Cynhadledd Cefn Gwlad

Posted on

HELPU’R AMAETHWR NA ŴYR AT BWY I DROI

Yn ystod tymor y cyrddau diolchgarwch rydym wedi bod yn canu am y cynhaeaf ac am haelioni byd natur. Ond mae problemau dwys yn llechu y tu ôl i brydferthwch cefn gwlad. Mae ffermio’n gallu bod yn alwedigaeth unig iawn, a’r amaethwr yn aml heb wybod at bwy i droi er mwyn trafod gofidiau sy’n gallu esgor ar iselder ysbryd. Mae’n ffaith frawychus bod achos bob wythnos o un ffermwr yn cyflawni hunanladdiad yng Nghymru a LloegrAc eleni mae ffermwyr yn wynebu ansicrwydd mawr am sefyllfaallforion cig a’r drefn cymorthdaliadau wrth i Brydain baratoi i adael y Gymuned Ewropeaidd. Consérn am hyn ysgogodd dwy o Adrannau Undeb yr Annibynwyr Cymraeg i gydweithio er mwyn trefnu cynhadledd yng Ngholeg Meirion Dwyfor, Dolgellau ganol fis Hydref. Cafodd y gynhadledd gryn sylw ar raglenni Radio Cymru cyn, ac ar ôl, yr achlysur. Seiliwyd yr erthygl hon ar gofnodion y gynhadledd gan Ifan Alun Puw. 

Rhaid gwybod sut i ymateb

 Er gwaetha’r tywydd garw, roedd tua 25 o bobl yno i wrando ar siaradwyr nodedig iawn, ac i drafod y ffordd ymlaen. Ar ôl i Ifan Alun Puw, Cadeirydd Adran Tystiolaeth yr Undeb, estyn croeso i bawb, fe gadeiriwyd y cyfarfod gan Malcolm Thomas o Sir Gâr, sy’n Gadeirydd RABI Cymru a Lloegr. Dywedodd bod yr elusen yn aml yn delio â galwadau gan bobl sydd yn dioddef o broblemau iechyd meddwl ac iselder. Maent yn medru cyfeirio’r dioddefwyr at gymorth arbenigol, a’u bod hwy erbyn hyn a’u harbenigwyr eu hunain. Fel is-gadeirydd Tir Dewihefyd esboniodd fod yr elusen honno wedi cychwyn tua dwy flynedd yn ôl ar wahoddiad Esgob Tŷddewi, a thrwy frwdfrydedd y Parchg Ganon Eileen Davies. Nododd bod Tir Dewiwedi bod yn hynod o lwyddiannus gyda gwirfoddolwyr yn derbyn hyfforddiant, ac mae buddiol fyddai cydweithio gydag elusennau sy’n bodoli eisoes. Pwysleisiodd Malcolm Thomas pa mor bwysig yw hi i ymateb yn syth i’r dioddefwr a’i gyfeirio ef neu hi at asiantaethau sy’n gallu cynnig cymorth. Nid yw gwneud dim yn ymateb priodol.

Profiad personol amaethwr adnabyddus

 Amaethwr sydd wedi profi iselder ei hun yw Alun Elidyr, sydd hefyd yn actor ac yn gyflwynydd y rhaglen Ffermioar S4C.  Roedd ar y panel fel cynrychiolydd Undeb Amaethwyr Cymru.  Adroddodd beth o’i brofiad personol – am y blinder parhaus wnaeth arwain at iselder a cholli hyder, gan ei wneud yn fwy mewnblyg nes ei fod yn methu wynebu pobl. Yr hyn a fu’n achubiaeth iddo oedd y bobl o’i gwmpas. Pwysleisiodd Alun fod ymweliadau gan bobl sydd â chydymdeimlad ac empathi yn hanfodol. Nododd hefyd nad yw cyffuriau’r meddyg yn ddim ond ateb dros dro. Er hynny, roedd yn ddiolchgar iawn i’r gwaith mae Nyrs Ann Thomas a Stephen Evans o ysbyty Dolgellau yn ei wneud, ac awgrymodd yn gryf ein bod yn cysylltu gyda hwy i gael cyngor a thrafodaeth fanlyach. Ategwyd hyn gan Huw Jones, Swyddog yr FUW ym Meirionydd.

Sail Gristnogol i’r gwaith

Dywedodd Aled Jones, is-lywydd NFU Cymru, ei fod yn ddiolchgar iawn i Undeb yr Annibynwyr am drefnu cynhadledd ar destun mor bwysig. Nododd yr unigrwydd sy’n medru effeithio ar y rhai sy’n gweithio yn y maes, gan fod llai a llai yn gweithio yng nghefn gwlad bellach. Credai fod gan yr Eglwys a’r Efengyl neges bendant, gan ddyfynnu’r adnod: ‘Deuwch ataf fi bawb sy’n flinedig ac yn llwythog …’ (Math. 11:28) Roedd hefyd yn pwysleisio pa mor bwysig yw hi i gyfeirio’r sawl sy’n dioddef o iselder ysbryd at bobl gymwys, a pheidio ceisio delio â’u cyflwr eich hunan, gan y gall dweud rhywbeth anghywir ddwysau’r broblem yn hytrach na helpu.

Rôl yr eglwysi a’u gweinidogion

Datgelodd y Parchg Carwyn Siddall, Ysgrifennydd Adran Tystiolaeth yr Undeb, ei fod yn ymwybodol iawn o’r hyn sy’n poeni amaethwyr, gan fod ei dad a’i frawd yn ffermio. Esboniodd hefyd beth oedd y cefndir i’r gynhadledd. Soniodd am uned gaplaniaeth y Sioe Fawr yn Llanelwedd a’r adroddiad a gawsant yn nodi’r pynciau ddaeth i’r amlwg yn y sioe. Gan fod y mwyafrif o’r 400 o eglwysi Annibynnol sy’n perthyn i Undeb yr Annibynwyr mewn ardaloedd gwledig, Cymraeg eu hiaith, codwyd y mater gan yr Undeb ac fe aeth dwy o’i Adrannau ati i gydweithio er mwyn cynnal y gynhadledd hon. Pwysleisiodd Carwyn mai pwrpas y gynhadledd oedd trafod syniadau ymarferol ar gyfer cael atebion. Mewn sawl ardal, lle mae’r ysgol, y siop a’r dafarn wedi cau, dim ond mewn capel neu eglwys y gall bobl gwrdd i gymdeithasu. Credai bod gan yr eglwysi a’u gweinidogion le amlwg i’w chwarae yn hyn o beth, wrth gydnabod bod llai a llai o weinidogion ar lawr gwlad a bod llawer i eglwys yn fach o ran nifer aelodau.

Diolchgarwch

 Yn dilyn trafodaeth fywiog ac adeiladol, diolchwyd i’r cadeirydd, aelodau’r panel, y ddau undeb amaethyddol, Ffermwyr Ifanc Meirionnydd, yr eglwysi ac unigolion am fynychu. Cyfeiriwyd at gyfarfod tebyg a gynhelir yng Nghanolfan Bryn-y-Groes, Y Bala ar 17 Tachwedd, am 2.00pm dan nawdd Mudiad Efengylaidd Cymru. Testun y cyfarfod fydd: Cefnogaeth Gristnogol i Amaethwyr.

Yn y llun: lun: Aled Jones (NFU), Alun Elidyr (FUW, Malcolm Thomas (Cadeirydd) a’r Parchg Carwyn Siddall.