Diwrnod Rhyngwladol Heddwch – Crefydd a Rhyfel

Posted on

gan y Parchg Guto Prys ap Gwynfor

Gosodiad hynod o boblogaidd y dyddiau hyn yw’r un sy’n honni fod pob crefydd yn achosi rhyfeloedd. Mae llawer o bobl yn defnyddio’r honiad fel rheswm dros droi cefn ar addoliad ac aelodaeth eglwysig gan ymwrthod â’r ffydd Gristnogol.

Nid yw pob crefydd yr un peth; rhaid pwysleisio hynny ar y dechrau’n deg: oes, mae yna rai crefyddau yn hanesyddol wedi annog rhyfel fel ffordd i hyrwyddo’u credoau. Bu Mohammed, er enghraifft, yn arwain byddinoedd a choncro tiroedd; a thrwy ddilyn ei esiampl fe ymledodd yr ymerodraeth Islamaidd yn hynod o gyflym yn ystod y chweched a’r seithfed ganrif.

Yn yr Hen Destament ceir anogaethau pendant, a briodolir i Dduw, i’r genedl ryfela a dinistrio’u gelynion, ac weithiau fe anogir iddynt ddefnyddio hil-laddiad fel ffordd o ddifa’u gwrthwynebwyr. Mynna rhai gymryd y cyfeiriadau hynny fel arweiniad ar gyfer eu hymddygiad heddiw! Edrychant ar rai o ddatganiadau’r proffwydi fel amlinelliad o’r hyn fydd yn digwydd heb fod yn hir, ac mae rhyfeloedd erchyll Armagedonaidd yn rhan o’r darlun.

Ceir nifer o draddodiadau eglwysig sy’n cydweithio’n agos iawn â’r gwahanol wladwriaethau (er enghraifft yr Anglicaniaid yn Lloegr, Lutheriaid yr Almaen). Bu’r Eglwys Babyddol yn cydweithredu’n agos gydag amrywiol lywodraethau ers y bedwaredd ganrif. Tuedd pob traddodiad sy’n gwneud hynny yw cefnogi’r llywodraeth ar adeg o ryfel, a gosod sêl ei bendith ar yr ymdrechion militaraidd.

Mae yna duedd cyson wedi bod drwy hanes i greu ‘eglwysi cenedlaethol’ (neu wladwriaethol) sy’n cynorthwyo’r awdurdodau gwladol i hybu’r meddylfryd bod y naill wlad, iaith, diwylliant etc., yn well na phob gwlad arall. Pan fo digon o rym a chyfoeth tu cefn i’r gwladwriaethau hynny credant fod ganddynt yr hawl i reoli a defnyddio adnoddau cenhedloedd eraill gan ddadlau bod eu gwareiddiad hwy yn well, ac felly eu bod yn ‘cynorthwyo’ y rhai a goncrwyd. Gwneir hyn yn gyson dan fendith yr eglwysi gwladol; ac erbyn hyn yr eglwysi efengylaidd asgell dde fel y gwelwn yn yr UDA.

  Ydy, mae crefydd sefydliadol, a’r ffurf ohoni sy’n dderbyniol i’r cyfoethog a’r pwerus, yn achosi rhaniadau ac yn cyfranu’n helaeth at hybu a hyrwyddo gwrthdaro sy’n sail i ryfeloedd. Mae hynny’n wir am bob crefydd, neu fersiwn o grefydd, sy’n derbyn y status quo cymdeithasol, economaidd a gwleidyddol sy’n dderbyniol gan yr haenau uchaf hynny.

Nid oedd Iesu o Nasareth ymhlith y rheiny. Trychineb datblygiad y ffydd Gristnogol yw’r ffaith fod y Newyddion Da a gyflwynwyd ganddo ef i’r byd wedi ei herwgipio a’i lasdwreiddio gan y cyfoethog pwerus a’u troi’n lawforwyn i’r sefydliadau gwladol. Rhaid edrych ar yr Hen Destament drwy lygaid Iesu, ef yw cyflawniad yr hyn a fynegwyd ynddo; ac yn gywiriad ar nifer o bwysleisiau, yn enwedig y pwysleisiau rhyfelgar: ‘Carwch eich gelynion,’ a ‘Gwyn eu byd y tangnefeddwyr’ yw ei neges ef. Os mai Iesu sy’n cyflawni, yna mae’n amlwg fod yr hyn a fynegir yn yr Hen Destament yn anghyflawn.

Ffordd Iesu o weithredu ac ymateb i densiynau hiliol, economaidd a chymdeithasol ei gyfnod a ddylai fod yn sail i ffordd o weithredu unrhyw un sy’n ei arddel ef yn arglwydd ar eu bywydau. Nid yw’r ffordd honno’n arwain at ryfel, dial a chasineb, ffyrdd sy’n nodweddiadol o’n gwladwriaethau. Os yw’r gyfundrefn eglwysig honedig yn hybu’r rhaniadau hynny, yna nid eglwys Iesu mohoni.

Ydy, mae’n wir fod crefydd wedi cyfranu llawer at achosi a hyrwyddo rhyfeloedd; a bod llawer wedi gwneud hynny yn enw Iesu, er mawr gywilydd iddynt. Nid yw Iesu Grist yn rhan o’r rhyfelgarwch hwn, a dylid herio unrhyw un sy’n hybu’r felltith ddieflig o ryfel yn ei enw ef.

Guto Prys ap Gwynfor