Dwy nyrs yng nghanol yr haint

Posted on

Mae Delyth John yn brif nyrs (senior sister) yn ysbyty Glangwili, Caerfyrddin. Yn fam i dri o blant, mae’n ddiacon a chyfeilydd yn eglwys Annibynnol Bwlch-y-corn. Bu’n flaengar yn sefydlu ward i ofalu am gleifion sy’n dioddef o Covid-19 – y ward fwyaf peryglus yn yr ysbyty i weithio ynddi. Hefyd yn gweithio yng Nglangwili mai ei nith, Ffion Mason, aelod arall ym Mwlch-y-corn. Mae Ffion yn ei blwyddyn olaf ym mhrifysgol Abertawe, ac ar leoliad yn yr ysbyty pan cafodd ei chofrestri i weithio fel nyrs o dan y mesurau brys i ddelio â’r pandemic. 

Delyth John sy’n brif nyrs yn Ysbyty Glangwili

Delyth sy’n rhedeg ward Padarn, lle mae 19 o welyau i gleifion sydd ag afiechydon anadlu – popeth o asthma i pneumonia a TB, yn ogystal â chleifion dydd sy’n cael profion am gancr yr ysgyfaint. Mae’n gyfrifol am ward sydd â 25 o staff, gan ddelio â phroblemau sy’n codi o ddydd i ddydd. Ond yna daeth COVID-19, yr haint erchyll nad yw’n gwahaniaethu rhwng staff a chleifion. 

‘Roeddwn yn rhan o’r tim anadlol wnaeth baratoi ward ag offer CPAP (Continuous Positive Airway Pressure) ar gyfer cleifion COVID. Dyma un o’r wardiau mwyaf peryglus i weithio ynddi am fod y driniaeth yn rhyddhau gronynnau o’r feirws i’r awyr. Mae angen i staff wisgo dillad a masgiau PPE cyn mynd mewn i’r ward ac aros yn y PPE am o leiaf ddwyawr, sydd yn straen ofnadwy arnyn nhw. Ni allan nhw gyffwrdd â’r masgiau, na chael llwnc o ddŵr hyd yn oed, unwaith maen nhw tu fewn i’r ardal CPAP. Roedd yn waith anodd i ddysgu’r staff am y sgil o wisgo a dadwisgo PPE, eu dysgu am ddefnydd y peiriannau anadlu CPAP ac NIV, gofalu am gleifion sâl iawn a bod yn gefn i staff oedd yn gofidio’n fawr wrth fynd mewn i’r sefyllfa oedd o’n blaenau ni.’

Gofidio am gario’r clefyd

Mewn 20 mlynedd o nyrsio, meddai Delyth, dyma’r peth mwyaf iddi weld. ‘Mae’r gofid yn wirioneddol aruthrol, gyda meddygon a rheolwyr yn ofni beth ddaw. Mae’r staff yn gwybod mai eu dyletswydd yw gofalu am y claf – pa bynnag glefyd sydd arnynt, ond mae hwn yn rhywbeth hollol wahanol. Rydym i gyd yn cael diwrnodau tywyll a phryderus yn ofni am ein dyfodol wrth ofalu am y cleifion mwyaf sâl a’r risg o ddal yr haint a’i basio ymlaen i eraill. Rwy wedi colli sawl noswaith o gwsg yn poeni am y sefyllfa ac am y staff. Fe gafodd rhai o’r staff y feirws, tra bod eraill yn gofidio am gario’r clefyd adre at eu teuluoedd nhw. Mae rhai staff yn methu canolbwyntio oherwydd y pryder ac wedi gorfod cael amser bant o’r gwaith. Mae’n sialens i gadw staff yn bositif, yn enwedig pan roedd argymhellion y llywodraeth am PPE yn newid y gyson. Fel prif nyrs, mae’n gyfnod anodd ac mae fy niwrnod gwaith yn cynnwys oriau o gefnogi, siarad, cownsela a chynghori nyrsus, doctoriaid a chyd weithwyr eraill.’

Anodd i’r teulu

Mae Delyth yn cydnabod bod hi’n gyfnod hynod o anodd i’r teulu hefyd. Mae ei gŵr Ian a’u tri o blant yn poeni amdani hi, a hithau amdanyn nhw. ‘Mae’n straen i ddod adre a “switsho bant” pan mae’r ysbyty mor brysur. Rwy’n lwcus iawn bod fy nheulu bach i yn neud y tîm gorau gallen i fyth ofyn amdano. Mae Ian ac Aled y mab hynaf, yn gweithio ar y fferm, tra bod Nia ym mlwyddyn TGAU ond yn brysur yn gwneud y gwaith tŷ ac yn coginio’r cyfan tra mod i yn y gwaith – mae hi’n werth y byd. Mae’r mab ifancaf Rhidian ym mlwyddyn 7, ac mae’n anodd iawn ei gefnogi fe gyda’r gwaith cartref di-ben-draw, er mae yn treial ei orau ac ni allwn ofyn am fwy ar y funud. Rydym yn dal i chwerthin a mwynhau yr amser rydym yn treulio gyda’n gilydd.

Delyth wrth yr organ yn Eglwys Annibynnol Bwlch-y-corn

Mae Delyth John yn dweud bod magwraeth ar aelwyd Gristnogol ac ysgol Sul wedi’i galluogi i fod yn berson sy’n naturiol yn meddwl am eraill. ‘Bod yn garedig a gwrando ar eraill heb eu barnu. Buodd hyn yn help i mi wrth ofalu am gleifion, a hefyd i fugeilio cydweithwyr. Roedd fy rhieni bob amser yn rhoi anghenion eraill yn gyntaf, heb fyth droi cefn ar neb mewn angen. O’u dilyn, dyna fyddaf yn ceisio ei wneud bob tro.’ 

Yn sgil damwain erchyll i’w thad y penderfynodd Delyth fynd yn nyrs, a hynny pan oedd hi’n saith mlwydd oed. Cafodd Eirwyn Jones ei losgi’n ddifrifol a cholli braich yn y damwain yng ngorsaf bŵer Penfro. ‘Roedd yn amser anodd iawn i ni fel teulu am fod dad yn cael gofal yn ysbyty Cas-gwent,’ esbonia Delyth. ‘Bu blynyddoedd o deithio ’nôl ac ymlaen i wahanol ysbytai am driniaeth. Rwy’n cofio mynd i’w weld mewn uned gofal dwys am y tro cyntaf, a’r nyrsys mor garedig yn gofalu ar ein hôl ni fel teulu. Roeddent bob amser â gwen, ac wrth i dad ymladd i wella fe wnes i benderfynu mai nyrs oeddwn i am fod ar ôl gadael ysgol. Ar y pryd doeddwn i ddim yn sylweddoli difrifoldeb anafiadau dad a’i fod yn lwcus i fod yn fyw. Mae fy nhad bellach yn byw ar ei ben ei hun ddim yn bell o Fwlch-y-corn a heb fod allan o’r tŷ ers deufis. Er ei fod yn anabl, mae’n dod i ben â phethau yn dda ond yn gweld eisiau mynd allan o’r tŷ a gweld y teulu, sy’n helpu gyda siopa bwyd a mynd a chacennau iddo.’

Myfyrwraig feddygol

Mae Eirwyn yn dad-cu i Ffion Mason, un o’r myfyrwyr meddygol flwyddyn olaf sydd wedi cael yr hawl i nyrsio cyn graddio oherwydd pwysau gwaith a phrinder staff yn yr ysbytai. Yn ward y plant mae hi’n gweithio, yn aml yn y babell a godwyd tu allan i’r drws ble mae’n rhaid profi os yw’r claf sy’n cyrraedd yr ysbyty yn dioddef o’r firws neu beidio. ‘Mae prinder nyrsys am sawl rheswm – rhai bant yn sâl, ac eraill sy’n disgwyl babi yn gorfod cadw draw o’r gwaith,’ meddai Ffion. ‘Rydym yn derbyn plant i fyny hyd at 17 oed. Mae pawb yn gorfod mynd drwy’r babell, sy’n gallu bod yn boeth dros ben yn y tywydd yma, neu’n oer iawn yn y nos. Pam mae’n dwym, mae gweithio oriau yn gwisgo PPE yn galed iawn a phawb yn chwysu. Rwy’n gweithio o leiaf tair shifft 12 ½ awr bob wythnos, o saith y bore tan hanner awr wedi saith yr hwyr. Mae galw am weithio shifftiau dros nos hefyd.

‘Ar ben hyn, mae traethodau gyda fi i’w gwneud ar gyfer y cwrs prifysgol! Mae’n amser prysur dros ben, ond fel person ifanc sydd â llai o risg, rown i’n teimlo bod yn rhaid i fi helpu, ac yn falch o wneud.’

Edrych i’r dyfodol

Er gwaetha’r argyfwng presennol, mae Delyth John yn bositif iawn am y dyfodol. ‘Mae hwn wedi codi ofn ar bobol. Mae nhw’n gweld pa mor fregus yw bywyd ac iechyd, ac y dylen ni beidio â chymryd dim yn ganiataol. Rydym nawr yn gwerthfawrogi pethau syml bywyd, ond y pethau sydd mor bwysig. Mae bywyd wedi tawelu ac arafu, a dyna braf yw mynd ar yr hewl i’r gwaith heb weld y prysurdeb arferol. Mae teuluoedd yn treulio amser gyda’i gilydd, yn dysgu ymlacio, i dawelu eu meddyliau ac yn cael amser i dynnu anadl. Er gwaetha’r gofid am swyddi ac arian, mae pobol yn cael cyfle i sylwi ar brydferthwch natur a’i werthfawrogi. Wrth ddysgu sut i ofalu am ein gilydd, rydym yn gweld yr ochr orau o bobol, ac mae hynny mor hyfryd. Mae parch newydd at fywyd, ond heb anghofio’r sawl sydd wedi colli anwyliaid o achos y feirws ofnadwy hyn. Rydym yn byw yn y gobaith y daw eto haul ar fryn.’