Diogelu Data

Posted on

Y Casgliad 

Mae pob posibilrwydd i unrhyw siarad am gasgliadau ymhlith Annibynwyr y diwrnodau hyn, agor o leiaf, ddwy drafodaeth, sef cyhoeddi adroddiadau blynyddol yr eglwysi yng ngoleuni Deddf Diogelu Data ynghyd ag Apêl Madagascar, Bywyd i Bawb. Gofid a phryder, fe ymddengys, sy’n gyrru cryn dipyn o’r naill sgwrs, beth bynnag y llall. 

Diogelu data

Ers cyn cof bu’n arfer gan eglwysi ddatgelu gwybodaeth am eu haelodau ar dudalennau eu hadroddiadau blynyddol, ac yn benodol, felly, eu cyfraniadau ariannol tuag at gynhaliaeth a gwaith yr achos. Bellach, yn dilyn sefydlu’r ddeddf diogelu data fis Mai, 2018, gwaherddir y modd hwnnw o weithredu gan achosi ofn a gofid nid bychan i eglwysi. Gan nad da credu pob dim, nid drwg o beth fyddai bwrw ati i gloddio sail y gofid arbennig hwn.

Nid yw’n anodd canfod prif wraidd y cynnwrf ynghylch y mater hwn. Lledodd tybiaeth gyffredin yn ein plith ers cenedlaethau lawer gan ddatblygu’n rhyw fath o argyhoeddiad i amryw sef bod yr adroddiad blynyddol yn gyfrwng i sbarduno cyfrannu da a chyfrifol ymhlith aelodau’r eglwysi ac mai ffolineb o’r mwyaf fyddai ei atal yn ei ffurf bresennol. Gweithred gwbl hunanddinistriol fyddai honno, yn nhyb llawer. 

Y mae lle i gredu, bellach, nad yw’r dybiaeth uchod yn un gwbl gywir. Bod yr adroddiad blynyddol yn gyfrwng effeithiol i annog cyfrannu da ymhlith aelodau eglwysig, sy’n gwestiwn. Daw hynny’n amlwg wrth gribo tudalennau sawl adroddiad a sylwi ar gyfraniadau ddigon pitw llawer o aelodau, a hynny’n ddigyfnewid, dros nifer o flynyddoedd. O symud i’r pegwn arall, clywir o bryd i’w gilydd am aelodau hynod o hael fuasai’n barod i gyfrannu mwy ond sydd, er hynny’n ofni cael eu gweld, ar sail datgelu eu cyfraniadau, fel pobl falch ac ymffrostgar. Ymddengys yn eithaf clir, bellach, i’r adroddiad fethu fel arf i gywilyddio’r esgeulus, beth bynnag am ffrwyno’r hael.

Yn wir mae amryw o eglwysi wedi sylweddoli’r ffaith hon ymhell cyn i’r ddeddf ddod i â hwythau ers tro wedi hen hepgor yr arfer o restru cyfraniadau’r aelodau yn yr adroddiad gan dystio’n ddieithriad na fu hynny’n fygythiad o fath yn y byd i’r eglwys ac mai dros dro, os o gwbl hefyd, y gwelwyd unrhyw ostyngiad yn y cyfraniadau, ac i’r duedd honno gael ei gorbwyso’n fuan wrth i’r aelodau addasu i gyfarfod â gofynion a disgwyliadau trefn newydd. Teg nodi bod rhai eglwysi wrth ddarparu’r fantolen ariannol ac adroddiad blynyddol yn cynnwys yng nghopi unigol pob aelod gofnod, gyda diolch, am ei ch/gyfraniad am y flwyddyn. 

Edrych o’r newydd

Onid oes gan yr eglwysi gyfle yng nghysgod y ddeddf i edrych o’r newydd ar yr hyn sy’n cymell ac annog unrhyw roddi elusengar, gwirfoddol o eiddo’u haelodau. Gallai’r broses honno, o’i chyflawni’n bwyllog ac ystyriol, brofi’n arf effeithiol i ymlid amryw o’r ofnau sy’n ein blino ynghylch y mater hwn. I’r neb fyn weld, y mae mwy dan sylw yma na chadw gofynion cyfraith ac ymateb i ddisgwyliadau deddf. Ynddynt, a thrwyddynt, ceir galwad arnom i adnewyddu’n meddylfryd elusengar ac i ddiwygio’n ffordd o’i fynegi. Dyma gyfle i ail-ddarganfod ac ail sefydlu’n cymhelliad dros fod yn rhoddwyr llawen. 

Cyfrannu da

Rhag ofn bod rhywun yn rhywle’n ddigon o ffŵl i dybio bod y ddeddf yn cynnig dihangfa rhag cyfrannu da nodaf rybudd ddigon amserol o gyfrol W. Rhys Nicholas, Thomas William, Bethesda’r Fro. Tipyn o ddirgelwch yn hanes yr eglwys honno yw’r ffaith na thyfodd y gynulleidfa’n ôl safon a disgwyliadau’i dydd a hynny’n dilyn gweinidogaeth efengylaidd Thomas William, pregethwr ‘ffraeth, trawiadol, ac anarferol o effeithiol,’ dros gyfnod o ddeg mlynedd ar hugain. Mewn ymateb i’r ffaith hon daw’r hanesydd eglwysig, Thomas Rees, i’r casgliad mai gwraidd y diffyg oedd:

Esgeulustod o ddyletswydd grefyddol bwysig, sef cyfrannu arian at gynhaliaeth yr achos. Nid oedd amgylchiadau Mr William yn gofyn am gyfraniadau yr eglwys at ei gynhaliaeth … ac felly cafodd yr aelodau a’r gwrandawyr eu gadael trwy yr holl flynyddau heb gyfrannu ond y nesaf peth i ddim at achos y Gwaredwr. Elfen mor ddinistriol yn ôl Rees, ‘a phe byddai ei holl eglwys yn ddi-weddi.’

Dyfrig Rees