Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi y bydd y cyfyngiadau lleol sydd eisoes ar waith ym Mwrdeisdrefi Caerffili a Rhondda Cynon Taf yn cael eu hymestyn i Fwrdeisdrefi Blaenau Gwent, Casnewydd, Merthyr Tudful a Phenybont-ar-Ogwr o 6yh yfory (Medi 22). Gellir gweld oblygiadau hyn i addoldai yn yr ardaloedd hynny yn yr adran arbennig ar frig y dudalen ar wefan Cytûn –http://www.cytun.co.uk/hafan/covid-19-papur-briffio/
Rydym hefyd wedi gwella diwyg y dudalen hon ar y wefan er mwyn ceisio ei gwneud hi’n rhwyddach dod o hyd i wybodaeth benodol, ac er mwyn egluro ymhellach y sefyllfa am wisgo gorchuddion wyneb mewn addoldai – er, yn anffodus, mae gwahanol adrannau o wefan Llywodraeth Cymru o hyd yn dweud pethau gwahanol am y mater hwnnw. Rydym yn parhau i geisio eglurder.
Gethin Rhys
Swyddog Polisi Cytûn