hyrwyddo deialog yn hytrach na syrthio’n ôl ar ddatrys gwrthdrawiadau trwy drais.
- Meysydd polisi allweddol i’w hystyried
Wrth gymhwyso’r egwyddorion cyffredinol hyn i’n cydberthynas yn Ewrop a’n blaenoriaethau cenedlaethol yn y dyfodol credwn y dylid ystyried nifer o feysydd polisi allweddol:
- Hawliau a chyfleoedd
- Cynnig sicrwydd buan i ddinasyddion yr UE sydd â’u statws yn ansicr ar hyn o bryd.
- Diogelu statws a hawliau pobl fregus ac anabl, yr henoed a phlant.
- Sicrhau fod gan bobl ifanc gyfleoedd addysgol a chyflogaeth priodol yn ystod y cyfnod o ansicrwydd economaidd cynyddol sydd o’n blaen, gan gynnwys parhau i gyfranogi mewn rhaglenni megis Horizon 2000.
- Bod yn groesawgar tuag at y bobl ddieithr a thlawd yn ein plith, gan gynnwys parhau i gyfranogi yn rhaglenni’r UE a rhaglenni ar draws Ewrop i ailsefydlu ffoaduriaid.
- Diogelu hawliau unigolion a gweithwyr, gan sicrhau bod hawliau sydd wedi eu gwarantu gan yr UE wedi eu cynnwys yng nghyfraith y DG/y gyfraith Gymreig.
- Cymunedau lleiafrifol
- Dylai Llywodraeth EM a Llywodraeth Cymru barhau i ddiogelu hawliau Cymunedau lleiafrifol, yn arbennig y rheini sy’n teimlo dan fygythiad o ganlyniad i droseddau casineb a chamdriniaeth.
- Dylai’r ddwy lywodraeth warantu, drwy ddeddfwriaeth briodol a chyllid digonol, fod ieithoedd lleiafrifol megis, ond nid yn unig, y Gymraeg, yn cael eu meithrin a’u hyrwyddo. Gan y bydd y Gymraeg yn colli ei statws cyd-swyddogol ar lefel yr UE pan fyddwn yn gadael yr UE, credwn y dylid sicrhau statws gyffelyb i’r Gymraeg (a Gaeleg yr Alban a Gaeleg Iwerddon) ar lefel y DG.
- Amaethyddiaeth a’r amgylchedd
- Credwn y dylid, naill ai drwy barhau aelodaeth o’r EEA neu/a EFTA neu drwy eu hymgorffori yn neddfwriaeth y DG a Chymru, warchod polisïau a chyllid a anelir at ddiogelu’r amgylchedd, delio â newid hinsawdd a gwrthweithio’u heffeithiau ar fioamrywiaeth.
- Rydym yn cydnabod fod yr ansicrwydd presennol yn heriol i amaethyddiaeth yng Nghymru. Felly, anogwn y ddwy lywodraeth i sicrhau trosglwyddiad o’r Rhaglen Amaethyddol Gyffredin (CAP) na fydd yn fygythiad i ddyfodol bywoliaethau amaethyddol, yn arbennig felly mewn ffermydd teuluol bychain a chanolig (yn cynnwys ffermydd mynyddig), sy’n hanfodol i economi a diwylliant y Gymru wledig.
- Perthynas â chenhedloedd a gwladwriaethau eraill
- Fel sail hanfodol i berthynas â gwledydd oddi fewn a thu allan i gyfandir Ewrop, mae angen inni sicrhau fod bod yn gymdogion da i wledydd eraill yn agwedd allweddol o’n polisi ym meysydd cyllid, yr economi, datblygiad rhyngwladol a pholisi tramor.
- Y broses ddemocrataidd
- Codwyd gan y refferendwm ar aelodaeth y DG yn yr UE ddau fater cysylltiedig parthed dyfodol democratiaeth yn y cenhedloedd hyn ac, yn fwyaf arbennig i ni, yng Nghymru:
- y gwahaniaethau dyfnion a ddatgelwyd gan y canlyniad rhwng sectorau gwahanol o’r gymdeithas ac ardaloedd daearyddol gwahanol;
- agweddau o’n diwylliant a’n prosesau gwleidyddol, a sut mae cynnwys y boblogaeth gyfan oddi fewn i’n gwleidyddiaeth (hynny yw, mynd i’r afael â’r hyn a elwir yn ddiffyg democrataidd).
- Codwyd gan y refferendwm ar aelodaeth y DG yn yr UE ddau fater cysylltiedig parthed dyfodol democratiaeth yn y cenhedloedd hyn ac, yn fwyaf arbennig i ni, yng Nghymru:
- Rydym yn y broses o wahodd arbenigwyr yn y meysydd uchod i ysgrifennu papurau cyfarwyddyd byr ar y pynciau hyn. Gobeithiwn rannu’r rhain, fel y bydd yn briodol, â Llywodraeth EM a Llywodraeth Cymru, gyda golwg ar gychwyn deialog rhwng eglwysi a llywodraeth ar faterion y tybiwn ni fydd yn greiddiol i Gymru yn y blynyddoedd nesaf. Byddwn yn barod ar unrhyw adeg ym mhroses ymgynghorol y Pwyllgor i ehangu ar y pryderon sydd gennym, naill ai wyneb yn wyneb neu drwy dystiolaeth ysgrifenedig bellach.
[1] Cynhadledd Eglwysi Ewrop, Llythyr i’r Eglwysi, Mehefin 2016