Wythnos nesaf bydd Cynulliad Cymru yn trafod gwelliannau i ddeddf i warchod pobl a natur: Bil Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol.

Ei fwriad, yn fras, yw gorfodi cyrff cyhoeddus i ystyried sut mae eu penderfyniadau yn effeithio ar bobl a natur ledled y byd. Gallai deddf newydd bwerus helpu i fynd i’r afael â thlodi, gwarchod yr amgylchedd a chefnogi iaith a diwylliant Cymru. Mae Cymorth Cristnogol, sydd ag ymgyrch arbennig ar Newid Hinsawdd ar hyn o bryd, yn gofyn a fedrwch chi wneud dau beth dros y dyddiau nesaf?
- Anfonwch neges bys at gynrychiolwyr Amgylchedd a Chynaliadwyedd y pleidiau gan ddefnyddio’r ddolen yma http://bit.ly/lluniocymru
- Rhannwch y neges dros Facebook a Trydar, gan ddefnyddio’r neges isod:
Gweithredwch i sicrhau #BilCD cryf i Gymru sy’n mynd i’r afael â thlodi byd-eang a newid hinsawdd @dileu_tlodi bit.ly/lluniocymru