Dechreuadau Newydd yn y Gogledd!

Posted on

 O dan y cynllun cyffrous Dechreuadau, mae cylch o eglwysi yn dewis 2-3 o bob eglwys i fynychu 4 sesiwn o fyfyrio a thrafod a dan arweiniad y Swyddog Cynnal ac Adnoddau, y Parchg Casi Jones. Bydd y sesiynnau cyntaf yn ystyried “Beth yw eglwys a beth yw ei neges?” Yna, bydd y cynrychiolwyr yn dychwelyd gydag adnoddau i’w rhannu gyda’i heglwysi a syniadau i’w trafod a’u gweithredu.

 Cyfundeb Llŷn ac Eifionnydd yw’r cyntaf i groesawu’r cynllun yma sydd ar gael i eglwysi Annibynol yn y Gogledd. Bu’r cyfarfod cyntaf ar y Sul olaf o Ebrill, pan mae eglwysi Penlan Pwllheli, Siloh Chwilog a Maesyneuadd Trefor yn arfer ymuno mewn Cymanfa. Wrth gynnal y sesiwn yn Siloh dywedodd Casi Jones ei bod yn falch o’r cyfle, wedi cyfnod o ymgynghori a pharatoi, i gael treulio pnawn yng nghwmni aelodau eglwysi ar lawr gwlad. ‘Rwyf yn gwbl sicr fod Duw yn gwneuchwilog 1d rhywbeth newydd cyffrous yn ein plith y dyddiau yma a dwi wrth fy modd yn cael y cyfle i gynorthwyo’r eglwysi i wrando ar Dduw ac i fentro allan ar daith newid. Rwyf yn argyhoeddedig fod na botensial nad ydym wedi ei lawn sylweddoli eto yn aelodau cyffredin ein heglwysi ac bod Duw am ddefnyddio criwiau bach i gyflawni pethau mawr os ydym yn ymddiried ynddo.’

Fel dilyniant, bydd y Swyddog Cefnogi yn ymweld â’r eglwysi unigol sy’n rhan o’r cynllun ar gyfer dwy sesiwn pellach: un i drafod estyn allan i’r gymuned leol ac un i’w cynorthwyo i greu Cynllun Datblygu i’w heglwys ar gyfer y ddwy neu dair blynedd nesaf.

Ar ddiwedd y sesiwn yn Chwilog, dywedodd y Parchg Glenys Jones, Penlan: Cawson ni bnawn buddiol iawn, iawn oedd yn gwneud i ni feddwl o ddifrif am sefyllfaoedd yr eglwysi. Da ni braidd mewn rhigol ac yn cario mlaen yr un hen drefn a mae’n amser i ni feddwl yn fwy blaengar. Dwi’n teimlo hefyd fod pnawn fel hyn yn gyfle i ni fel eglwysi gymdeithasu hefo’n gilydd a hynny’n barhad o’r traddodiad o’r hen Gymanfa.

 Yn ôl Margaret Jones, Siloh, mae cael trafod yn ehangach na dim ond yn ei eglwys leol o fudd ‘Da ni ddim yn cael digon o drafodaeth am ein ffydd a mae cael trafod gyda phobl o eglwysi eraill yn help weithiau yn hytrach na thrafod gyda phobl da chi’n nabod. Da ni’n dysgu oddi wrth ein gilydd.”

cullen_edited-1Bu’r prynhawn yn werthfawr iawn meddai Emlyn Cullen o Maesyneuadd (yn y llun). ‘Mae’n gwneud i bobl feddwl am eu rôl yn eu heglwys, i ba gyfeiriad mae hi’n mynd a beth yw ei dyfodol hi, a mae o’n gyfle i bobl ddod at ei gilydd o wahanol eglwysi i drafod eu problemau, a’u safbwyntiau a thrio ffeindio eu ffordd ymlaen. Ond, os ydych chi’n ystyried gwahodd y cynllun Dechreuadau i’ch cylch, peidiwch disgwyl pregeth na darlith na chyfle i eistedd a gwrando yn hir. “Gyda sesiwn ‘Dechreuadau’,’da chi’n gorfod meddwl, ‘da chi’n gorfod ymateb,” meddai Emlyn, ‘Mae posib mynd i gysgu mewn oedfa yn toes, pan da chi’n gwrando ar bregethwr, ond mae’n wahanol mewn cyfarfod fel hyn, mae disgwyl i chi ddweud rhywbeth, mae’n procio’r meddwl a mae na fanteision yn ei wneud o ffordd hyn siwr o fod.”

 Roedd pawb wedi mwynhau y pnawn, ond oedd yna rywbeth y gellid ei gario nôl i’r eglwysi? Y perygl yw fod pobl yn mwynhau trafod ac yna’n mynd adre a dyna hi. Yn ôl Glenys Jones,Mae’n rhoi hwb i rywun feddwl am syniadau newydd, am bethau gwahanol a nid yn unig ymestyn allan i’r gymdeithas ond mynd ar ôl ein haelodau ein hunain” Ychwanegodd Margaret Jones: “Y peth pwysig yw fod na ddilyniant. Y gobaith yw ar ôl heddiw y byddan ni wedi cael amser i feddwl ac i drafod ymhellach.’

 Un o amcanion Dechreuadau yw helpu unigolion ac eglwysi i gefnu ar agweddau negyddol a digalondid ac i ennill hyder a chryfhau ffydd. Oedd pobl yn teimlo’n fwy gobeithiol ar ôl bod yn y sesiwn Dechreuadau? Mae Emlyn Cullen yn ystyried ei hun yn greadur gobeithiol. ‘Mae gan yr Eglwys neges bwysig i’w chyhoeddi. Dwi’n meddwl mewn cyfarfod fel hyn da ni’n ystyried ffordd da ni’n cyrraedd at bobl, ffordd da ni’n mynd â’r neges honno yn ei blaen, meddwl am ffordd amgenach o genhadu. Yr hyn dwi’n obeithio yn yr eglwys yw – dwi’n gwybod fod Duw wrth ei waith ond dwi’n gwybod ei fod o yn dibynnu arnom ni hefyd.

 Meddai’r Parchedig Ddr Geraint Tudur, Ysgrifennydd Cyffredinol Undeb yr Annibynwyr: ‘Rwy’n llongyfarch Cyfundeb LLŷn ac Eifionnydd am fentro mewn ffydd gyda’r cynllun hwn, a byddaf yn gweddïo y bydd Duw yn defnyddio’r cyfarfodydd i ychwanegu at hyder yr eglwysi a’u galluogi i dystio i’r Arglwydd Iesu gyda brwdfrydedd newydd. Dymunaf bob bendith iddynt!’