Cynhadledd Hanes Heddwch

Posted on

Mae Medi 21ain wedi ei ddynodi yn Ddiwrnod Rhyngwladol Dros Heddwch gan y Cenhedloedd Unedig ers nifer o flynyddoedd bellach. Yn flynyddol y mae’r nifer o gymdeithasau, cymunedau a mudiadau sy’n cymryd rhan yn y digwyddiadau cyhoeddus ar y diwrnod hwn yn cynyddu. Digwydd hyn ar draws y byd.

Eleni fe gynhaliwyd cynhadledd arbennig yng Nghaerdydd i nodi’r diwrnod. Yr oedd sawl mudiad ynghlwm wrth y trefniadau; fe’i noddwyd gan Menter Academi Heddwch Cymru, Y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, Mudiad Dros Wahardd Rhyfel (Movement for the Abolition of War), Cymdeithas y Cymod, Cymru Dros Heddwch a phrifysgolion Cymru: Y Drindod Dewi Sant, Caerdydd, Aberystwyth ac Abertawe.

 

Llywiwyd y cyfarfodydd amrywiol yn ddeheuig gan Mererid Hopwood, Cadeirydd Cymdeithas y Cymod yng Nghymru, ac fe gafwyd nifer o gyfraniadau creadigol a bywiog gan wŷr a gwragedd oedd yn arbenigo yn eu meysydd (gan fwyaf). Fe’n hysbrydolwyd gan Sophie Howe, Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol, Cymru, wrth iddi roi amlinelliad o’i gwaith yn herio Llywodraeth Cymru i ystyried canlyniadau hir dymor ei bolisiau a’i benderfyniadau. Cyflwynwyd hanes David Davies, Llandinam (brawd y ddwy chwaer a fu’n byw yn Gregynog) gan yr athronydd Huw Williams, Caerdydd. Ffrwyth gweledigaeth Davies yw’r Deml Heddwch ei hun. Soniodd Jon Gower am lyfr ac ‘app’ sydd ar gael i arwain pobl o gylch y mannau sy’n gysylltiedig â’r frwydr dros heddwch yng Nghaerdydd.

Codwyd y Faner Heddwch yn yr Ardd Heddwch sy’n gysylltiedig â’r Deml. Bruce Kent a gafodd yr anrhydedd o wneud hynny. Fe roes anerchiad hynod o ysbrydoledig yn olrhain y pwysigrwydd o dystio ar bob cyfle dros Ffordd Tangnefedd. Bruce Kent yw prif ysgogydd y Mudiad Dros Wahardd Rhyfel; fel offeiriad yn Eglwys Rufain fe ddaeth yn amlwg fel un a wrthwynebai pob paratoi ar gyfer rhyfela.

Gyda’r hwyr fe gynhaliwyd Cyngerdd yng nghapel Tabernacl, yr Ais. Gwefreiddiwyd y gynulleidfa gan gyflwyniadau Côrdydd a chôr ieuenctid Heol y March, a’r feiolinydd ifanc Charlie Lovell Jones. Yn ystod y cyngerdd fe lawnsiwyd cyfrol o waith Aled Eirug sef Gwrthwynebwyr Cydwybodol Cymru a’r Rhyfel Byd Cyntaf, ac efe oedd y cyntaf i anerch y Gynhadledd fore trannoeth am gynnwys y llyfr. Yn dilyn hynny fe gyflwynwyd hanes rhyfeddol Franz Jaegerstaetter, un a ddienyddiwyd gan y Natsiaid oherwydd ei heddychiaeth, gan Valerie Flessati o’r Mudiad Dros Wahardd Rhyfel. 

Cyflwynwyd dau bapur ardderchog gan ddwy ifanc; ffrwyth ymchwil manwl a phwysig. Y naill oedd Bethan Siân Jones a soniodd am bwysigrwydd y gwrthdystiadau a gynhaliwyd ym Mreudeth yn yr 80au at dwf y Mudiad Heddwch. Y llall oedd Lowri Ifor a amlinellodd gyfraniad y Ddeiseb Heddwch rhyfeddol a gyflwynwyd gan wragedd Cymru i Gyngres y Cenhedloedd, rhagflaenydd y Cenhedloedd Unedig, yn y 20au o’r ganrif ddiwethaf. Mae anwybodaeth y Cymry am y digwyddiadau hyn yn bechadurus!

Wedi cael cipolwg ar gyfraniadau’r beirdd T. E. Nicholas a Waldo Williams gan Guto Prys ap Gwynfor fe gafwyd cyflwyniad hynod ddiddorol gan David Petersen ar y modd y defnyddiwyd celfyddyd gweledol i dystio dros Heddwch. Bu Jane Harries, cydlynydd Cymdeithas y Cymod ac un sy’n gweithio gyda Cymru Dros Heddwch, yn rhoi amlinelliad o Dreftadaeth Heddwch Cymru cyn i ferch ifanc arall, Siwan Dafydd, olrhain hanes a chyfraniad Neges Ewyllys Da yr Urdd. Mi roedd yn wefreiddiol gweld y bobol ifainc yma’n cyflwyno’u deunydd gyda’r fath afiaith. Yn ysbeidiol, rhwng y sesiynau, fe gyfoethogwyd profiad pawb oedd yn bresennol wrth i’r beirdd yn ein plith gyflwyno cerddi o’u gwaith eu hunain: Mererid Hopwood, Tudur Dylan a Robin Gwyndaf. Gwnaeth merch ifanc, eto fyth, Anni Davies, gyfraniad arbennig drwy ddarllen un o gerddi Alan Llwyd.

Barn y cynadleddwyr oedd ei bod hi’n amlwg bod angen i bobol gael eu haddysgu am y materion a drafodwyd. Mae’r frwydr dros heddwch wedi bod yn un cyffrous a dewr iawn, er hynny does nemor ddim sôn amdani yn ein hysgolion nac ar ein cyfryngau. Mae adnoddau anferth yn cael eu rhoi i hyrwyddo ffordd rhyfela, a phitw yw’r hyn a roir i hyrwyddo ffordd Tangnefedd. Onid yw hynny’n rhyfedd o feddwl bod ‘neb’ yn mofyn rhyfel a ‘phawb’ yn mofyn heddwch?

Mae angen i ni, yn ein heglwysi, sôn am heddwch yn gyson, mae deall ‘ffordd tangnefedd’ yn sylfaenol i’n gallu i ddeall ffordd Iesu. Mae angen gwirioneddol arnom i bwyso ar awdurdodau addysg i sicrhau bod pwyslais ar heddwch yn rhan o’r cwricwlwm, a phwyso ar Lywodraeth Cymru i fabwysiadu gweledigaeth o ffordd heddwch a chyfiawnder a’i osod yn ganolog i’w holl bolisïau a chynlluniau. Pe byddem yn rhoi gymaint o adnoddau i mewn i hyrwyddo ffordd heddwch ag y gwnawn i hyrwyddo ffordd rhyfel fe gaiff ein byd ei drawsffurfio!

Guto Prys ap Gwynfor