Dyma’r bwletin diweddaraf gan Swyddog Polisi Cytûn, Parchg Gethin Rhys. Rydym yn ddiolchgar am eu gwaith a’u harweiniad.
Dros y diwrnodau diwethaf mae Llywodraeth Cymru wedi diweddaru ei chanllawiau ar gyfer tri maes sydd o bwys i eglwysi a chymunedau ffydd:
- Canolfannau cymunedol, gan gynnwys defnydd cymunedol o addoldai –https://llyw.cymru/defnyddio-canolfannau-cymunedol-amlbwrpas-yn-ddiogel-covid-19
- Cyrchfannau a lleoliadau diwylliant a threftadaeth (yn cynnwys addoldai hanesyddol) – https://llyw.cymru/cyrchfannau-lleoliadau-diwylliant-threftadaeth-canllawiau-ar-gyfer-dychwelyd-yn-raddol-html
- Busnesau twristiaeth a lletygarwch (yn cynnwys caffis mewn addoldai) –https://llyw.cymru/canllawiau-ar-gyfer-busnesau-twristiaeth-a-lletygarwch-coronafeirws-html
Rydym felly wedi diweddaru tudalen wybodaeth Cytûn yn unol â’r canllawiau newydd hyn –https://www.cytun.co.uk/hafan/covid-19-papur-briffio/
Nid oes dim byd arbennig o annisgwyl yn y canllawiau newydd, ond fe’ch atgoffir eu bod yn ganllawiau statudol, a mae’n rhaid rhoi sylw iddynt wrth drefnu gweithgarwch yn ein hadeiladau neu oddi allan iddynt.
Pob bendith,
Gethin Rhys